Mae Cronfa MARINE Cymru wedi sicrhau ymrwymiad o £500,000 gan Ystad y Goron, y buddsoddiad cyntaf mewn cynllun cyllido newydd uchelgeisiol ar gyfer prosiectau adfer ecosystemau morol ac arfordirol.
Mae Cronfa MARINE Cymru, sy’n darparu llwybr newydd ar gyfer buddsoddiad hirdymor i adfer a sicrhau gwydnwch amgylchedd morol ac arfordirol Cymru, bellach ar agor ar gyfer cyfraniadau.
Lansiwyd y gronfa yng nghynhadledd Coastal Futures yn Llundain yr wythnos diwethaf gan Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Cymru. Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog fod Cronfa MARINE Cymru, sy’n cael ei rheoli gan CGGC, ar agor ar gyfer busnes ar ôl derbyn ei chyfraniad cyntaf, gwerth £500,000, o cyllid sbarduno gan Ystad y Goron.
Mae’n garreg filltir allweddol wrth droi uchelgeisiau’r gronfa yn weithredu ymarferol. Bydd cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy grantiau i brosiectau adfer ecosystemau morol ac arfordirol ledled Cymru.
YNGLŶN Â’R GRONFA
Mae Cronfa MARINE Cymru yn cael ei rheoli gan CGGC. Gan weithio’n agos gyda Partneriaeth Moroedd ac Arfordir Cymru (PMaA Cymru), rydym wedi sefydlu dull llywodraethu a mesurau diogelu a byddwn yn parhau i arwain y gwaith o ddylunio a datblygu’r gronfa fel cynllun cenedlaethol cadarn sy’n datgloi buddsoddiad newydd i Gymru.
Mae PMaA Cymru yn dwyn ynghyd cyrff cyhoeddus, sectorau morol a mudiadau amgylcheddol i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o fod â moroedd glân, iach, cynhyrchiol a biolegol amrywiol. Mae Cronfa MARINE Cymru yn ategu’r dull partneriaeth hwn i droi blaenoriaethau a rennir yn weithredu cydgysylltiedig cynaliadwy.
Rydym yn disgwyl agor y rownd grant gyntaf ar gyfer ceisiadau yn ddiweddarach eleni. Ymunwch â’n rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
CEFNOGAETH GAN YSTAD Y GORON
Mae’r £500,000 o gyllid sbarduno yn rhan o ymrwymiad Ystad y Goron i adfer natur, gan gydnabod y bwlch cyllido a’r angen i ddatgloi buddsoddiad cynaliadwy ym myd natur. Bydd y cyllid yn helpu i drosoli buddsoddiad hirdymor pellach yn amgylchedd morol ac arfordirol Cymru, gan alluogi prosiectau sydd wir yn gwella gwydnwch ecosystemau lleol yng Nghymru.
Mae Cronfa MARINE Cymru wedi’i chynllunio i ddenu cyfraniadau o amrywiaeth o ffynonellau. Rydym yn annog buddsoddwyr sy’n rhannu ein huchelgeisiau i gysylltu â CGGC i drafod datblygiad parhaus y gronfa.
‘RYDYN NI’N LLAWN CYFFRO I WELD YR EFFAITH’
Dywedodd Prif Weithredwr CGGC, Lindsay Cordery-Bruce:
‘Mae llawer o waith wedi mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni i gael Cronfa MARINE Cymru i’r pwynt hwn. Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall meddwl yn wahanol ddod â chyllid newydd i Gymru i sicrhau canlyniadau ystyrlon i bobl a natur. Rydyn ni’n llawn cyffro i weld yr effaith y bydd hyn yn ei chael am flynyddoedd i ddod, ac rydym yn edrych ymlaen at ategu hyn a chael sgyrsiau gydag unrhyw bartneriaid posibl sy’n rhannu ein gweledigaeth a’n nodau.’
Mae Cronfa MARINE Cymru bellach ar agor ar gyfer cyfraniadau. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am sut i gyfrannu.