Pobl mewn coedwig yn plannu coed

Cyllid ar gael ar gyfer prosiectau amgylcheddol bach a mawr

Cyhoeddwyd : 18/09/23 | Categorïau: Cyllid |

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod rownd nesaf Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.

Mae Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ariannu prosiectau sy’n canolbwyntio ar y canlynol:

  • bioamrywiaeth
  • cyfyngu ar wastraff a lleihau gwastraff i safleoedd tirlenwi, a
  • gwelliannau amgylcheddol ehangach.

Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau am brif grantiau rhwng £5,000 a £49,000 a phrosiectau ‘o bwys cenedlaethol’ sydd werth rhwng £50,000 a £250,000.

PROSIECTAU BLAENOROL

Os oes gennych chi syniad am brosiect a fyddai o fudd i’r gymuned, gwiriwch a ydych chi’n gymwys drwy ymweld â’n gwefan a defnyddio’r map i weld ble mae’r safleoedd cymwys.

Mae rowndiau blaenorol y cynllun wedi ariannu prosiectau gwych sy’n gwneud gwelliannau amgylcheddol cadarnhaol yn eu hardaloedd lleol gyda chefnogaeth y gymuned. Mae Coedwig Fach Caerffili – sy’n cael ei redeg gan fudiad Gweithredu Hinsawdd Caerffili – yn un prosiect sydd wedi dwyn ffrwyth dros yr haf. Llwyddodd y prosiect bioamrywiol yma i blannu 600 o lasbrennau ym Mharc Morgan James, Caerffili.  Roedd y gymuned yn hollbwysig wrth ddylunio a chyflwyno’r prosiect, yn cynnig cymorth amhrisiadwy ar bob cam, a chafwyd cymorth gan dros 400 o drigolion a disgyblion o nifer o’r ysgolion lleol.

Mae gwerth dros ddwy flynedd o waith gwerth chweil ar y Goedwig Fach wedi arwain at noddfa i fywyd gwyllt lleol. Mae hefyd wedi arwain at weithredu yn erbyn newid hinsawdd drwy amsugno carbon ac atal llifogydd, gan ddarparu manteision hirdymor i’r amgylchedd a’r gymuned.

Darllenwch fwy am y prosiectau sydd eisoes ar waith yng Nghymru.

BETH GALLWCH CHI WNEUD CAIS AMDANO YN Y ROWND YMA

Yn ogystal â’r prif grantiau rhwng £5,000 a £49,000, mae’r rownd yma hefyd yn agored i geisiadau ar gyfer y grant Arwyddocâd Cenedlaethol, sy’n cynnig cyllid ar gyfer un prosiect o bwys cenedlaethol sydd werth rhwng £50,000 a £250,000. Bydd angen i’r prosiect gyfrannu at ddwy neu fwy o themâu’r gronfa, a gallwch ddarllen amdanyn nhw ar dudalen we Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Rydyn ni’n derbyn nifer uchel o geisiadau sy’n gwneud y broses ariannu yn gystadleuol iawn. Os hoffech gymorth ac arweiniad wrth ddatblygu prosiect gallwch gysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.

RHAGOR O WYBODAETH

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, cysylltwch â Thîm Cronfeydd Grant CGGC yn ldtgrants@wcva.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 24 Tachwedd 2023. Bydd prosiectau llwyddiannus yn cychwyn ar ddechrau 2024.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy