Dyn yn gweithredu peiriannau gwaith coed, mae ei fathodyn yn dweud 'MTIB ers 1923'

Cyllid amgen ar gyfer gwasanaethau cymorth hanfodol y sector gwirfoddol yn mynd yn angof

Cyhoeddwyd : 30/05/22 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae miloedd o bobl wedi’u cynorthwyo gan wasanaethau cyflogadwyedd a sgiliau a arweiniwyd gan y sector gwirfoddol. Ond wrth i ni agosáu at ddiwedd cyllid Ewropeaidd, mae llawer o fudiadau’n pryderu ynghylch y dyfodol.

Ers mis Hydref 2015, mae Cronfa Cynhwysiant Gweithredol CGGC wedi cynorthwyo 175 o fudiadau, 475 o brosiectau a 22,150 o gyfranogwyr. Mae wedi dyfarnu £48 miliwn o gyllid Ewropeaidd, sydd wedi denu £12 miliwn arall mewn cyllid cyfatebol a ddarparwyd gan dderbynyddion grantiau.

mae’r cyllid hwn wedi bod yn achubiaeth i’r rheini sydd bellaf o’r farchnad lafur, rhai o’r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru. Ond wrth i gyllid Ewropeaidd ddod i ben, mae pryderon ofnadwy nad oes cyllid amgen yn ei le eto.

POBL SY’N AGORED I NIWED YN CAEL EU GADAEL HEB DDARPARIAETH

I lawer o fudiadau a’r bobl a’r cymunedau y maen nhw’n eu cynorthwyo, gallai eisoes fod yn rhy hwyr. Heb unrhyw gyllid ar gael yn hawdd, bydd gwasanaethau yn dod i ben, staff yn cael eu colli a rhai mudiadau, na fydd yn gallu gwneud iawn am y golled, yn cau. Bron dros nos, bydd hyn yn gadael rhai o bobl fwyaf agored i niwed Cymru heb unrhyw ddarpariaeth briodol.

Mae CGGC a nifer o brosiectau Cynhwysiant Gweithredol wedi bod yn siarad â’r BBC ynghylch y pryderon hyn a’r hyn y byddai colli’r cyllid yn ei olygu i gymunedau ac unigolion. Darllenwch ragor am sut gallai hyn effeithio ar fywydau cymaint o bobl.

Os na fydd cyllid amgen yn cael ei gadarnhau’n fuan, bydd llawer o brosiectau yn gorfod cau neu leihau. Bydd hyn, o bosibl, yn golygu y bydd angen iddyn nhw ddechrau o’r dechrau i ailgodi eu capasiti a’r gwasanaethau a ddarperir ganddyn nhw, a hynny am bris llawer uwch os na chaiff cyllid newydd ei gadarnhau tan yn ddiweddarach.

Rydyn ni’n galw ar benderfynwyr allweddol i ddarparu cyllid i ddisodli’r gronfa Cynhwysiant Gweithredol ar frys er mwyn osgoi colli swyddi a galluogi prosiectau i addasu eu gwasanaethau i gyllid newydd dros amser rhesymol.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

Rydyn ni’n pwyso ar fudiadau gwirfoddol sy’n darparu’r cymorth amhrisiadwy hwn drwy brosiectau Cynhwysiant Gweithredol, a’r rheini rydych chi’n eu gwasanaethu, i rannu’r eitemau newyddion hyn er mwyn helpu i sicrhau bod ein lleisiau yn cael eu clywed.

Mae hefyd yn bwysig eich bod chi’n pwysleisio i’ch Aelodau o’r Senedd lleol, Aelodau Seneddol a Chynghorau lleol fod y gwaith pwysig rydych chi’n ei wneud drwy’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, neu brosiectau eraill a gyllidir gan yr UE, ar fin dod i ben. Ac nad oes gennych chi unrhyw syniad o’r amserlenni na’r llwybrau cyllido a fydd ar gael i chi drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch hyn, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i help@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 03/02/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Gwnewch gais nawr am Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/01/25
Categorïau: Cyllid

Little Lounge – cefnogi’r gymuned leol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/01/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Prosiect Newid y Gêm

Darllen mwy