Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru.
Diolch o galon i bawb a gymerodd ran a gwneud enwebiad eleni. Cawsom y nifer uchaf erioed o enwebiadau o ansawdd uchel, a bu’n dipyn o dasg i’n panel beirniadu annibynnol!
‘Roedd hi’n fraint go iawn i fod yn rhan o’r broses feirniadu eleni ac i gyfrannu at ddathliad mor bwysig o’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Roedd safon yr enwebiadau yn eithriadol o uchel ar draws yr holl gategorïau ac roedd darllen yr enghreifftiau di-ri o ymroddiad, arloesedd ac effaith gymunedol yn wirioneddol ysbrydoledig.’
– Darren Jones, Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Aelod allanol o’n panel beirniadu eleni.
Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn amlygu’r effaith fuddiol y mae elusennau, yn ogystal â gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol, mewn cymunedau amrywiol ar hyd a lled Cymru, wedi’i chael ar fywydau pobl.
Y nod yw amlygu a chodi ymwybyddiaeth o’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd drwy wirfoddoli a dangos gwerthfawrogiad am y gwaith anhygoel y mae gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol yn ei wneud.
Gwnaethom ni hyd yn oed gyflwyno categori cyflawniad arbennig newydd sbon eleni i anrhydeddu unigolion sydd wedi cael effaith eithriadol a pharhaol ar y sector gwirfoddol yng Nghymru – Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield, a gefnogir gan The Bower Trust. Cyhoeddir y teilyngwr ar gyfer yr anrhydedd arbennig hwn ym mis Hydref.
TEILYNGWYR 2026
Mae naw categori yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni, dyma ein teilyngwyr ar gyfer 2026:
Gwirfoddolwr y flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu’n hŷn) – noddwyd gan Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru
- Annie Hutchings
- Helen McCarthy
- Mark Jones
Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu iau ) – noddwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Amélie Houghton
- Annalise Miles-Davies
- Bowen Cole
Codwr arian y flwyddyn – noddwyd gan Hedyn
- Faith in Families
- Media Academy Cymru Ltd
- Y CAE
Hyrwyddwr amrywiaeth – noddwyd gan Bute Energy
- AP Cymru (Autism Puzzles ynghynt) Yr Elusen Niwroamrywiaeth
- Cwmni Buddiant Cymunedol Cybervists
- Motion Control Dance
Defnydd o’r Gymraeg – noddwyd gan Darwin Gray
- Cwmni Theatr Arad Goch
- Gofod Rhithiol Teulu Barnardo’s Cymru
- Meddwl Ymlaen Gwynedd a Môn
Mudiad bach mwyaf dylanwadol – noddwyd gan Sefydliad Banc Lloyds ar gyfer Cymru a Lloegr*
- Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru Cyf
- Trefnu Cymunedol Cymru / Together Creating Communities
- Cwmni Buddiant Cymunedol VIBE Youth
Iechyd a lles – noddwyd gan Geldards*
- Eye to Eye Counselling
- Single Parents Wellbeing
- Tanio
Mudiad y flwyddyn – noddwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru
- Awel Aman Tawe
- Gwasanaethau Trais Domestig Calan
- Ymchwil Canser Cymru
- Uned Diogelwch Cam-drin Domestig Gogledd Cymru
- Seren Ffestiniog Cyf
LLONGYFARCHIADAU I’N HOLL ENWEBEION
Diolch unwaith eto i bawb a gyflwynodd enwebiad, cawsom ein syfrdanu gan y storïau anhygoel o bobl a mudiadau yng Nghymru a’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud.
Hoffem longyfarch pob un o’n henwebeion. Waeth a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer neu beidio, gobeithio bod cymryd rhan yng Ngwobrau Elusennau Cymru wedi dangos i chi faint mae eich gwaith yn ei olygu i’r bobl a’r cymunedau rydych yn eu cefnogi.
CAMAU NESAF
Rydym wedi cysylltu â’r holl wirfoddolwyr a mudiadau a enwebwyd nawr i roi gwybod iddynt os ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer. Bydd mudiadau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i noson wobrwyo fawreddog lle bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi. Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 15 Hydref 2026.
RHAGOR O WYBODAETH
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau drwy fynd i’r wefan Gwobrau Elusennau Cymru.
Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn bosibl diolch i nawdd caredig ein prif noddwr, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, a’n holl noddwyr a chefnogwyr eraill – Diolch yn fawr!
*Gwefannau Saesneg yn unig