Diverse group of young people sit in middle of path throwing colourful folded paper into the air. The path is lined with coloured origami boxes

Cyllid Ewropeaidd ar gael i brosiectau gwirfoddoli yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 06/07/20 | Categorïau: Cyllid | Gwirfoddoli |

Pwrpas y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd, rhaglen sy’n cael ei rhedeg gan Asiantaeth Genedlaethol y DU Erasmus+, yw cynorthwyo mudiadau a phobl ifanc i weithredu’n gymdeithasol er mwyn cryfhau cymunedau ar draws Ewrop.

Gall mudiadau ymgeisio am gyllid er mwyn cynnwys pobl ifanc rhwng 18 a 30 mlwydd oed fel gwirfoddolwyr mewn gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â materion cymdeithasol o bwys. Yn eu tro, bydd mudiadau’n cynorthwyo’u pobl ifanc i gaffael profiadau a chymwysterau defnyddiol ar gyfer eu datblygiad personol, addysgiadol, proffesiynol ac fel dinasyddion.

Bydd tîm y DU o’r Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd (ESC) yn darparu nifer o weithgareddau cefnogi dros y misoedd nesaf yn arwain at ddyddiad cau 1 Hydref 2020, er mwyn cynorthwyo mudiadau i ddarganfod mwy am y rhaglen a chyflwyno ceisiadau o ansawdd uchel am gyllid.

Grŵp amrywiol o dri dyn ifanc yn ymgynnull o amgylch gliniadur yn chwerthin

Mae dros €12 miliwn ewro wedi’i ddynodi i’r Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd yn y DU yn 2020, gyda bron i €2 filiwn wedi’i ddynodi ar gyfer gweithgareddau o fewn gwledydd. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ymgeisio yw 1 Hydref 2020. 

Beth yw Prosiectau Gwirfoddoli ESC?

Mae Prosiectau Gwirfoddoli yn galluogi mudiadau i ehangu ar eu heffaith trwy groesawu gwirfoddolwyr neu anfon gwirfoddolwyr dramor. Mae recriwtio gwirfoddolwyr yn broses syml: mae gan y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd system barod, o’r enw PASS, lle gallwch ddod o hyd i dros 230,000 o bobl ifanc ledled Ewrop sydd wedi cofrestru i ddod o hyd i gyfleoedd gyda mudiadau.

Mae prosiectau ESC yn darparu’r hyblygrwydd i gwrdd ag anghenion eich mudiad er mwyn eich cynorthwyo i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Dyma rai yn unig o’r buddion:

  • gellir dewis dyddiadau cychwyn ar gyfer eich prosiect rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Mai 2021, pan allai cyfyngiadau COVID-19 gael eu codi, fel bod modd i chi fod â gwirfoddolwyr yn barod i roi hwb i waith eich mudiad yn 2021
  • gall gwirfoddolwyr o fewn y DU a/ neu wirfoddolwyr y tu allan i’r DU gymryd rhan yn eich prosiect, felly gallech ymgeisio am wirfoddolwyr sydd eisoes yn preswylio yn y DU
  • mae bron i 230,000 o bobl ifanc o bob cwr o Ewrop, sy’n awyddus i fod ynghlwm â’r Corfflu, wedi cofrestru ar Borth yr ESC. Yma gallwch ddod o hyd i’r sgiliau sydd eu hangen arnoch mewn pŵl o bobl ifanc sy’n meddwl yn gymdeithasol ac sydd ag amrywiaeth o gymwysterau, er mwyn iddynt gyfrannu at ddyfodol eich busnes neu’ch mudiad
  • gall prosiectau bara o dri hyd at 24 mis, felly maent yn hyblyg i anghenion eich mudiad
  • gall gweithgareddau i wirfoddolwyr bara rhwng pythefnos a 12 mis, ac
  • ceir lleoliadau gwirfoddoli i unigolion neu weithgareddau gwirfoddoli tîm – gall gwirfoddolwyr wirfoddoli yn unigol neu mewn grŵp o ddeg i 40 o gyfranogwyr o ddwy wlad
  • mae’r cyllid yn cynnwys sawl cyllideb er mwyn cynorthwyo i dalu am y costau mwyaf, megis costau rheoli prosiectau

Gall darparu ystod o weithgareddau gwirfoddoli ar gyfer gweithredu cymdeithasol ehangu ar ddarpariaeth a chynlluniau datblygu cymunedol eich mudiad a chynnig cyfle gwych i bobl ifanc sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth.

Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru wedi derbyn gwirfoddolwyr ESC i gefnogi eu pobl ifanc a rhyngweithio â nhw ar nifer o bynciau a gweithgareddau. Mae Sylvie, dinesydd o Ffrainc, wedi bod yn gwirfoddoli gyda nhw ers mis Medi 2019 ac fe esboniodd (ym mis Tachwedd 2019):

‘Rydw i’n gweithio gyda phlant rhwng 5 ac 15 mlwydd oed, ac mae’r profiad yn wahanol bob tro. Rydw i wedi dechrau meithrin perthnasoedd gyda’r plant, ac maen nhw’n cadw golwg amdanaf i (yn y canolfannau ieuenctid).’

Trwy ei phrofiad gwirfoddoli, gall Sylvie wella’i chyfleoedd bywyd a rhagolygon cyflogaeth trwy ddysgu anffurfiol, datblygiad personol a dinasyddiaeth weithredol – er enghraifft, mae hi’n gwella ei sgiliau iaith Saesneg.

Yn ôl Grant Poiner, Prif Swyddog Gweithredol Clybiau Bechgyn a Merched Cymru:

‘Mae Sylvie wedi dod yn aelod gwych o’n tîm o weithwyr a gwirfoddolwyr sy’n cefnogi clybiau ieuenctid yng Nghymru. Mae hi wedi chwarae rhan bwysig wrth gynorthwyo pobl ifanc i feithrin sgiliau a galluoedd newydd.’

Gallwch ddarllen mwy am brofiad gwirfoddoli Sylvie yn Saesneg ac yn Gymraeg a gwylio’i fideo ar dudalen storïau ESC, sydd hefyd yn sôn am fuddiolwyr eraill a’u prosiectau.

Mwy o wybodaeth

Ewch i wefan ESC am fwy o wybodaeth: www.eusolidaritycorps.org.uk.

Gallwch hefyd wylio’r fideo hwn sy’n darparu trosolwg o Brosiectau Gwirfoddoli mewn llai na phum munud.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r rhaglen, e-bostiwch dîm y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd, os gwelwch yn dda, ar eusolidaritycorps@ecorys.com.

Bydd mwy o gefnogaeth i ymgeiswyr yn cael ei darparu trwy ddigwyddiadau rhithiol rhyngweithiol a galwadau cefnogi un i un, a gallwch ddilyn ESC ar y cyfryngau cymdeithasol a chofrestru i dderbyn cylchlythyr misol sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy