Wrth i brosiectau sy’n cael eu hariannu gan yr UE ddod i ben, rydym wedi comisiynu cyfres o fideos i dynnu sylw at y ffyrdd penodol mae cyllid yr UE wedi helpu rhai o’r cymunedau a phobl anoddaf i gyrraedd yng Nghymru.
Rhyddhawyd i gyd-fynd â 30ain blwyddyn y Diwrnod Rhyngwladol Dileu Tlodi (17 Hydref 2022), mae‘r ffilmiau yn tynnu sylw arbennig at y ffyrdd y gwnaeth cyllid yr UE helpu’r rheini a oedd yn bellaf o’r farchnad lafur ac sydd nawr yn cael eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw.
DIWEDD CYLLID YR UE
Gyda’r ffrydiau cyllido hyn o’r UE bellach yn dod i ben, a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn methu methu disodli’r cronfeydd hyn yn llawn, mae Cymru yn wynebu diffyg cyllid o fwy nag £1.1 biliwn. Bydd hyn yn arwain at fwlch cyllido dinistriol i’r sector gwirfoddol, ac mae rhai o’r rhaglenni sy’n canolbwyntio ar bobl a ddangoswyd yn ffilmiau CGGC eisoes wedi gorfod cau, ar fin cau neu mewn perygl o orfod lleihau eu gwasanaethau.
Mae’r fideos cychwynnol hyn, gyda mwy i’w rhyddhau, yn dangos yr effaith hynod gadarnhaol y mae cyllid yr UE wedi’i chael ledled Cymru, boed hynny drwy raglenni cyflogadwyedd fel y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol neu raglen ACE Change Grow Live, neu drwy gymorth busnes wedi’i dargedu fel prosiect Cenedl Hublyg 2 Chwarae Teg.
ADFERIAD RECOVERY
Mae Prosiect Cynhwysiant Gweithredol Adferiad wedi bod yn cefnogi pobl dros 25 oed â phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau, drwy symud i ffwrdd o ddulliau traddodiadol a’u helpu i wneud dewisiadau positif a magu hunanhyder.
MÔN CF
Mae Cymunedau Ymlaen Môn (Môn CF) wedi defnyddio cyllid yr UE i gynnig rhaglen gyflogaeth arloesol a hyblyg, gan gynnwys prosiect cyflogaeth 16 wythnos gyda’r nod o gael swydd barhaol yn y pen draw.
CHANGE GROW LIVE
Gwnaeth y Prosiect Cyflawni Newid trwy Gyflogaeth gan ‘Change Grow Live’ (gwefan Saesneg yn unig) helpu pobl Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a mudwyr, i mewn i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth. Gwnaethant lwyddo i weithio gyda chyfran uchel o fenywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a mudol a oedd yn economaidd anweithgar, drwy gynnig mentora, lleoliadau gwirfoddoli, helpu i drosglwyddo cymwysterau presennol i rai a oedd yn cael eu cydnabod yn y DU, cyrsiau carlam i fod yn rhugl yn Saesneg, cyngor ar hawliau gweithwyr a mwy.
CHWARAE TEG
Cyllidir Rhaglen Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac mae wedi helpu’r gweithlu gwragedd yng Nghymru drwy wella arferion busnes a chreu gweithle tecach yng Nghymru.
Wnaeth prosiectau cymorth cyflogadwyedd a gyllidwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru progi’n allweddol o ran helpu i gefnogi mwy na 35,000 o bobl i ddychwelyd I gyflogaeth ac ennill 150,000 o gymwysterau ewydd yng Nghymru drwy gydol rhaglen gyllido 2014-2020.
Nid yw hyn i raddau bach diolch i yr arbenigedd a’r ymroddiad sydd gan gannoedd o elusennau a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i roi gobaith a chyfle i bobl sy’n 2 agored i niwed. Yn anffodus, rydyn ni mewn perygl o golli’r arbenigedd hwn