Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod cylch newydd Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.
Mae Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) yn cyllido prosiectau ger gorsafoedd trosglwyddo gwastraff neu safleoedd tirlenwi penodol, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
- bioamrywiaeth
- cyfyngu ar wastraff a lleihau gwastraff i safleoedd tirlenwi, a
- gwelliannau amgylcheddol ehangach.
Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau am brif grantiau rhwng £5,000 – £49,000 a phrosiect ‘o bwys cenedlaethol’ sydd werth rhwng £50,000 – £250,000.
Os oes gennych chi syniad am brosiect a fyddai o fudd i’r gymuned, gwiriwch a ydych chi’n gymwys drwy ymweld â’n gwefan a defnyddio’r map i weld ble mae’r safleoedd cymwys.
GYRRU NEWID POSITIF MEWN CYMUNEDAU
Mae cylchau blaenorol LDTCS wedi cyllido amrediad eang o brosiectau ysbrydoledig, gan rymuso pobl i gymryd camau i wella eu hamgylchedd lleol.
Gwnaeth Gwyrddio Penarth Greening ddefnyddio’r cyllid i sefydlu Benthyg ym Mhenarth – Llyfrgell o bethau lle gall pobl fenthyg eitemau cartref defnyddiol am bris isel a rhoi rhai nad ydynt eu hangen, gan eu harallgyfeirio o safleoedd tirlenwi. Y prosiect hwn oedd y safle cyntaf yn rhwydwaith Benthyg Cymru, sydd bellach yn cynnwys mwy na 25 o Lyfrgelloedd o Bethau ledled Cymru sy’n cwrdd yn rheolaidd i rannu dysgu ac arferion gorau.
Mae’r prosiect wedi llwyddo i ymwreiddio ethos o fenthyg o amgylch cymuned ehangach Penarth. Ers agor, mae Benthyg Penarth wedi cofnodi mwy na 2,400 o ‘fenthyciadau’, gan arbed oddeutu £67,000 a 36 tunnell o garbon i’r gymuned, ac wedi arallgyfeirio bron dwy dunnell o safleoedd tirlenwi drwy dderbyn dros 500 o eitemau cartref fel rhoddion.
Os hoffech wybod mwy am y prosiectau rydyn ni wedi’u cyllido, edrychwch ar Adroddiad Blynyddol 2023/24 Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS
Byddwn yn rhoi dau ddyddiad cau ar gyfer y cylch hwn o’r LDTCS, bydd hyn yn galluogi ceisiadau i gael eu hasesu’n amserol pan fyddant yn dod i law.
Os hoffech i’ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 1, cyflwynwch ef erbyn 20 Rhagfyr 2024.
Os hoffech i’ch cais gael ei ystyried fel rhan o ffenestr 2, cyflwynwch ef erbyn 7 Chwefror 2025.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n tudalen ar LDTCS.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, cysylltwch â Thîm Grantiau CGGC yn ldtgrants@wcva.cymru.