Man sat pointing at laptop as woman sat at desk takes notes of his advice

Cylch newydd o Cynhwysiant Gweithredol nawr ar agor

Cyhoeddwyd : 08/01/21 | Categorïau: Cyllid |

Mae cylch newydd o gyllid Cynhwysiant Gweithredol bellach ar agor ar Borth Ymgeisio Amlbwrpas (MAP) CGGC. Y dyddiad cau ar gyfer y rownd hon yw 5 Mis Chwefror 2021.

Gall mudiadau ar y Rhestr Buddiolwyr cymeradwy mewngofnodi i MAP a chlicio ar y sgrin Ceisiadau lle byddwch yn gweld y rowndiau y mae eich sefydliad yn gymwys i’w cael.

Ochr yn ochr â chategorïau cyfarwydd WWV-25+ ac EW-25+, nodwch y byddwn hefyd, ar gyfer y cylch hwn sydd i ddod, yn gwahodd ceisiadau o dan ddau gategori newydd ychwanegol:

‘Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru’

Drwy’r cylch peilot hwn o Gyllid Cynhwysiant Gweithredol, bydd CGGC yn cefnogi’r fenter ‘Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru’. Mae hon yn ymgyrch dros Gymru gyfan i weithredu ar adfer byd natur wrth adeiladu’r economi adfywiol. Mae’n cyllido prosiectau sy’n:

  • Cyflawni buddion uniongyrchol i fyd natur
  • Adeiladu sgiliau a galluoedd perthnasol yn ein gweithlu
  • Creu cyfleoedd bywoliaeth newydd yn yr economi adfywiol
  • eu halinio mewn ymgyrch eglur tuag at adferiad gwyrdd.

Bydd y gronfa yn cefnogi prosiectau ar un o dri fformat y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn unig: ‘Cynnwys’.

Prosiectau Cymdeithasau Tai

Drwy’r cylch peilot hwn o Gyllid Cynhwysiant Gweithredol, bydd CGGC yn cyllido cymdeithasau tai i gefnogi pobl i symud i gyflogaeth, drwy weithgareddau sy’n gysylltiedig â’u rhaglenni adeiladu ac ailwampio eu hunain, gan ddangos gwerth cyllid cyflogadwyedd sy’n ategu buddsoddiad cyfalaf.

Mae cymdeithasau tai wedi derbyn arian ychwanegol gan y Grant Tai Cymdeithasol i gyllido’r gwaith o adeiladu cartrefi cymdeithasol newydd, cynlluniau datblygu tai cymdeithasol a datgarboneiddio cartrefi presennol.

Mae hyn yn cynnig y posibilrwydd o allu cynnig lleoliadau gwaith gyda chefnogaeth a fydd yn rhoi sgiliau newydd a phrofiad gwaith i bobl ac yn cyfrannu at lai o ddibyniaeth ar fudd-daliadau, allgau cymdeithasol a thlodi.

Bydd y gronfa yn cefnogi prosiectau ar ddau o dri fformat y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol: ‘Cyflawni’ neu gyfuniad o ‘Cynnwys/Cyflawni’

Noder hefyd nad oes unrhyw geisiadau’n cael eu gwahodd yn y cylch hwn ar gyfer y cronfeydd ‘Ieuenctid’ Cynhwysiant Gweithredol.

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’r tîm Cynhwysiant Gweithredol trwy activeinclusion@wcva.cymru. Byddwn yn hapus i’ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych am eich syniadau prosiect a hefyd ynglŷn â chwblhau’r ffurflen gais a phroffil y prosiect.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 22/01/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Prosiect Newid y Gêm

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy