A YDYCH CHI’N GYMWYS AR GYFER DERBYN CYLLID GAN BCC?
- Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn helpu mudiadau gwirfoddol i wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo drwy ddarparu cyngor, cyllid ac arbenigedd.
- Wedi’i chyllido gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol yn benthyg cyllid i grwpiau sy’n ceisio dod ag eiddo o dan berchnogaeth gymunedol.
- Mae Cronfa Buddsoddi Cymunedau yn gronfa fenthyciadau ar gyfer busnesau cymdeithasol sy’n dymuno ehangu, cynhyrchu mwy o incwm neu brynu ased. Rydym yn bwriadu benthyca mewn achosion lle nad yw benthycwyr traddodiadol yn fodlon gwneud hynny.
- Mae Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru yn fuddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru i gefnogi mentrau bychain a chanolig drwy gynnig benthyciadau bychain ‘micro’.
- Mae Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ddyfarniad blynyddol o £2,500 i gefnogi unigolion yn y sector gwirfoddol i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth.
GWASANAETH NEWID CYFLENWR YNNI
Mae ein cyflenwr dibynadwy, Utility Aid, wedi lansio gwasanaeth newid cyflenwr newydd i’ch helpu chi i gymharu prisiau ynni. Gall mudiadau gwirfoddol ddefnyddio’r gwasanaeth i gael mynediad syth bin at ddyfynbrisiau cyfleustodau masnachol o restr o gyflenwyr dibynadwy â’u credyd wedi’u fetio.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn ddefnyddiol os ydych yn prynu eiddo newydd i’ch mudiad ac eisiau amcangyfrifo’r costau rhedeg; gall eich helpu i greu cynllun busnes neu lunio cyllideb ar gyfer eich cais am fenthyciad.
Am ragor o wybodaeth, ewch i switching.utility-aid.co.uk (Saesneg yn unig).
CYNLLUNIAU BLAENOROL
- Roedd Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol yn gymysgedd o grantiau a chymorth ad-daladwy roedd wedi cael ei chynllunio i alluogi busnesau cymdeithasol yng Nghymru ddatblygu a chreu cyfleoedd gwaith. Gwnaeth CTBC cael ei chyllido yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru.
- Roedd Cronfa Datblygu Asedau Cymunedol yn cefnogi busnesau cymdeithasol ac oedd yn dymuno dod ag ased, fel llyfrgell, tafarn neu neuadd gymuned yn eiddo i’r gymuned.
- Roedd Grant Dechrau Busnes Carbon Sero Net yn cynnig cymorth ariannol i egin fusnesau cymdeithasol Cymreig ddechrau masnachu neu fuddsoddi, ynghyd â chymorth technegol i ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd.
Os oes diddordeb gennych chi, cysylltwch â ni er mwyn cael trafodaeth ragarweiniol drwy ffonio 0300 111 0124 neu anfonwch e-bost at sic@wcva.cymru.