Mae’r rhestr fer wedi’i chyhoeddi ar gyfer Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau (NCA), Gwobrau Hearts For The Arts 2021.
Mae’r gwobrau’n dathlu arwyr tawel Awdurdodau Lleol sy’n hyrwyddo’r celfyddydau er gwaethaf pob rhwystr. Bydd enillwyr eleni yn cael eu dewis o’r rhestr fer gan banel o feirniaid sy’n arbenigwyr ac yn ymarferwyr blaenllaw yn y maes celfyddydau, gan gynnwys:
Le Gateau Chocolat, Artist drag a pherfformiwr cabare
Paul Hartnoll, cerddor, cyfansoddwr, aelod sefydlu Orbital
Adrian Lester CBE, actiwr a chyfarwyddwr
Petra Roberts, Rheolwr Datblygu Diwylliannol, Cyngor Hackney (enillwyr 2020 ar gyfer Gŵyl Windrush Generations)
Samuel West, actiwr, cyfarwyddwr, Cadeirydd Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau
Er gwaetha’r caledi anhygoel sydd wedi wynebu Awdurdodau Lleol yn 2020, mae’r NCA wedi derbyn y nifer uchaf erioed o enwebiadau ar gyfer gwobrau eleni, wrth i gymunedau lleol droi at y celfyddydau am gysur, cryfder a chysylltedd yn ystod y pandemig.
Cafodd Gwobrau’r Hearts for the Arts eu lansio bum mlynedd yn ôl i amlygu cyflawniadau Awdurdodau Lleol o ran parhau â’u gwasanaethau celfyddydol er gwaethaf toriadau ariannol difrifol. Mae’r beirniaid blaenorol wedi cynnwys Susie Dent, Gary Kemp ac Olivia Colman. Mae’r enillwyr blaenorol wedi cynnwys Gŵyl Windrush Generations Cyngor Hackney a’r Plymouth Music Zone.
Derbyniwyd enwebiadau o bob rhan o’r DU ar gyfer y tri chategori gwobrwyo: Prosiect Celfyddydau Gorau; Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Gweithiwr Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol; a’r Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd.
Cafodd y rhestr fer ei beirniadu gan gynrychiolwyr o bartneriaid gwobrwyo’r flwyddyn hon: Culture Counts, y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau, UK Theatr a Chelfyddydau Gwirfoddol Cymru.
Mae’r rhestr fer yn cynnwys cymysgedd gyffrous o brosiectau a phobl ragorol sy’n defnyddio creadigrwydd i gryfhau eu cymunedau, economïau a llesiant lleol. O gynnal gwyliau ar-lein i ddarparu pecynnau cymorth creadigol i bobl ifanc, ac o agor canolfannau diwylliannol newydd sbon i ddefnyddio’u dyfeisgarwch i ennyn cydweithrediadau artistig â gweithwyr iechyd proffesiynol, y rheini sydd ar restr fer eleni yw’r astudiaethau achos mwyaf eglur o reidrwydd creadigrwydd ym mywydau pob un ohonom.
Dyma’r rhestrau byr:
- Prosiect Celfyddydau Gorau
- Mole Valley Arts E-Live – Cyngor Dosbarth Mole Valley
- The Creative Cabin – Cyngor Dosbarth Dwyrain Dyfnaint
- Necklace of Stars – Cyngor Sir Swydd Derby
- N17 – Cyngor Haringey
- Pecynnau chwarae Create & Learn– Wandsworth, Bwrdeistref Llundain (Gwasanaeth Celfyddydol)
- Festival of Hope – Bolton, Carlisle, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Swydd Gaerhirfryn a Sefton
- Dippy on Tour (Gogledd-orllewin) – Cyngor Bwrdeistref Rochdale ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Link4Life
- Amgueddfeydd Barnsley: Families in Lockdown – Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Barnsley
- Canolfannau Haf – Cyngor Sir y Fflint
- The Box, Plymouth – Cyngor Dinas Plymouth
- Falling on your Feet – Cyngor Sir Durham
- Sea Folk Sing – Caint, Medway a Swale
- Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Gweithiwr Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol
- Sara O’Donnell – Wandsworth, Bwrdeistref Llundain
- Andy Dawson – Inspire Youth Arts
- Paul Cowell – Cyngor Medway
- Claudia Cartwright – Cyngor Dosbarth Mole Valley
- Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd
- Y Cynghorydd Janet Emsley – Cyngor Bwrdeistref Rochdale
- Y Cynghorydd Jonathan Simpson – Camden, Bwrdeistref Llundain
- Y Cynghorydd Dale Heenan – Cyngor Bwrdeistref Swindon
- Y Cynghorydd Karen King – Cyngor Bwrdeistref Redcar a Cleveland
Bydd enillwyr Gwobrau Hearts for the Arts 2021 yn cael eu cyhoeddi ar Ŵyl Sant Ffolant, 14 Chwefror.
Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau sy’n cyflwyno Gwobrau Hearts for the Arts bob blwyddyn. Caiff y gwobrau eu cyflwyno gan yr NCA, mewn partneriaeth â Culture Counts; y Gymdeithas Llywodraeth Leol; Thrive; UK Theatre; Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am yr enwebeion ar y rhestr fer, ewch i forthearts.org.uk/campaigns/hearts-for-the-arts