Yng ngŵydd hinsawdd ariannol heriol, mae’r Gronfa Fenthyca Pontio ac Adeiladu yn helpu mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i ailstrwythuro neu newid y ffordd y maen nhw’n gweithredu.
Mae’r pwysau ariannol cyfredol ar fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn amlwg, gyda chostau’n mynd drwy’r to ac adnoddau’n brin.
Gwyddom fod llawer o fudiadau yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch y ffordd y maen nhw’n gweithredu er mwyn ymdopi. Mae ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru wedi bod yn rhoi cynlluniau ar waith i helpu mudiadau i reoli’r heriau hyn.
Bydd ein Cronfa Fenthyca Pontio ac Adeiladu yn cynorthwyo mudiadau sy’n addasu eu modelau busnes i gyd-fynd â’u hamgylchiadau newydd a’r rheini sy’n lleihau eu busnesau.
NID BENTHYCIAD YW’R ATEB I BAWB
Mae’r benthyciadau hyn wedi’u cynllunio ar gyfer mudiadau gwirfoddol sy’n masnachu neu’r rheini sy’n datblygu eu cynnig masnachu.
Ni fydd benthyciad yn briodol i bawb, ond gall benthyca fforddiadwy wneud gwahaniaeth o dan yr amgylchiadau cywir. Bydd y benthyciadau hyn yn cefnogi mudiadau drwy eu cyfnod pontio a gellir eu had-dalu pan fydd y mudiadau mewn sefyllfa gryfach yn y dyfodol.
BETH SYDD AR GAEL?
Benthyciad pontio – Hyd at £150,000 i bontio’r bwlch pan fydd eiddo yn cael ei werthu i leihau costau neu fel rhan o broses ailstrwythuro. Bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu o werthiant yr eiddo.
Benthyciad adeiladu – Hyd at £100,000 i gefnogi’r llif arian wrth i’r modelau masnachu neu weithredu gael eu newid. Bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu unwaith y bydd y dull gweithredu mwy proffidiol yn ei le.
3.5% o log yn y flwyddyn gyntaf, 7% yn yr ail flwyddyn.
BETH FYDDWN NI’N EI GYLLIDO
Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y byddwn ni’n eu cyllido:
- Gwerthu eiddo pan mae angen amser arnoch i wneud hynny neu pan fydd angen talu costau yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys costau diswyddo
- Pontio bylchau ariannol mewn cyfnod o ailstrwythuro
- Cyflwyno model masnachu newydd y gallai fod angen adeiladu ei gapasiti cyn iddo ddod yn broffidiol
I BWY MAE HWN?
Bydd mudiadau cymwys yn:
- Fudiad gwirfoddol sy’n masnachu neu’n un sy’n datblygu ei gynnig masnachol
- Mudiad sydd wedi’i gyfansoddi’n briodol gyda strwythur llywodraethu cymwys
- Mudiadau yng Nghymru
Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd angen i chi gael adolygiad annibynnol o’ch amcanestyniadau ariannol a bydd grant ar gael i dalu’r costau hyn.
SUT I WNEUD CAIS
Bydd rhagor o fanylion ar y Gronfa Fenthyca Pontio ac Adeiladu yn dod yn fuan. Yn y cyfamser, os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio, cysylltwch â’ch tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru: buddsoddiadcymdeithasolcymru@wcva.cymru neu 0300 111 0124.
Mae’r broses yn dechrau trwy gwblhau holiadur cymhwysedd. I gwblhau hwn, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ymgeisio Amlddiben CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi drwy nodi eich enw defnyddiwr a chyfrinair ar y sgrin gartref.
Gall mudiadau gofrestru trwy fynd i’r wefan: map.wcva.cymru.