Mae cyllid yr UE ar gael o hyd er mwyn cefnogi twf a chynhyrchu incwm ar gyfer mudiadau gwirfoddol mewn sawl rhan o Gymru, ond mae amser yn brin i wneud cais.
Wrth i’r diwedd agosáu i Gyllid Ewropeaidd yng Nghymru, mae tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn annog mudiadau gwirfoddol i gysylltu â nhw i drafod syniadau cyn gwneud cais.
‘Os oes gennych chi syniad i ehangu ar eich gwaith a fydd yn creu swyddi ac yn helpu i gynyddu eich effaith gymdeithasol, gallai’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol fod o gymorth mawr i chi ddechrau arni’, meddai Alun Jones, Pennaeth Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.
‘Ers i’r gronfa agor, rydyn ni wedi gweld llawer o brosiectau twf ysbrydoledig gan bob math o fudiadau sy’n cael eu gyrru gan genhadaeth, ac rydyn ni’n awyddus iawn bod mudiadau o rannau cymwys o Gymru yn manteisio ar y cyfle tra ei fod yn dal ar gael.
‘Rydyn ni’n gwybod bod rhai ohonoch yn bryderus am y gwaith gweinyddol sy’n gysylltiedig â Chyllid Ewropeaidd, ond mae’r tîm yma i’ch helpu chi, ac rydyn ni wir yn annog mudiadau i godi’r ffôn i drafod sut y gallai’r gronfa weithio i chi.’
PA RANBARTHAU ALL ELWA?
Mae’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau cymdeithasol yng Nghymru i’w galluogi i dyfu a chreu cyfleoedd gwaith.
Er bod yr holl gronfeydd sydd ar gael wedi’u dyrannu i’r ardaloedd dwyreiniol a deheuol (gan gynnwys Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg), mae modd i fudiadau sy’n gweithredu yn y siroedd eraill wneud cais hefyd. Mae hyn yn cynnwys:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Sir Gâr
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Merthyr Tudful
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Benfro
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
BETH ALL Y GRONFA EI ARIANNU?
Mae’r Gronfa wedi cael ei defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd i gefnogi twf a chynhyrchu incwm, er enghraifft:
- Prynu eiddo (neu ehangu, adnewyddu ac ati)
- Cymorth cyflog, rhent ac offer
- Cynyddu gwasanaethau ar gyfer y bobl rydych chi’n eu cefnogi
Fodd bynnag, gall y gronfa gael ei defnyddio i gefnogi unrhyw syniad arloesol a fydd yn arwain at helpu’r mudiad i gynhyrchu incwm a chreu a chynnal swyddi (cyhyd â bod hynny o fewn ysbryd a chwmpas y gronfa). Rydyn ni wedi ariannu tafarndai cymunedol, cytiau cŵn a chanolfan beicio mynydd hyd yn oed!
RHAGOR O WYBODAETH AM Y GRONFA
Gall y Gronfa ddarparu buddsoddiad o hyd at £150,000, ac mae’n gymysgedd o grant traddodiadol a chymorth ad-daladwy rhannol gyda llog o 0%. Mae angen arian cyfatebol fel rhan o’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol.
Er mwyn dysgu rhagor ac i drafod eich syniadau, cysylltwch â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru drwy ffonio 0300 111 0124 neu e-bostio sic@wcva.cymru. Os hoffech drefnu galwad ar amser penodol, gallwch drefnu galwad un i un yma. Mae gwybodaeth ar gael ar ein tudalen Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol hefyd.
Mae’r Gronfa’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan o’r gyfres o fuddsoddiadau a gaiff ei gweinyddu gan Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.