Mae CGGC yn falch o gyhoeddi bod cylch newydd o gyllid Cynhwysiant Gweithredol bellach ar agor ar Borth Ymgeisio Amlbwrpas (MAP) CGGC gyfer sefydliadau ar y Rhestr Buddiolwyr Cymeradwy.
Y dyddiad cau ar gyfer y rownd hon yw 1 Mis Ebrill 2021. Rhagwelir y bydd prosiectau a gymeradwywyd yn y cylch hwn yn dechrau ddechrau mis Awst 2021 ac y byddant yn gallu rhedeg hyd at 30 Medi 2022.
I weld y rowndiau ariannu, mewngofnodwch i MAP a chliciwch ar y sgrin Ceisiadau lle byddwch yn gweld y rowndiau y mae eich sefydliad yn gymwys i’w cael.
Noder nad oes unrhyw geisiadau’n cael eu gwahodd yn y cylch hwn ar gyfer y cronfeydd ‘Ieuenctid’ Cynhwysiant Gweithredol. Fodd bynnag, bydd cylch ariannu Cynhwysiant Gweithredol pellach yn cael ei lansio ddechrau mis Mai 2021. Bydd y cylch hwn yn cynnwys categorïau ‘Gorllewin Cymru a’r Cymoedd – Ieuenctid’ a ‘Dwyrain Cymru – Ieuenctid’ ochr yn ochr â chyfleoedd pellach i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau sy’n dod o fewn manylebau ‘Gorllewin Cymru a’r Cymoedd – 25+’ a ‘Dwyrain Cymru – 25+’. Rhagwelir y bydd prosiectau a gymeradwywyd yn y cylch hwn yn dechrau ddechrau mis Hydref 2021 ac y byddant yn gallu rhedeg hyd at 30 Medi 2022.
Os nad ydych eisoes ar y Rhestr Buddiolwyr Cymeradwy (ABL), mae amser o hyd i chi gofrestru cyn i gylch mis Mai agor – nid oes dyddiadau cau ar gyfer cofrestru ar yr ABL, ac mae ceisiadau’n cael eu prosesu ar sail dreigl. Mae croeso i chi gysylltu â’r tîm Cynhwysiant Gweithredol drwy activeinclusion@wcva.cymru, a fydd yn hapus i’ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am ddod yn fuddiolwr cymeradwy, neu am syniadau eich prosiect a hefyd am lenwi’r ffurflen gais a phroffil y prosiect.
Gall unrhyw un sy’n chwilio am ysbrydoliaeth wylio’r fideos hyn i gael gwybod mwy am rai prosiectau a ariannwyd yn flaenorol.
Mae diweithdra ar gynnydd yng Nghymru, ond mae prosiectau a gyllidir gan Gronfa Cynhwysiant Gweithredol CGGC yn ymladd yn ôl.