People gardening

Cyllid ar gael nawr ar gyfer prosiectau amgylcheddol

Cyhoeddwyd : 17/01/22 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Ydych chi’n chwilio am gyllid i ddatblygu prosiect a fydd yn gwella’r amgylchedd? Mae Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar agor nawr am geisiadau.

Mae CGGC yn falch o gyhoeddi bod seithfed cylch Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) yn derbyn ceisiadau nawr am grantiau rhwng £5,000 a £49,999 ar gyfer prosiectau sy’n dechrau o fis Mawrth 2022.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Ionawr 2022 am 23:59. Peidiwch â bod yn hwyr!

Mae’r LDTCS yn cyllido prosiectau sy’n canolbwyntio ar:

  • fioamrywiaeth
  • lleihau gwastraff ac arallgyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi, a
  • gwelliannau amgylcheddol ehangach.

Os oes gennych chi syniad am brosiect a fyddai o fudd i’r gymuned a’r amgylchedd lleol, edrychwch a ydych chi’n gymwys drwy fynd i dudalen we’r LDTCS a defnyddio’r map.

BETH MAE’R LDTCS WEDI’I GYFLAWNI LEDLED CYMRU

Mae chwech chylch blaenorol yr LDTCS wedi cyllido rhai prosiectau gwych sy’n gwneud gwelliannau amgylcheddol cadarnhaol yn eu hardaloedd lleol gyda chefnogaeth y gymuned. O drwsio beiciau diangen a’u haddasu at ddibenion gwahanol i gynyddu poblogaeth y belaod coed.

PROSIECT GARDDIO ‘MERTHYR’S ROOTS’

Dyfarnwyd grant sylweddol i Sefydliad Cadwraeth Daearegol Prydain (BIGC) o dan y thema ‘gwelliannau amgylcheddol ehangach’, i greu prosiect unigryw y gwnaethant ei alw’n ‘Merthyr’s Roots Gardening Project’ (prosiect garddio).

Y nod oedd cymryd tŷ gwydr anniben a’i drawsnewid yn ardd liwgar. Byddai’r lle yn hwb dysgu a fyddai’n cynnig addysgu cymunedau ac ysgolion lleol am dreftadaeth leol a materion amgylcheddol byd-eang.

Roedd eu tŷ gwydr fel jyngl, yn llawn chwyn ac wedi tyfu’n wyllt. Roedd y to a llawer o’r ffenestri wedi torri. Nid oedd yr un o’r mesurau amgylcheddol yn gweithio.

Mae’r ardal wedi’i thrawsnewid bellach. Mae’r seilwaith wedi’i drwsio lle’n bosibl a gall y gwagle fod yn lleoliad cymunedol unwaith eto.

GWEITHREDU YN YSTOD Y PANDEMIG

Er nad oedd y grŵp yn gallu agor yr adeilad i’r cyhoedd am y rhan helaeth o’r amser, gwnaeth y prosiect addasu a gweithio’n agos gyda grwpiau cymunedol. Defnyddiodd grwpiau anabledd yr ardd tŷ gwydr fel canolbwynt i’w gwaith, hyfforddiant a gweithgareddau cymdeithasu. Cafodd yr ardd ei chynnal a chadw gan y Tîm Prosiect Awyr Agored preswyl – grŵp o oedolion lleol ag anawsterau dysgu ac anghenion arbennig.

Gallodd BIGC gynnig hyfforddiant ystyrlon i gleientiaid a gwirfoddolwyr. Gwnaethant gynnig cyfleoedd profiad gwaith i gyfranogwyr eu grŵp anabledd er mwyn eu paratoi ar gyfer y gweithle a chaniatáu i wirfoddolwyr o’r gymuned leol gael profiad mewn lleoliad treftadaeth ac addysg.

