CAM 3 WEDI CAU AM DDATGANIADAU O DDIDDORDEB
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector – cam 3 wedi pasio bellach. Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno Datganiad, bydd angen i chi gwblhau cais llawn nawr.
Y diwrnod olaf y byddwn ni’n gallu derbyn ceisiadau am gyllid fydd 9am ar ddydd Llun 21 Chwefror 2022. Dylid nodi fodd bynnag, oherwydd y swm eithriadol o uchel o Ddatganiadau rydyn ni wedi’u derbyn, bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y cyntaf i’r felin.
Argymhellwn yn gryf eich bod yn cyflwyno’ch cais cyn gynted â phosibl. Yn anffodus, gyda lefel y galw rydyn ni wedi’i weld, ni allwn ni sicrhau y bydd pob cais yn cael ei gyflwyno i’r panel am benderfyniad.
CYLLID CAM 3
Mae Cam 3 Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru (TSRF) yn rhan o’r £2.4 miliwn o gymorth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae cyllid grant ar gael i helpu mudiadau gwirfoddol gyda’r costau i ddod drwy bandemig COVID-19 a/neu i fuddsoddi mewn gweithgareddau newydd neu ychwanegol a fydd yn cynhyrchu elw y tu hwnt i’r cyfnod cyllido.
Mae’r cyllid ar gyfer mudiadau gwirfoddol o bob lliw a llun yng Nghymru, megis elusennau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol neu Gwmnïau Buddiannau Cymunedol (CICs).
Er mwyn galluogi adferiad teg a chyfiawn yng Nghymru, mae cam newydd y TSRF yn rhoi blaenoriaeth i fudiadau sy’n cynorthwyo unigolion neu gymunedau y gallai cael eu heffeithio gan anffafriaeth, a’r rheini nad ydynt wedi derbyn cyllid TSRF o’r blaen.
Mae ceisiadau ar agor i unrhyw fudiad gwirfoddol cymwys yng Nghymru, ac mae cymorth ar gael i helpu mudiadau i wneud yn siŵr eu bod yn gymwys ar gyfer y gronfa.
YNGLŶN Â’R GRONFA
Wedi’i rheoli gan ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, mae grantiau o hyd at £50,000 ar gael. Os bydd y gweithgaredd yn gofyn am fwy na hynny o gyllid, mae cyfle i wneud cais am fenthyciad gan Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru os bydd angen.
Mae’r gronfa wedi’i rhannu’n ddau gategori:
GOROESI
Gan gydnabod nad oedd effaith COVID-19 wedi effeithio ar fudiad neu wedi dod i’r amlwg tan yn ddiweddarach, mae’r categori hwn wedi’i gynllunio i drechu unrhyw ostyngiad digyffelyb yn eich incwm codi arian a derbyn rhoddion.
Nid diben y gronfa yw adennill incwm a gollwyd – ei diben yw darparu digon o gyllid i dalu gwariant hanfodol na ellir talu amdano gan unrhyw incwm sydd ar ôl nac ymyriadau cynorthwyol eraill. ‘Y cyllid dewis olaf’.
Mae rhai enghreifftiau o sut y defnyddiwyd cyllid ‘goroesi’ yn cynnwys:
- Costau craidd neu hanfodol y mudiad
- Costau staffio
- Cyfleustodau a/neu rent
FFYNNU
Bydd cyllid hefyd yn cael ei ddyrannu i helpu mudiadau i ddod yn gryfach ac yn cynllunio’n well ar gyfer y dyfodol, er enghraifft, trwy newid eu ffrydiau incwm neu i fuddsoddi yn y mudiad er mwyn caniatáu iddo dyfu ac ehangu.
Bydd y gofynion yn debyg iawn i’r categori ‘goroesi’, ond bydd hefyd yn gofyn am gynllun a rhagolwg llif arian i gefnogi’r gweithgaredd newydd.
Mae enghreifftiau o sut y defnyddiwyd cyllid ‘ffynnu’ yn cynnwys:
- Cyflogi staff ychwanegol i ddatblygu mentrau cynhyrchu incwm fel swyddog codi arian, swyddog datblygu, cydlynydd neu swyddog cyfathrebu
- Buddsoddi mewn seilwaith TG
- Datblygu cyfleoedd incwm newydd fel siop ar-lein
WEBINAR GYDA BUSNES CYMDEITHASOL CYMRU
Gweminar: Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector | Webinar: Third Sector Resilience Fund
Cynhaliwyd y Gweminar hon gan Busnes Cymdeithasol Cymru ar 22 Medi 2021.
YDW I’N GYMWYS?
Mae’r cyllid ar gael ledled Cymru i fudiadau o’r sector gwirfoddol sy’n gorfforedig. Gall mudiadau anghorfforedig ymgeisio, ond bydd angen iddynt ddod yn gorfforedig cyn y bydd unrhyw gyllid yn cael ei ryddhau. Mae cymorth ar gael i helpu mudiadau gyda’r broses o ddod yn gorfforedig.
Gellir gweld manylion llawn ar gymhwysedd yn ein canllawiau cymhwysedd:
Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru – cymhwysedd
SUT I WNEUD CAIS
I gael manylion llawn y gronfa, darllenwch ganllawiau’r cynllun:
Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru – canllawiau’r cynllun
Mae gan TSRF broses ymgeisio agored. Bydd y panel yn cwrdd i ddyfarnu’r cyllid yn ystod yr Hydref, y Gaeaf a’r Gwanwyn. I gael eich ystyried ar gyfer y panel Gaeaf, argymhellir eich bod yn ymgeisio cyn gynted â phosibl.
COFRESTRU AR MAP
Er mwyn cyflwyno cais am gyllid, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi drwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref.
Gall sefydliadau gofrestru drwy ymweld â’r wefan https://map.wcva.cymru.
CYSYLLTU Â NI
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at sic@wcva.cymru yn gyntaf yn hytrach na ffonio – rydyn ni’n rhagweld y bydd galw mawr am y cyllid, a bydd hyn yn ein galluogi ni i ymdrin ag ymholiadau yn y modd mwyaf effeithlon.
YNGLŶN Â BUDDSODDIAD CYMDEITHASOL CYMRU
Ewch i’n tudalen Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael.