Yn cefnogi busnesau cymdeithasol yng Nghymru gyda buddsoddiad cymdeithasol ar ffurf benthyciad
Mae’r Gronfa Fuddsoddi Cymunedol yn gronfa sydd wedi hen ennill ei phlwyf a hithau wedi cefnogi dwsinau o fusnesau cymdeithasol yng Nghymru i dyfu drwy ddarparu miliynau o bunnoedd mewn buddsoddiad cymdeithasol ar ffurf benthyciadau.
Ariannwyd y Gronfa Fuddsoddi Cymunedol gan yr UE yn wreiddiol, ac mae hi bellach yn ei thrydydd cyfnod ac yn parhau i roi benthyciadau drwy’r arian a ad-dalwyd o’r buddsoddiadau a wnaed fel rhan o’r prosiect gwreiddiol a ariannwyd gan yr UE.
Felly os ydych yn fusnes cymdeithasol yng Nghymru ac rydych am ehangu, hybu’ch gallu i greu incwm neu brynu ased yna hwyrach y gall benthyciad o’r Gronfa Fuddsoddi Cymunedol fod o gymorth.
Ein nod yw rhoi benthyciad pan fydd eraill yn gwrthod; gan hynny, mae ein harchwaeth risg a’n strwythur prisio yn adlewyrchu’r agwedd honno.
Mae benthyciadau rhwng £50,000 a £250,000 ar gael o’r Gronfa gyda chyfradd llog awgrymedig o gwmpas 7%.
Os oes gennych ddiddordeb yn opsiynau buddsoddi cymdeithasol WCVA, cysylltwch â Caryl, Alun, Seema neu Rhys i gael sgwrs gychwynnol drwy ffonio 0300 111 0124 neu ebostio sic@wcva.cymru.