Menyw gydag eraill yn gwenu ac yn sgwrsio yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2024

Cyhoeddi teilyngwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2025

Cyhoeddwyd : 15/09/25 | Categorïau: Newyddion |

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru.

Diolch o galon i bawb a gymerodd ran a gwneud enwebiad eleni. Cawsom nifer anhygoel o enwebiadau o ansawdd uchel, a bu’n dipyn o dasg i’n panel beirniadu annibynnol!

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn amlygu’r effaith fuddiol y mae elusennau, yn ogystal â gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol, mewn cymunedau amrywiol ar hyd a lled Cymru, wedi’i chael ar fywydau pobl.

Y nod yw amlygu a chodi ymwybyddiaeth o’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd drwy wirfoddoli a dangos gwerthfawrogiad am y gwaith anhygoel y mae gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol yn ei wneud.

TEILYNGWYR 2025

Mae wyth categori yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni, dyma ein teilyngwyr ar gyfer 2025:

Gwirfoddolwr y flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu’n hŷn) – noddwyd gan Hedyn

  • Justin Griffiths
  • Mojisola Olateju
  • Fiona Stevens

Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu iau ) – noddwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

  • David Uche
  • Francesco Lanzi
  • Mia Harris-Jones

Codwr arian y flwyddyn – noddwyd gan *Utility Aid

  • Faith in Families
  • Ymddiriedolaeth y Plwyf
  • Ymddiriedolaeth Elusennol Canmlwyddiant Stephens a George

Hyrwyddwr amrywiaeth – noddwyd gan Bute Energy

  • KIRAN Cymru
  • Cwmni Buddiant Cymunedol Redberth Croft
  • Cymunedau Ffyniannus a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Defnydd o’r Gymraeg – noddwyd gan Darwin Gray

  • Y Gymdeithas Strôc
  • NSPCC
  • GISDA

Mudiad bach mwyaf dylanwadol – noddwyd gan *Sefydliad Banc Lloyds ar gyfer Cymru a Lloegr

  • Bullies Out
  • KIRAN Cymru
  • Megan’s Starr

Iechyd a lles – noddwyd gan Geldards

  • Area 43
  • Tŷ Brynawel
  • Cwmni Buddiant Cymunedol y Therapeutic Activities Group

Mudiad y flwyddyn – noddwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru

  • Megan’s Starr
  • ScoutsCymru
  • Uned Diogelwch Cam-drin Domestig
  • Age Connects Caerdydd a’r Fro
  • Aren Cymru

LLONGYFARCHIADAU I’N HOLL ENWEBEION

Diolch unwaith eto i bawb a gyflwynodd enwebiad, cawsom ein syfrdanu gan y storïau anhygoel o bobl a mudiadau yng Nghymru a’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud.

Hoffem longyfarch pob un o’n henwebeion. Waeth a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer neu beidio, gobeithio bod cymryd rhan yng Ngwobrau Elusennau Cymru wedi dangos i chi faint mae eich gwaith yn ei olygu i’r bobl a’r cymunedau rydych yn eu cefnogi.

CAMAU NESAF

Rydym wedi cysylltu â’r holl wirfoddolwyr a mudiadau a enwebwyd nawr i roi gwybod iddynt os ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer. Bydd mudiadau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i noson wobrwyo fawreddog lle bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi. Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 16 Hydref 2025.

RHAGOR O WYBODAETH

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau drwy fynd i’r wefan Gwobrau Elusennau Cymru.

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn bosibl diolch i nawdd caredig ein prif noddwr, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, a’n holl noddwyr a chefnogwyr eraill – Diolch yn fawr!

*Gwefannau Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 09/02/26
Categorïau: Newyddion

Mae’n Wythnos Elusennau Cymru!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/02/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Arweinwyr y sector gwirfoddol yn gwrthwynebu cynigion ‘setliad a enillwyd’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/02/26
Categorïau: Newyddion

Rydyn ni’n cyflogi – Rheolwr Dysgu Digidol Presgripsiynu Cymdeithasol

Darllen mwy