Buddsoddi arian ar gyfer gweithio mewn cymunedau

Mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (BCC) yn darparu cefnogaeth ariannol gydag amrediad o grantiau a benthyciadau ar gyfer mentrau cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym yn buddsoddi mewn sefydliadau sy’n dymuno cynhyrchu mwy o incwm neu ymestyn eu hamrediad o wasanaethau, ynghyd â sefydliadau sydd yn flaenorol wedi brwydro i ddenu cyllid grant ar gyfer prosiectau newydd.

Siaradwch â ni cyn gwneud cais

Oes gennych brosiect mewn golwg eich bod yn meddwl y gallem ei ariannu? Cysylltwch â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn CGGC i siarad am eich syniadau a gweld a allech fod yn gymwys i gael cyllid.

Cynllun Effeithlonrwydd Ynni

Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn helpu mudiadau gwirfoddol i wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo drwy ddarparu cyngor, cyllid ac arbenigedd.

Cronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol

Wedi’i chyllido gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol yn benthyg cyllid i grwpiau sy’n ceisio dod ag eiddo o dan berchnogaeth gymunedol.

A YDYCH CHI’N GYMWYS AR GYFER DERBYN CYLLID GAN BCC?

  • Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn helpu mudiadau gwirfoddol i wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo drwy ddarparu cyngor, cyllid ac arbenigedd.
  • Wedi’i chyllido gan Lywodraeth Cymru, mae’r  Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol yn benthyg cyllid i grwpiau sy’n ceisio dod ag eiddo o dan berchnogaeth gymunedol.
  • Mae Cronfa Buddsoddi Cymunedau yn gronfa fenthyciadau ar gyfer busnesau cymdeithasol sy’n dymuno ehangu, cynhyrchu mwy o incwm neu brynu ased.  Rydym yn bwriadu benthyca mewn achosion lle nad yw benthycwyr traddodiadol yn fodlon gwneud hynny.
  • Mae Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru yn fuddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru i gefnogi mentrau bychain a chanolig drwy gynnig benthyciadau bychain ‘micro’.
  • Mae Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ddyfarniad blynyddol o £2,500 i gefnogi unigolion yn y sector gwirfoddol i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth.

CYNLLUNIAU BLAENOROL

  • Roedd Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol  yn gymysgedd o grantiau a chymorth ad-daladwy roedd wedi cael ei chynllunio i alluogi busnesau cymdeithasol yng Nghymru ddatblygu a chreu cyfleoedd gwaith.  Gwnaeth CTBC cael ei chyllido yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru.
  • Roedd Cronfa Datblygu Asedau Cymunedol  yn cefnogi busnesau cymdeithasol ac oedd yn dymuno dod ag ased, fel llyfrgell, tafarn neu neuadd gymuned yn eiddo i’r gymuned.
  • Roedd Grant Dechrau Busnes Carbon Sero Net yn cynnig cymorth ariannol i egin fusnesau cymdeithasol Cymreig ddechrau masnachu neu fuddsoddi, ynghyd â chymorth technegol i ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd.

Os oes diddordeb gennych chi, cysylltwch â ni er mwyn cael trafodaeth ragarweiniol drwy ffonio 0300 111 0124 neu anfonwch e-bost at sic@wcva.cymru.