Mae 14 o fudiadau gwirfoddol sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn coronafeirws wedi cael arian yn rownd gyntaf Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol.
Heddiw, mae’n bleser gennym gyhoeddi’r 14 mudiad cyntaf i gael arian gan Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSEF).
Sefydlwyd cronfa Llywodraeth Cymru ar frys yn gynharach y mis hwn er mwyn rhoi cyllid i’r bobl yr oedd fwyaf ei angen arnynt.
Diben y gronfa yw galluogi’r rheini sy’n darparu cymorth hanfodol i grwpiau fel: pobl ar eu pen eu hunain, yr henoed, gofalwyr, pobl sy’n cael trafferth cael bwyd ac ati, fel y gellir eu cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.
Dyma rywfaint o gefndir rhai o’r prosiectau cyntaf i dderbyn cyllid – os ydych chi’n rhan o fudiad sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau bregus yn ystod y pandemig, mae croeso i chi gael gwybod mwy a gwneud cais yma.
Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor i ofalwyr di-dâl, sy’n gofalu am anwyliaid sydd fwyaf agored i COVID-19. Mae’r Ganolfan yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol dros y ffôn, drwy e-bost, galwadau fideo a’r cyfryngau cymdeithasol i bob gofalwr sy’n teimlo’n ynysig, yn fwy pryderus, yn unig ac sydd ag anawsterau ymarferol.
Bydd y Ganolfan yn defnyddio ei grant VSEF i gefnogi, ategu ac atgyfnerthu’r gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ledled y rhanbarth yn ystod pandemig COVID-19.
‘Mae ein tîm ymroddedig yn gofalu am y gofalwyr sy’n amddiffyn y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned drwy’r pandemig hwn,’ medd Janet Jordan, Swyddog Datblygu Busnes. ‘Rydym yn ddiolchgar iawn am y grant hwn a byddwn yn ei ddefnyddio i barhau â’n gwasanaeth hanfodol ar yr adeg hon o angen nad ydym wedi gweld ei debyg o’r blaen.’
Samariaid Abertawe
Mae Samariaid Abertawe yn cynnig cefnogaeth emosiynol i drigolion Abertawe a’r cyffiniau.
Mae grant gan y VSEF yn hanfodol gan fod y mudiad yn colli llawer o incwm codi arian – byddai fel arfer yn rhedeg siop elusen, ac yn codi arian ar y stryd, ac nid yw’r ddau beth yn bosibl ar hyn o bryd. Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i gadw swyddfa’r Samariaid ar agor ac i drefnu sifftiau ychwanegol i wirfoddolwyr.
Bydd hyn yn galluogi gwirfoddolwyr i gymryd mwy o alwadau a chynnig mwy o gymorth i bobl sydd dan straen ychwanegol, sy’n fwy ynysig nag erioed, neu sydd mewn perygl o niwed neu hunanladdiad.
‘Diolch i’r grant hwn, gallwn barhau i fod yno i bob galwr waeth beth yw ei broblem, gan roi cymorth emosiynol pan fydd ei angen,’ meddai John Phillips, trysorydd y gangen. ‘Dywedodd un galwr wrtha i y diwrnod o’r blaen, diolch am achub bywydau. Rydyn ni’n ddiolchgar i Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol am ein galluogi i wneud hynny.’
Ymddiriedolaeth Plwyfi BMMR
Sefydlwyd prosiect Cais am Gymorth yr Eglwys mewn Argyfwng (neu CARE) gan Ymddiriedolaeth Plwyfi BMMR mewn ymateb uniongyrchol i anghenion y gymuned yn dilyn yr achos coronafeirws.
‘Mae’r gefnogaeth gan CGGC a Llywodraeth Cymru nid yn unig wedi rhoi adnoddau ariannol i ni, ond wedi cadarnhau ein bod yn gwneud y peth iawn i’n cymunedau ar yr adeg hon,’ medd y Parch Dean Aaron Roberts, ‘nhw yw’r ddau sefydliad cyntaf sydd wedi rhoi grant sylweddol i ni, felly rydym yn ddiolchgar iawn.’
Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i ehangu eu canolfan fwyd a’u gwasanaeth dosbarthu bwyd. Ers y pandemig, maent yn gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau am fwy o becynnau bwyd ac mae angen iddynt ateb y galw hwn drwy brynu mwy o fwyd gan FareShare – gwasanaeth elusennol ailddosbarthu bwyd dros ben sy’n darparu gwasanaethau ailddosbarthu cynnyrch i fanciau bwyd a grwpiau elusennol eraill.
Bydd y mudiad yn dosbarthu’n bennaf i bobl agored i niwed sydd wedi’u hynysu ac na allant adael eu cartrefi.
Creu Menter CIC
Mae Creu Menter, rhan o Gymdeithas Tai Cartrefi Conwy, yn gontractwr adeiladu a chynnal a chadw ac yn fenter gymdeithasol yng Nghonwy, gogledd Cymru.
Bydd y grant gan y VSEF yn eu galluogi i ddarparu gwasanaeth Lles ac Ymateb Cymunedol i bobl oedrannus sy’n agored i niwed, wedi’u hynysu ac sy’n byw yn eiddo Cartrefi Conwy – drwy gadw gwirfoddolwyr mewn cysylltiad â’i gilydd a danfon siopa. Bydd gwirfoddolwyr hefyd yn rhoi dodrefn am ddim i denantiaid mewn angen o’u prosiect dodrefn Ailgyfle.
