Crowd of people stand outside, a woman holds a microphone

Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE

Cyhoeddwyd : 14/09/23 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu |

Mae CGGC yn croesawu adolygiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar gyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE.

Wedi’i ddiweddaru 22 Medi 2023

Cau Chwarae Teg

Ers i’r erthygl hon gael ei chyhoeddi’n wreiddiol, rydyn ni wedi clywed y newyddion trist bod Chwarae Teg yn cau.

Maen nhw wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru ers 30 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, a chyda chymorth helaeth cyllid yr UE, maen nhw wedi cefnogi miloedd o fenywod yn uniongyrchol drwy eu darpariaeth ac wedi helpu llawer o fenywod eraill yn anuniongyrchol drwy eu gwaith hyrwyddo, polisïau, ymchwil ac eiriolaeth.

Bydd colli’r rhain yn gadael bwlch mawr ym mywyd dinesig Cymru.

Rydyn ni’n gwybod bod y sector gwirfoddol yng Nghymru o dan bwysau aruthrol. Mae’r argyfwng costau byw wedi cynyddu ein costau, cynyddu’r galw am ein gwasanaethau, rhoi pwysau ar roddion cyhoeddus, gwneud gwirfoddoli’n anoddach ac wedi lleihau gwerth y grantiau a chontractau sydd gennym ni. Ni allai cyllid yr UE fod wedi’i dynnu’n ôl ar adeg waeth, hyd yn oed gyda chyflwyniad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Rydyn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru a thu hwnt i amlygu gwaith hanfodol y sector a’r angen i ni gael eu cyllido’n deg, yn fwy fyth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rydyn ni’n parhau i gynnig ein cefnogaeth i Chwarae Teg wrth iddyn nhw fynd drwy’r cyfnod anodd hwn a gwyddom fod eraill ar draws y sector yn gwneud yr un fath.

Mae’ erthygl wreiddiol yn parhau isod

Ar ddydd Mawrth 12 Medi, yn dilyn ymgynghoriad yn gynharach yn y flwyddyn, gwnaeth Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig lansio ei adolygiad ar gyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE.

YMATEB I’R ADOLYGIAD

Mae CGGC yn croesawu’r adroddiad hwn yn fawr iawn ac yn diolch i’r Pwyllgor am ymhél ag ystod o randdeiliaid o’r sector gwirfoddol wrth ei ddatblygu. Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau CGGC, Matthew Brown, dystiolaeth ar lafar i’r Pwyllgor ym Mai 2023, yn pwyso ar lywodraethau i weithio gyda’i gilydd i gael canlyniadau gwell a chan nodi pryderon mawr ynghylch cyflwyniad gweithredol, darpariaeth ac amserlenni’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (UKSPF).

UKSPF yw’r gronfa ddomestig y mae Llywodraeth y DU wedi’i chyflwyno yn lle’r Rhaglen Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF). Mae’n rhoi cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer cymunedau, lleoedd, busnesau, pobl a sgiliau. Mae cyllid Ewropeaidd wedi bod yn sbardun pwysig i hyrwyddo cydraddoldeb, hawliau dynol a chynhwysiant yng Nghymru dros y 25 mlynedd ddiwethaf.

EFFAITH CYLLID YR UE

Mae symiau mawr o gyllid, yn enwedig trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, wedi galluogi mudiadau gwirfoddol i gefnogi pobl dan anfantais, cymunedau ar yr ymylon a phobl o bob oed sy’n wynebu tlodi ac allgau cymdeithasol. Yn gynharach y flwyddyn hon, gwnaethom ni gyhoeddi adroddiad ôl-syllol gan ganolbwyntio ar etifeddiaeth cyllid Ewropeaidd. Gallwch chi ddarllen hwn yma.

Gwnaethom ni roi tystiolaeth i’r Pwyllgor yn amlinellu ein pryderon o ran yr ymyriadau i raglenni effeithiol a oedd yn cael eu cyllido gan yr UE cyn hyn, y staff sy’n cael eu colli yn y sector a’r pwysau aruthrol y mae mudiadau bach yn eu hwynebu o ganlyniad i’r ansicrwydd a chyflwyniad araf UKSPF.

Rydym yn falch o weld bod y pryderon hyn wedi’u hadlewyrchu yng nghanfyddiadau’r adroddiad a hoffem alw ar yr holl randdeiliaid perthnasol i fwrw ymlaen â’r argymhellion yn yr adroddiad cyn gynted â phosibl.

ARGYMHELLION AR GYFER GWEITHIO YN Y DYFODOL

Rydym yn croesawu’n arbennig argymhellion y Pwyllgor y dylai Llywodraeth y DU ystyried sut y gallai Llywodraeth Cymru gynorthwyo â’r gwaith o ddarparu a dylunio cylch nesaf y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Rydym hefyd yn cytuno y dylai’r ddwy lywodraeth gynnal adolygiad ar a ddylai elfennau gwahanol o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gael eu darparu ar lefel leol, ranbarthol neu Gymru gyfan, ar sail yr hyn sy’n gweithio orau. Bydd hyn yn sicrhau y bydd cylchau cyllido i ddod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael eu darparu yn y modd mwyaf effeithiol a chyfartal ar gyfer holl gymunedau Cymru.

CYSYLLTU

Mae eich llais yn bwysig – os oes gennych chi unrhyw beth i’w rannu â ni ynghylch eich profiadau o UKSPF neu o ran y cyfeiriad y gallai fynd, cysylltwch â ni ar policy@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 08/11/24 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu | Newyddion |

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 01/11/24 | Categorïau: Cyllid | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Ble i ganolbwyntio eich egni codi arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 28/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Gwnewch gais nawr am grant Gwirfoddoli Cymru!

Darllen mwy