Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n bwysicach nag erioed i fudiadau gwirfoddol feddu ar y sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i gyllid ac amrywio eu ffyrdd o wneud incwm.

Yn 2021/22, dyrannodd CGGC tua £28.9 miliwn mewn arian i elusennau, mentrau cymdeithasol a gwirfoddolwyr yng Nghymru.

Yn yr adran hon, cewch wybodaeth ynghylch cynlluniau ariannu CGGC, ynghyd â phopeth y bydd ei angen arnoch i’ch helpu chi i chwilio am a chynnal cyllid ar gyfer eich achos. Gallwch hefyd ymweld â wefan Cyllido Cymru i chwilio am gyfleoedd.

Chwilio am gyllid?

Logo Cyllido Cymru gyda cylchoedd llwyd, gwyrdd a phorffor

Gallwch ganfod cyllid ar gyfer eich elusen, eich grŵp cymunedol neu eich menter gymdeithasol drwy ddefnyddio’r porwr ar-lein, Cyllido Cymru, yn rhad ac am ddim.

Darllen mwy

Cronfeydd CGGC

Rydym yn rheoli sawl cynllun ariannu gwahanol sydd o fudd i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Grant Twf Sefydliadol Comic Relief

Cyllid i helpu mudiadau gwirfoddol i wneud y mwyaf o'u heffaith drwy ddatblygu sefydliadol a mwy o wydnwch.

Cronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol

Mae’r Cynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn ariannu prosiectau lleol mewn ardaloedd arfordirol yng Nghymru ac yn dod â phartneriaid at ei gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Cynllun grantiau Gwirfoddoli Cymru

Cynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella gwirfoddoli yng Nghymru yw Grantiau Gwirfoddoli Cymru

Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru

Cymorth ariannol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru gydag ystod o grantiau a benthyciadau

Cynllun Grantiau Cymru ac Affrica, Llywodraeth Cymru

Galluogi grwpiau a mudiadau cymunedol ledled Cymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau Cymru-Affrica

Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Grantiau i gefnogi’r gymuned leol a phrosiectau amgylcheddol mewn ardaloedd yr effeithir arnynt gan waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi

Cofrestrwch gyda MAP fel eich bod yn barod i ymgeisio

I wneud cais am arian gan CGGC bydd angen i chi gofrestru ar ein Porth Cais Amlbwrpas (MAP). Ar ôl cofrestru byddwch yn gallu cyflwyno ceisiadau yn gyflym ac yn ddiogel.

Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy nodi’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref.

Hyfforddiant cyllido

A oes gennych chi ddiddordeb cael hyfforddiant cyllido? Porwch drwy ein cyrsiau cyllido diweddaraf.

Y newyddion diweddaraf am gyllid

Cyhoeddwyd: 03/02/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Gwnewch gais nawr am Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/01/25
Categorïau: Cyllid

Little Lounge – cefnogi’r gymuned leol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/01/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Prosiect Newid y Gêm

Darllen mwy
Darllen mwy

Cyllido prosiectau

Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Partneriaethau Natur Lleol (PNLl) Cymru

Nid yn unig yw natur yn brydferth, ond mae hefyd yn sylfaenol i’n bywydau. Ni allwn oroesi hebddo, ond mae amgylchedd naturiol
Darllen mwy

Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Chwaraeon BME Cymru

Mae Chwaraeon BME Cymru yn helpu i gynyddu faint o bobl o gymunedau BME sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon drwy gefnogi mudiadau
Darllen mwy

Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau |

3-SET

Tîm Ewropeaidd y Trydydd Sector yw 3-SET – rydyn ni yma i gynnig cyngor a hyfforddiant i helpu’r sector gwirfoddol yng Nghymru
Darllen mwy
Darllen mwy