‘Byddwn yn defnyddio’r cyllid i sefydlu Tîm Lles Gwirfoddoli a fydd yn gwneud galwadau ffôn cadw mewn cysylltiad i filoedd o denantiaid bregus ac oedrannus Cymdeithas Tai Cartrefi Conwy,’ meddai’r Cyfarwyddwr Sharon Jones. ‘Bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn mynd i siopa mewn argyfwng ac yn casglu presgripsiynau i’r rhai sydd mewn angen.’
Home-Start Cymru i Deuluoedd
Mae Home-Start Cymru yn gweithio gyda theuluoedd sydd â phlant ifanc drwy fodel cymorth ymweld â chartrefi, dan arweiniad gwirfoddolwyr, sy’n cyfuno rhwydwaith o wirfoddolwyr cymunedol o bob rhan o Gymru gydag arbenigedd proffesiynol y mudiad.
‘Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cael cymorth drwy’r VSEF a fydd yn ein galluogi i ehangu’r cymorth hanfodol hwn a chyrraedd mwy o deuluoedd sydd ein hangen fwy nag erioed,’ meddai Bethan Webber, Prif Weithredwr. ‘Yn ogystal â chyflwyno mwy o gymorth o bell, bydd yr arian yn ein galluogi i sefydlu gwasanaeth cyflenwi ar garreg y drws sy’n darparu bwyd a chyflenwadau hanfodol i deuluoedd sy’n gaeth i’w cartrefi ac sy’n methu cael gafael ar yr eitemau sylfaenol sydd eu hangen arnynt.’
Bydd Home-Start Cymru yn cynnwys mwy o wirfoddolwyr er mwyn gwneud hyn. Bydd y cyllid yn cael ei wario ar recriwtio’r gwirfoddolwyr, costau staff, cynyddu’r ddarpariaeth o gymorth ar stepen y drws, offer TG, ac offer PPE.
Canolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd
Mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd (CAE) yn elusen yn Abertawe sy’n darparu ar gyfer anghenion grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yr ardal.
Mae’r gymuned BAME yn Abertawe wedi rhoi gwybod i’r sefydliad bod eu problemau iechyd meddwl wedi cynyddu ers achos Covid-19. Mae llawer o resymau am hyn, fodd bynnag, rhwystrau iaith, methu cael gafael ar offer TG a diweithdra yw’r prif ffactorau sy’n achosi pryder.
Bydd y prosiect yn gweithio ar leihau teimlo’n ynysig, pryder a llwgu gyda gwasanaethau ar-lein a thros y ffôn pwrpasol, a gweithgareddau casglu a chyflenwi bwydydd i 200 o bobl, gan gynnwys mewnfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n teimlo’n ynysig.
‘Rydym yn falch iawn o gael arian gan y VSEF drwy waith cyflym WCVA – mae’n anodd disgrifio’r cyffro!’ medd Yolanda Barnes, y Rheolwr Gweithrediadau. ‘Drwy eu cefnogaeth hael, mae’n bosibl i ni gyfrannu at wneud ein cymuned yn lle gwych i fyw ynddi waeth beth fo’r heriau presennol.’
Cyflogaeth â Chymorth ELITE
Mae Cyflogaeth â Chymorth ELITE yn cefnogi pobl ag anableddau i gael swydd ddiogel ac aros ynddi, ond oherwydd yr argyfwng mae nifer fawr o ddefnyddwyr gwasanaethau wedi colli eu swyddi ac mae angen cymorth arnynt i hawlio budd-daliadau. Mae angen eiriolwyr ar y rhai sydd ag anawsterau dysgu er mwyn iddynt gysylltu â’r Ganolfan Waith ac mae ELITE eisoes wedi gweithio gyda nifer o gyflogwyr i wrthdroi diswyddiadau, gan helpu gweithwyr i fod ar ffyrlo yn lle hynny.
Dywedodd Andrea Wayman, y Prif Swyddog Gweithredol, ‘Mae’r arian hwn yn hanfodol i’n galluogi ni i gynnig ymateb ymyriad cyflogaeth i unigolion sydd ag anableddau neu dan anfantais.
‘Bydd yn darparu cymorth hanfodol i unigolion sydd wedi colli eu swyddi, sydd mewn perygl o golli eu swyddi, neu i gefnogi unigolion a chyflogwyr i weithredu cynlluniau ffyrlo, sydd, yn y pen draw, yn galluogi pobl i gadw eu swyddi.’
Gwneud Cais i Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol
Mae’r sector gwirfoddol ledled Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi pobl mewn angen ar draws cymunedau Cymru.
Yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng cenedlaethol, mae angen i gyllid gyrraedd y rheini sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau yn gyflym, er mwyn diwallu’r cynnydd enfawr mewn angen.
Mae grantiau’r VSEF yn bodoli i gefnogi mudiadau dielw sy’n gweithio ar lefel gymunedol yr holl ffordd at y rheini sy’n gweithio ar raddfa genedlaethol ledled Cymru.
Holwch i weld a yw eich mudiad yn gymwys a gwnewch gais yma.