Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod cylch newydd Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.
Mae Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) yn cyllido prosiectau ger gorsafoedd trosglwyddo gwastraff neu safleoedd tirlenwi penodol, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
- bioamrywiaeth
- cyfyngu ar wastraff a lleihau gwastraff i safleoedd tirlenwi
- gwelliannau amgylcheddol ehangach.
Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau am grantiau rhwng £5,000 a £49,999.
Os oes gennych chi syniad am brosiect a fyddai o fudd i’r gymuned, gwiriwch a ydych chi’n gymwys drwy ymweld â’n tudalen we LDTCS a defnyddio’r map i weld pa safleoedd sy’n gymwys.
GYSGOGI NEWID POSITIF MEWN CYMUNEDAU
Mae cylchau blaenorol LDTCS wedi cyllido amrediad eang o brosiectau ysbrydoledig, gan rymuso pobl i gymryd camau i wella eu hamgylchedd lleol.
Cafodd Little Lounge gymorth gan LDTCS i greu mannau gwyrdd arloesol – ‘Y Gerddi Bach Eco’ (The Little Eco Gardens). Mudiad cymunedol o dan arweiniad gwirfoddolwyr yw Little Lounge sy’n rhedeg dwy ardal awyr agored a hyb dan do er mwyn hybu llesiant a gwella mynediad at natur a dysgu awyr agored.
Gwnaeth y prosiect yng Nghilfynydd, Pontypridd, anadlu bywyd i safle awyr agored nad oedd yn cael ei ddefnyddio digon ar dir a esgeuluswyd cyn hyn.
Mae’r prosiect wedi creu lle i’r gymuned ddysgu am dyfu bwyd, bioamrywiaeth a chynaliadwyedd. Mae cyllid LDTCS wedi cefnogi’r gwaith o greu man awyr agored cysgodol a chyfleusterau ymolchi, sy’n golygu bod gweithgareddau ar y safle yn fwy hygyrch ac yn llai ddibynol ar y tywydd.
Mae’r seilwaith gwell wedi arwain at fwy o ddigwyddiadau cymunedol ac wedi annog trigolion lleol i fwynhau natur mewn modd hamddenol a chroesawgar. Mae’r safle hefyd wedi cael cyfraniadau positif gan wirfoddolwyr, gan gynnwys ymhél ag ysgol leol i gefnogi dysgwyr i ailgysylltu ag addysg.
Os hoffech wybod mwy am y prosiectau rydyn ni wedi’u cyllido, edrychwch ar ein Adroddiad Blynyddol Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS
Byddwn yn rhoi dau ddyddiad cau ar gyfer y cylch hwn o’r LDTCS, bydd hyn yn galluogi ceisiadau i gael eu hasesu’n amserol pan fyddant yn dod i law.
Os hoffech i’ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 1, cyflwynwch ef erbyn 11.59 pm ar 5 Mehefin 2026.
Os hoffech i’ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 2, cyflwynwch ef erbyn 11.59 pm ar 17 Gorffennaf 2026.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n tudalen ar LDTCS.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, cysylltwch â Thîm Grantiau CGGC yn ldtgrants@wcva.cymru.