Cyd-fentro, cyd-elwa

**Mae’r gronfa hon bellach ar gau**

Roedd y Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol yn cefnogi busnesau cymdeithasol sydd wedi ddod ag ased o dan berchnogaeth gymunedol – drwy un o’r ffyrdd canlynol;

  • prynu’r ased
  • prynu ac ailwampio’r ased
  • ailwampio ased sydd eisoes yn bodoli ond nad yw’n cael ei ddefnyddio’n llawn
  • cyfarparu ased

Gall y math o ased amrywio o glybiau cymdeithasol/chwaraeon, neuaddau cymunedol, canolfannau cymunedol, tafarndai cymunedol ayyb. 

Roedd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos sut y byddai’r gweithgaredd a ariennir yn creu newid cadarnhaol mewn effaith gymdeithasol yn ogystal â newid cadarnhaol mewn cynhyrchu incwm.

Ariannwyd Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru, a dyma’r llinyn nesaf o fuddsoddiadau a weinyddir gan Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.

Y broses benderfynu

Casglwyd y wybodaeth yn ymwneud â phob cais a’i chyflwyno i’r panel a benderfynodd pa brosiectau i’w hariannu.

Faint?

Gallai mudiadau wneud cais am hyd at £150,000 yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd (GCC) a £100,000 yn Nwyrain Cymru. Roedd angen arian cyfatebol o 40% o leiaf yn GCC a 50% yn EW. Er enghraifft, i gael mynediad at £150,000 o gyllid yn GCC roedd angen £100,000 o arian cyfatebol ychwanegol.

Mae Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol yn grant o 40% a 60% o gymorth ad-daladwy. Mae faint fyddai’n cael ei ad-dalu yn dibynnu ar faint mae incwm y mudiad yn cynyddu.

Beth yw’r broses ymgeisio?

Roedd proses ymgeisio dau gam. Y cam cyntaf oedd ‘Holiadur Cymhwysedd’ a oedd yn gwirio cymhwysedd. Byddai ymgeiswyr llwyddiannus yn symud i’r ail gam sef y Cais am Gymorth Ariannol, lle mae hyfywedd y cynnig yn cael ei brofi. Roedd hefyd yn mesur sut y bydd y gweithgaredd arfaethedig yn cyflawni yn erbyn y Nodau Llesiant sy’n gysylltiedig â’r Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Roedd angen i fudiadau a oedd yn dymuno cyflwyno EQ gofrestru ar MAP. Cyn hynny roedd yn hanfodol cael trafodaeth gyda thîm Buddsoddi Cymdeithasol Cymru.

Beth yw’r strwythur?

Roedd strwythur y cymorth ariannol oedd ar gael:

  • 40% mewn grant traddodiadol
  • 60% mewn cymorth ad-daladwy (0% llog, hyd at 10 mlynedd o ad-dalu yn dechrau ym mlwyddyn 3)

Strwythur y gronfa yw 12 mlynedd i gyd, gyda 2 flynedd o wyliau ad-dalu ar ddechrau’r prosiect. Yn ystod y 2 flynedd hyn rydym yn disgwyl i fudiadau ddangos newid cadarnhaol o ran effaith gymdeithasol a chynhyrchu incwm.

O’r cymorth ad-daladwy, y llwyddiant o ran cynyddu incwm sy’n pennu faint sy’n cael ei ad-dalu, hyd at uchafswm o 60% o’r dyfarniad.

Gwybodaeth bellach

Ebost: sic@wcva.cymru

Ffôn: 0300 111 0124