Wedi’i chyllido gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol yn benthyg cyllid i grwpiau sy’n ceisio dod ag eiddo o dan berchnogaeth gymunedol.

Mae’r Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol (CALF) yn gynllun a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.

Mae benthyciadau ar gael i gynorthwyo i fudiadau gwirfoddol gymryd perchnogaeth o ased ar gyfer y gymuned. Mae CALF wedi’i chynllunio i wobrwyo’r rheini sy’n gallu dangos ymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi neu’r newid yn yr hinsawdd, gyda chyfleoedd i gael gostyngiadau mewn cyfraddau llog safonol.

BETH GALL CALF EI GYNNIG I CHI

Mae CALF yn cael ei rheoli gan dîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC sy’n ceisio benthyg arian pan fydd benthycwyr traddodiadol yn gwrthod. Mae’r gronfa fenthyciadau yn ychwanegiad cyffrous i’n hamrediad o fenthyciadau, grantiau ac opsiynau buddsoddi cyfunol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Mae benthyciadau o hyd at £300,000 ar gael i brynu eiddo i’w ddefnyddio gan y gymuned, neu i’w ddefnyddio gan grwpiau a fydd yn cyflwyno buddion i’r gymuned, fel elusennau, mentrau cymdeithasol neu Gwmnïau Buddiannau Cymunedol (CICs).

Yn wahanol i fenthyciadau banc traddodiadol, gall CALF gyllido hyd at 100% o werth yr eiddo.

Bydd CALF hefyd yn ategu trefniadau benthyca sydd eisoes yn bodoli. Anogir mudiadau sydd eisoes â chynlluniau ar waith i gyllido pryniant eiddo yn rhannol i gysylltu â Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru i weld sut gallwn ni eich cynorthwyo i gael gafael ar weddill yr arian.

CYFRADDAU GOSTYNGEDIG I DDATBLYGIADAU CYNALIADWY

Rydyn ni’n gweithio gyda’n chwaer-fudiad, Cynnal Cymru, mudiad datblygu cynaliadwy mwyaf blaenllaw Cymru.

Mae hyd at 1% o ostyngiad ar gyfraddau llog ar gael i fudiadau sydd wedi’u hachredu, neu a fydd yn cael eu hachredu fel cyflogwyr Cyflog Byw, a/neu’r rheini sy’n gweithredu ac yn cynnal a chadw cynllun gweithredu amgylcheddol.

Mae grantiau bach hefyd ar gael ar adeg prynu’r eiddo i helpu mudiadau i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a’i roi ar waith wrth reoli eu heiddo.

RHAGOR O WYBODAETH

Mae’r Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol ar agor am geisiadau nawr. I gael rhagor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb, cysylltwch â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn sic@wcva.cymru.