Group in garden giving thumbs up

Cyllid ar gael nawr ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 24/04/22 | Categorïau: Cyllid |

Mae Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru – cynllun grant hawdd ei gyrchu ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru – bellach ar agor i geisiadau!

Mae CGGC yn falch o lansio rownd ariannu 2022/23 ar gyfer Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru. Ar ôl cyflwyno cynllun peilot llwyddiannus, mae Comic Relief wedi cadarnhau rownd newydd o gyllid i gefnogi gweithredu a arweinir gan y gymuned gan sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol, parhaol ledled Cymru.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn dangos cyfraniad at un o bedair thema strategol Comic Relief:

  • Mae plant yn goroesi ac yn ffynnu: Camau gweithredu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a mynediad at gyfleoedd i gyflawni eu potensial
  • Cyfiawnder rhyw: Camau i wella cydraddoldeb i fenywod a merched
  • Lle diogel i fod ynddo: Camau i helpu pobl sy’n agored i niwed i wella eu hamgylchiadau a’u diogelwch
  • Materion iechyd meddwl: Camau gweithredu i alluogi mynediad at gefnogaeth a chynyddu ymwybyddiaeth

BETH SYDD AR GAEL?

Mae gan Gronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru ddwy lefel ariannu:

Grantiau Bach – £1,000 – £10,000

  • Prosiectau sy’n cynnal gweithgaredd a arweinir gan y gymuned i fynd i’r afael ag anghenion neu faterion penodol yn eu hardal leol

Grantiau Twf Sefydliadol – £30,000 – £60,000

  • I sefydliadau gyflawni gweithgaredd i gael effaith strategol a chynyddu eu gwytnwch

Bydd y Grantiau Bach a’r Grantiau Twf Sefydliadol yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau sydd ag incwm blynyddol o lai na £250,000 y flwyddyn yn unig.

Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor o 19 Ebrill 2022 gan gau 27 Mehefin 2022.

Y cynharaf y gellir prosiectau eu cychwyn yw 22 Awst 2022 gan ddod i ben erbyn 30 Awst 2023 fan bellaf.

Gallwch ddysgu mwy drwy ymweld â Cronfa Gymunedol Comic Relief Yng Nghymru.

AM TSSW

Mae Comic Relief eisiau sicrhau bod ei gyllid yn cyrraedd calon cymunedau Cymru, drwy gefnogi gweithredu a arweinir gan y gymuned sydd wedi’i deilwra i’r cymunedau amrywiol ledled Cymru. Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) wedi’i ddewis i weinyddu grantiau ar ran Comic Relief yng Nghymru, gan sicrhau cyrhaeddiad i sefydliadau ar lawr gwlad.

Mae TSSW yn gweinyddu cyllid sydd ar gael i grwpiau ledled Cymru. Rhwydwaith cymorth Cymru gyfan ar gyfer grwpiau a sefydliadau gwirfoddol yw TSSW. Ein nod ar y cyd yw galluogi’r sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gyfrannu’n llawn at lesiant unigol a chymunedol, nawr ac yn y dyfodol. Mae TSSW yn cynnig cymorth ac arweiniad yn y pedwar maes allweddol canlynol:

  • Llywodraethu da
  • Gwirfoddoli
  • Ymgysylltu a dylanwadu
  • Cyllid cynaliadwy

I gael gwybod mwy ewch i – www.thirdsectorsupport.wales

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy