Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod cylch newydd Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.
Mae Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) yn cyllido prosiectau ger gorsafoedd trosglwyddo gwastraff neu safleoedd tirlenwi penodol, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
- bioamrywiaeth
- cyfyngu ar wastraff a lleihau gwastraff i safleoedd tirlenwi, a
- gwelliannau amgylcheddol ehangach.
Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau am grantiau rhwng £5,000 a £49,000.
Os oes gennych chi syniad am brosiect a fyddai o fudd i’r gymuned, gwiriwch a ydych chi’n gymwys drwy ymweld â’n tudalen we LDTCS a defnyddio’r map i weld pa safleoedd sy’n gymwys.
GYRRU NEWID POSITIF MEWN CYMUNEDAU
Mae cylchau blaenorol LDTCS wedi cyllido amrediad eang o brosiectau ysbrydoledig, gan rymuso pobl i gymryd camau i wella eu hamgylchedd lleol.
Gyda chymorth LDTCS, edrychodd Groundwork Caerffili ar ffyrdd arloesol o gyfuno cadwraeth, bridiau anifeiliaid treftadol a lles cymunedol drwy eu prosiect, Power Ponies.
Gwnaeth y prosiect fynd i’r afael â’r dirywiad mewn merlod mynydd Cymreig trwy ddangos eu gwerth mewn rheoli prysgwydd a hybu bioamrywiaeth. Cafodd pedwar merlyn a’i thrafodwyr eu hyfforddi i wneud tasgau rheoli tir fel sathru rhedyn, tynnu boncyffion ac ogedu, gan ddarparu dewis arall ecogyfeillgar i ddefnyddio peiriannau.
Gwnaeth y merlod argraff ar y trafodwyr, y milfeddygon a’r ffisiotherapyddion gyda’u sgil a’u hystwythder, yn helpu i reoli rhywogaethau goresgynnol, gwella bioamrywiaeth a chadw llwybrau’n glir i bobl leol. Gwnaeth eu gwaith hefyd leihau’r perygl o danau gwyllt ar lethrau, a gafodd ganmoliaeth gan y Gwasanaeth Tân.
Os hoffech wybod mwy am y prosiectau rydyn ni wedi’u cyllido, edrychwch ar ein Adroddiad Blynyddol Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS
Byddwn yn rhoi dau ddyddiad cau ar gyfer y cylch hwn o’r LDTCS, bydd hyn yn galluogi ceisiadau i gael eu hasesu’n amserol pan fyddant yn dod i law.
Os hoffech i’ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 1, cyflwynwch ef erbyn 11.59 pm ar 7 Tachwedd 2025.
Os hoffech i’ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 2, cyflwynwch ef erbyn 11.59 pm ar 12 Rhagfyr 2025.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n tudalen ar LDTCS.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, cysylltwch â Thîm Grantiau CGGC yn ldtgrants@wcva.cymru.