Mae cyllid o Gynllun Grantiau Cymru ac Affrica wedi helpu chwe phrosiect i hybu hawliau a bywoliaethau menywod yn Uganda a Lesotho.
Mae’r cynllun yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at waith Cymru o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.
Roedd y cylch diweddaraf wedi’i anelu’n benodol at brosiectau grymuso menywod a gyflwynwyd yn Uganda a Lesotho. Bydd y mudiadau a gyllidwyd yn gweithio gyda’u partneriaid yn Affrica i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol mewn nifer o feysydd:
- Bydd Bawso yn gweithio tuag at ddifa ymdrechion i anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yn ardal Sebei, Uganda.
- Bydd Bees for Development yn grymuso menywod trwy wenyna a chwalu rhwystrau rhywiol i fenywod gadw gwenyn yn ardal Mount Elgon.
- Bydd Care for Uganda yn cefnogi wyth grŵp menywod a ddechreuwyd gan y menywod eu hunain yn Rhanbarth Luwero i hybu eu bywoliaethau a’u hymreolaeth ariannol.
- Bydd GBV Uganda Projects yn hyfforddi ac yn paratoi menywod i drin gwallt, gwneud crefftau a chadw gwenyn, er mwyn eu helpu i gael annibyniaeth ariannol.
- Bydd Maint Cymru yn grymuso menywod yn Uganda i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy roi hyfforddiant iddynt ar gynllunio sut i ddefnyddio tir, amaeth-goedwigaeth ac arbed pridd a dŵr.
- Bydd Teams4U yn rhoi gwersi ar iechyd rhywiol ac atgenhedlol a hawliau menywod i 10,000 o fyfyrwyr mewn 10 ysgol, a byddant yn hyfforddi athrawon, rhieni a’r gymuned ehangach ar y materion hyn.
PARTNERIAETH SY’N FUDDIOL I’R DDWY OCHR
Mae’r cyllid yn creu cyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth ddiwylliannol a rhannu sgiliau, dysgu ac arferion da rhwng Cymru ac Affrica.
Drwy ymgysylltiad cymunedol a chyfleoedd gwirfoddoli, mae’r prosiectau yn codi ymwybyddiaeth o faterion fel y newid yn yr hinsawdd, cydraddoldeb rhywiol a threchu tlodi ac yn hybu pobl i weithredu ar y materion hyn. Mae hefyd yn annog pobl yng Nghymru i ddod yn ddinasyddion byd-eang gweithredol.
GWELLA BYWYDAU MENYWOD DRWY WENYNA
Un o’r mudiadau a gyllidwyd yn y cylch hwn yw ‘Bees for Development’, elusen fyd-eang yn Nhrefynwy sy’n hyrwyddo gwenyna cynaliadwy er mwyn trechu tlodi, adeiladu bywoliaethau gwydn a bod yn fuddiol i fioamrywiaeth.
Mae’r mudiad wedi’i gyllido drwy gynllun Cymru ac Affrica o’r blaen pan wnaethant bartneru â ‘The Ugandan National Apiculture Development Organisation’ (TUNADO) y llynedd i rymuso menywod drwy wenyna yn ardal Adjumani, Uganda.
Gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect hwnnw, byddant yn mynd ati nawr i gynorthwyo menywod yn ardal Mount Elgon, gan roi’r hyder a’r cyfle iddynt gymryd rheolaeth dros eu bywydau a’u gwella trwy fentrau cadw gwenyn.
Nid oedd gan Rose, gwenynwraig o ranbarth Adjumani, unrhyw ffynhonnell o incwm cyn iddi ddechrau cadw gwenyn. Ar ôl iddi dderbyn hyfforddiant, sefydlodd wenynfa a gallodd gynaeafu mêl i ennill arian – arian y gallai ei wario ar ei theulu.
‘Rwy’n credu ei bod hi’n hawdd i fi fel gwenynwr benywaidd. Mae yna farchnad i fêl. Rwyf bellach yn aelod o’n grŵp cynilo pentrefol. Rwyf wedi cynilo ychydig o arian i dalu ffioedd (ysgol) fy mhlant ac i adeiladu tŷ da i ni gyda briciau a haenau haearn.’
Mae Rose yn esiampl ac yn fentor i fenywod eraill o fewn y gymuned nawr sydd eisiau dechrau cadw gwenyn ac elwa arno.
GRANTIAU CYMRU AC AFFRICA BELLACH AR AGOR
Mae y chweched cylch o’r Cynllun Grant Cymru ac Affrica bellach ar agor. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n herthygl ddiweddaraf ar gynllun grant Cymru ac Affrica.