EDRYCH YMLAEN

Gwnaeth BIGC osod nod ar gyfer rhyngweithio ag ysgolion, aelodau o’r gymuned a grwpiau â diddordebau arbennig, gan gynnal nifer o weithdai a gweithgareddau eraill. Oherwydd y cyfyngiadau, nid ydynt wedi gallu rhyngweithio rhyw lawer, ond gyda’r tŷ gwydr yn agor, maen nhw’n gobeithio ehangu’n sylweddol a darparu teithiau a digwyddiadau ar gyfer ysgolion.

Mae’r prosiect wedi dangos beth ellir ei gyflawni, gan wirioneddol sefydlu ei hun fel conglfaen treftadaeth ac addysg amgylcheddol ym Merthyr.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bawb, ond mae prosiect ‘Merthyr’s Roots’ wedi bod yn llwyddiannus a’r gweithgareddau wedi bod yn fuddiol i iechyd meddwl a llesiant ffisegol yr holl staff a mynychwyr.

STORI STEPHANIE: ‘ROEDD YN ACHUBIAETH’

Cyn dechrau’r prosiect, roedd Stephanie wedi ymweld â safle’r tŷ gwydr fel twrist, heb wybod fawr ddim am yr ardal na’i hanes. Gan ei bod yn gweithio yng Nghaerdydd mewn swyddfa, yr un diwrnod o’r wythnos yn gweithio gyda BIGC oedd cyfle Stephanie i ddianc o’r ddinas yn rheolaidd ac ymarfer eu sgiliau mewn gwyddor yr amgylchedd.

Yn sgil pandemig COVID-19, bu’n rhaid i Stephanie, fel llawer o rai eraill, weithio gartref a chafodd mwy o’i gwaith ei wneud ar-lein ac yn rhithiol. Gwnaeth byw a gweithio gartref heb ardd a methu â theithio ddechrau dweud arni, a chyda dechrau prosiect ‘Merthyr’s Roots’ wedi’i ohirio, dechreuodd Stephanie deimlo ychydig yn gaeth.

Yn lwcus, gan wybod pwysau ac amserlen dynn y prosiect a’r buddion hirddisgwyliedig i bobl mewn angen gwirioneddol yn ystod y pandemig, gwnaeth Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Merthyr roi statws Gweithiwr Allweddol i reolwr prosiect  BIGC. Gwnaeth hyn ganiatáu i Stephanie deithio i Ferthyr i ddechrau gweithio ar y prosiect.

SEIBIANT DROS DRO

I Stephanie, roedd cael cyfle i fynd allan o Gaerdydd a chael seibiant dros dro o fod yn gaeth i’r cartref yn gymaint o ryddhad. Er i lawer mewn rhannau mwy gwledig o Gymru ddefnyddio’u gerddi a’r awyr agored yn fwy creadigol ac yn fwy aml yn ystod y pandemig, nid oedd gan bawb fynediad at fyd natur.

Roedd gallu gadael Caerdydd rai diwrnodau’r wythnos i weld golygfeydd newydd a phrofi gwahanol weithgareddau yn rhyddhad mawr ei angen o slafdod a diflastod y cyfnod clo. Roedd gallu canolbwyntio’r meddwl ar rywbeth egnïol a chorfforol yn wych. ‘Roedd yn achubiaeth’, meddai Stephanie.

SUT I WNEUD CAIS

Rydyn ni’n derbyn nifer uchel o geisiadau, sy’n gwneud y broses gyllido’n gystadleuol iawn. Os hoffech gael cymorth ac arweiniad i ddatblygu prosiect, gallwch gysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.

Er mwyn cyflwyno cais am gyllid, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ymgeisio Amlbwrpas (MAP) CGGC. Os ydych chi wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi drwy nodi eich enw defnyddiwr a chyfrinair ar y sgrin hafan.

Gall mudiadau gofrestru drwy fynd i’r wefan map.wcva.cymru.

Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP, dilynwch y fideo hwn (Saesneg yn unig).

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch LDTCS, cysylltwch â thîm grantiau CGGC yn ldtgrants@wcva.cymru.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/09/24 | Categorïau: Cyllid |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy