Mae’r amcangyfrifon diweddar yn awgrymu y bydd elusennau ledled y DU yn colli oddeutu £4 biliwn mewn ymdrechion codi arian mewn 12 wythnos. Gallai elusennau yng Nghymru golli oddeutu £200 miliwn. Mae pobl yn dilyn y cyngor i aros gartref ar y cyfan – fel y dylent – ond mae hyn yn cael effaith gynyddol ar ymdrechion codi arian cyhoeddus; mae marathonau a digwyddiadau codi arian wedi’u canslo, a siopau a gwasanaethau lletygarwch wedi cau. Mae hyn i gyd yn golygu bod llawer o elusennau’n cael anhawster darparu’r gwasanaethau y byddent fel arfer yn gallu eu darparu, ac ar adeg pan mae llawer yn gweld cynnydd yn y galw amdanynt.
Ddydd Llun, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £24 miliwn ar gyfer y sector gwirfoddol. Bydd dwy gronfa a reolir gan CGGC yn cefnogi gwirfoddoli a gwydnwch ariannol elusennau.
Yn dilyn hyn, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys ddydd Iau ei fod yn darparu £750 miliwn o gymorth i elusennau yn ystod achos y coronafeirws. Byddai hwn yn cynnwys:
- £370 miliwn ar gyfer elusennau bach a chanolig.
- £360 miliwn ar gyfer elusennau sy’n ymateb yn uniongyrchol i’r achos o goronafeirws, fel hosbisau, elusennau cymorth trais domestig ac elusennau i blant sy’n agored i niwed.
- Cyllid cyfatebol ag apêl Big Night In y BBC, gydag o leiaf £20 miliwn.
Gwnaeth y Canghellor hefyd gadarnhau y bydd £20 miliwn o’r cyllid hwn yn dod yn awtomatig o Lywodraeth Cymru – mwy o bosibl wrth i benderfyniadau gael eu gwneud ar sut i gyflwyno ail ran y pecyn.
Bydd dyrannu’r holl gyllid hwn i’r sector gwirfoddol yn golygu y gall mwy o fudiadau gael eu cefnogi – ac y gall mwy o’u gwasanaethau barhau nawr ac yn yr hirdymor. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu elwa ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan elusennau.
Mae’r cyllid hwn, gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn gam cyntaf calonogol ar gyfer y sector gwirfoddol. Ond gwyddom na fydd hyn yn ddigon i wneud iawn am yr arian y disgwylir i elusennau ei golli wrth fethu â chodi arian yn ystod y pandemig cyfredol o goronafeirws. Mae CGGC yn gobeithio y bydd y Canghellor yn adolygu lefelau’r cymorth sydd ar gael yn gyson os bydd y set gyfredol o gyfyngiadau’n parhau. Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo’r sector yng Nghymru wrth i’r angen gynyddu.
Ddydd Iau, pwysleisiodd y Canghellor y rôl angen y mae’r sector gwirfoddol yn ei chwarae mewn cynorthwyo eu cymunedau, a’r rhwymau cymdeithasol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt ar yr adeg hon. Mae CGGC eisiau gwneud yn siŵr fod cymaint â phosibl o’r mudiadau hyn yn gallu gwneud hynny, nawr ac yn y dyfodol.