Cefnogi arweinwyr disglair yn y sector gwirfoddol

Nod Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yw helpu arweinwyr yn y trydydd sector i ddatblygu eu sgiliau arwain entrepreneuraidd. Mae’r dyfarniad blynyddol yn rhoi £2,500 i gefnogi unigolyn yng Nghymru i ddod yn arweinydd gwell.

YNGLŶN Â WALTER

Fel aelod o fwrdd WCVA cafodd arbenigedd a phrofiad Walter Dickie, a’i ymroddiad i’r sector gwirfoddol, effaith ddofn ar waith WCVA ac ar y rheini a gafodd y pleser o weithio gydag ef.

Bu Walter yn cefnogi WCVA am dros ddeng mlynedd fel ymddiriedolwr gan chwarae rôl allweddol yn llywio’r mudiad ac yn helpu i sefydlu’r Gronfa Fuddsoddi Cymunedol arloesol sy’n benthyg arian i fusnesau cymdeithasol. Mae’r gronfa honno’n dal ar waith heddiw, yn wir hi yw conglfaen cymaint o’n gweithgaredd buddsoddi cymdeithasol presennol.

Diolch i ymroddiad Walter, mae WCVA wedi gallu rhoi benthyg dros ddeg miliwn o bunnoedd i fudiadau cymunedol, llawer ohonynt ar waith yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Ymysg llwyddiannau di-rif, mae’r gronfa wedi helpu i achub y tafarndai olaf mewn cymunedau gwledig, rhoi hwb cychwynnol i ffyniant chwaraeon eithafol yn y Gogledd, darparu amgylchedd diogel i blant y mae eu gofal maeth wedi methu, adfer hen adeiladau at ddefnydd y gymuned, creu cannoedd o swyddi a galluogi cymunedau i reoli asedau yn eu trefi a’u pentrefi eu hunain.

Yn drist iawn, bu farw Walter yn 2017 felly er cof amdano, ac i barhau i ddatblygu’r arweinyddiaeth entrepreneuraidd yn y sector gwirfoddol y rhoddodd ef gymaint o amser i’w chefnogi, mae CGGC wedi sefydlu Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie.

YNGLŶN Â’R BWRSARI

Bydd bwrsari gwerth £2,500 yn cael ei ddyfarnu bob blwyddyn i rywun mewn rôl arwain o fewn mudiad gwirfoddol yng Nghymru i’w helpu i ddod yn arweinydd mwy entrepreneuraidd. Gallai hyn fod yn rhywun sy’n gweithio mewn menter gymdeithasol sydd â syniad i ddatblygu eu gweithgaredd masnachu, neu arweinydd yn y sector sydd am gynhyrchu incwm drwy fasnachu am y tro cyntaf.

Mae’r terfynau ar sut y gellir gwario’r bwrsari yn agored ac anogir ymgeiswyr i feddwl am syniadau diddorol i gefnogi eu datblygiad eu hunain fel arweinydd entrepreneuraidd. Roedd Walter wrth ei fodd yn teithio ac yn dysgu, ac roedd WCVA am i’r bwrsari hwn adlewyrchu hynny. Gellid, er enghraifft, ddefnyddio’r arian:

  • ar gwrs astudio penodol
  • i ariannu ymweliad, dramor o bosib, i weld y ffordd y mae eraill yn gwneud pethau, neu
  • unrhyw beth y mae’r buddiolwr yn teimlo a fydd yn ei symud ymlaen ac yn symud ei fudiad ymlaen

Eich dychymyg yw’r unig gyfyngiad!

CYFYNGIADAU’R PANDEMIC

Datblygwyd cwmpas y fwrsariaeth cyn y pandemig ac rydyn ni’n sylweddol na allai teithio fod yn bosibl nac yn ddoeth y flwyddyn hon oherwydd COVID-19. Dilynwch ganllawiau’r llywodraeth ac ystyriwch a allai’r gweithgareddau yr ydych yn eu hamlinellu yn eich cais gael eu heffeithio gan newid i’r cyfyngiadau.

Oherwydd y coronafeirws, rydyn ni’n annog ymgeiswyr i feddwl yn wahanol am sut gallent ddefnyddio’r fwrsariaeth. Eleni, byddwn ni’n barod i wneud mwy nag un dyfarniad o fewn y £2,500 sydd ar gael os bydd ymgeiswyr yn gwneud cais am lai na’r holl swm oherwydd cyfyngiadau teithio neu derfynau COVID-19 eraill.

SUT I WNEUD CAIS

Does dim system sgorio ffurfiol ar gyfer ceisiadau. Mae’r panel beirniadu yn chwilio am y cynnig sy’n eu hysbrydoli fwyaf ac sy’n cyd-fynd ag ethos y bwrsari. Y cwbl y gofynnir amdano yn ôl yw bod ymgeiswyr llwyddiannus yn rhannu eu profiadau o fewn eu mudiadau eu hunain, â WCVA ac â’r sector ehangach.

Os oes gennych gwestiwn ynglŷn â’r broses ymgeisio, neu os hoffech ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru drwy anfon e-bost at sic@wcva.cymru neu ffonio 0300 111 0124.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer 2022 bellach wedi mynd heibio.

ENILLYDD 2019

Mae gan ddwy fenyw sy'n gwenu dystysgrif wobr

Cyhoeddwyd mai Karen Chalk, o elusen Circus Eruption, oedd enillydd y fwrsariaeth o £2,500 yng Nghyfarfod Cyffredinol a Darlith Flynyddol CGGC yn Llandudno.

Darllen mwy.

ENILLYDD 2018

Cyhoeddwyd mai Isla Horton, Cydlynydd Datblygu’r elusen Tyfu Caerdydd, yw’r ail berson erioed i ennill y bwrsari gwerth £2,500 yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol WCVA yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 22 Tachwedd 2018.

Bydd y bwrsari yn galluogi Isla i fynd ar daith astudio ym Montreal, Canada, gan ymweld â mudiadau uchel eu parch ar hyd a lled yr ardal sy’n hybu adnoddau naturiol ac yn adfywio eu cymunedau drwy brosiectau garddio – yn ogystal ag ymweld ag ysgolion lleol lle maent yn defnyddio garddio fel ffordd o ddysgu yn y cwricwlwm drwyddo draw.

Bydd y bwrsari hefyd yn talu i Isla ymgymryd â thri chwrs astudio yng nghanolfan garddwriaeth therapiwtig Thrive yn Reading.

Bydd Isla yn defnyddio’r hyn y mae’n ei ddysgu i gyfoethogi prosiectau Tyfu Caerdydd, gan gynnwys gwaith gydag ysgolion, presgripsiynu cymdeithasol, a gerddi cymunedol lleol. Bydd hi hefyd yn rhannu’r hyn mae’n ei ddysgu â’r sector ehangach a phartneriaid allanol drwy aelodaeth Tyfu Caerdydd o fudiadau trydydd sector amrywiol (gan gynnwys WCVA) ac ysgolion, a rhwydweithiau iechyd a llesiant a phresgripsiynu cymdeithasol ledled Caerdydd.

‘Ychydig iawn o hyfforddiant dwi wedi’i gael heblaw am wrth weithio ac o reidrwydd ers sefydlu Tyfu Caerdydd, a hoffwn ddefnyddio’r bwrsari yma fel cyfle i feddwl a thyfu – amser i ddatblygu fy hun fel arweinydd, rhywbeth dwi’n aml wedi’i wrthod i’m hun, ond wrth feddwl am y peth, rhywbeth y mae arna’i ei angen yn fawr,’ meddai Isla, ‘dwi’n benderfynol o fod yr arweinydd y mae Tyfu Caerdydd yn ei haeddu ac y mae gen i’r potensial i’w fod os ydw i’n rhoi’r amser a’r lle i mi ddatblygu.’ 

Darllen mwy am taith Isla ar ei flog: Arweinydd sector gwirfoddol? Buddsoddwch yn eich hun

ENILLYDD 2017

Enwyd Steve Brooks o Sustrans Cymru fel y cyntaf i ennill Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie, yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Darlith Flynyddol WCVA yn Venue Cymru yn Llandudno ar 22 Tachwedd, 2017.

Nod yr elusen Sustrans Cymru yw ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio yng Nghymru. Defnyddiodd Steve y bwrsari i ymrestru ar y cwrs ‘Technolegau Newydd a Newid Ymddygiad’, sy’n rhan o’r rhaglen Heriau Byd-eang Trafnidiaeth a gynhelir gan Raglen Arweinyddiaeth Rhydychen ym Mhrifysgol Rhydychen.

Bu i’r gronfa dalu hefyd i Steve fynd ar ymweliad astudio i Copenhagen ar gyfer y Copenhagenize Masterclass blynyddol, i ddysgu sut y llwyddwyd i droi eu dinas yn ganolfan drefol sy’n addas i feiciau. I roi hwb pellach i effaith gweithgareddau Steve trefnodd Sustrans fentora a chyngor strategol parhaus i ategu’r hyn a ddysgodd.

Darllen mwy am anturiaethau Steve yn ei gyfres o flogiau i WCVA: