Mae’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Hearts For The Arts 2020 Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau (NCA) wedi cael ei chyhoeddi. Mae’r gwobrau’n dathlu arwyr tawel mewn Awdurdodau Lleol sy’n hyrwyddo’r celfyddydau, yn aml yn wyneb heriau ariannol difrifol.
Derbyniwyd enwebiadau o bob cwr o’r DU ar gyfer pob un o’r pedwar categori: Menter Gelfyddydol Orau; Prosiect Celfyddydol Gorau – Cydlyniant Cymunedol; Prosiect Celfyddydol Gorau – Celfyddydau, Iechyd a Lles; Hyrwyddwr Celfyddydol Gorau – Gweithiwr mewn Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol; neu Hyrwyddwr Celfyddydol Gorau – Cynghorydd.
Cafodd y rhestr fer ei beirniadu gan gynrychiolwyr o rai o bartneriaid y gwobrau eleni: Culture Counts, Cymdeithas Llywodraeth Leol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau, UK Theatre a Chelfyddydau Gwirfoddol Cymru.
Dywedodd Samuel West, Cadeirydd Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau:
‘Am restr fer. Roedden ni’n falch iawn o gael cynifer o enwebiadau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a hoffem ddiolch i’n partneriaid eleni am weithio mor galed i sicrhau hyn.
‘Mae ehangder y prosiectau a’r rheini sydd wedi cael eu henwebu yn dangos bod y celfyddydau wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau, er gwaethaf adeg gynyddol anodd i gyllid awdurdodau lleol.
‘Rydw i’n hapus iawn bod Hearts For The Arts yn gallu dathlu creadigrwydd, dyfeisgarwch a chryfder y rheini ar y rhestr fer eleni’.
Dyma’r rhestr fer:
- Menter Gelfyddydol Orau
- Arts Train – Bromley / My time Active
- People Power Passion – Cyngor Bwrdeistref Luton
- Plymouth Music Zone – Cyngor Dinas Plymouth
- Wirral Borough of Culture – Cyngor Bwrdeistref Cilgwri
- Prosiect Celfyddydol Gorau – Cydlyniant Cymunedol
- AND Dream – Cyngor Bwrdeistref Ards a North Down
- Happy Street Festival & Thessaly Road Bridge – Bwrdeistref Wandsworth, Llundain
- Performing Places Bexley – Bwrdeistref Bexley, Llundain
- Windrush Generations Festival – Cyngor Hackney
- Prosiect Celfyddydol Gorau – Celfyddydau, Iechyd a Lles
- Making It – Cyngor Dosbarth Three Rivers
- Moments in time – Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Fife
- Open Arts – Cyngor Sir Essex
- Outside Edge Theatre Company – Hammersmith a Fulham a Westminster a Chelsea
- Hyrwyddwr Celfyddydol Gorau – Gweithiwr mewn Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol
- Alison Fogg – Cyngor Bwrdeistref Colchester
- Gordon Dalton – Cyngor Middlesbrough
- Jayne Knight – Cyngor Sir Suffolk
- Pauline Smeaton – Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Fife
- Hyrwyddwr Celfyddydol Gorau – Cynghorydd
- Y Cynghorydd Judith Blake
- Y Cynghorydd Luthfur Rahman
- Y Cynghorydd Rachel Hopkins
- Y Cynghorydd Steffi Sutters
Bydd enillwyr Gwobrau Hearts For The Arts 2020 yn cael eu cyhoeddi ar Ddydd San Ffolant, sef 14 Chwefror. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis o’r rhestr fer gan banel o ymarferwyr ac arbenigwyr allweddol o’r diwydiant celfyddydol, yn cynnwys:
- Susie Dent: geiriadurwraig, etymolegydd, cyflwynydd ‘Dictionary Corner’ Countdown
- Gary Kemp: actor, cerddor, cyfansoddwr caneuon, aelod gwreiddiol o Spandau Ballet
- Julie Hesmondhalgh: actores, gweithredydd
- Alom Shaha: athro Ffiseg, tad, awdurMr Shaha’s Recipes for Wonder
- Errollyn Wallen CBE, cyfansoddwr
- Kirstie Wilson: Cyngor Kirklees, enillydd Hyrwyddwr Celfyddydol Gorau mewn Awdurdod Lleol – Swyddog, Gwobrau Hearts for the Arts 2019
- Samuel West, actor, cyfarwyddwr, Cadeirydd Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau
Mae Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau yn cyflwyno Gwobrau Hearts For The Arts bob blwyddyn. Darperir y gwobrau gan UK Theatre, mewn partneriaeth â Culture Counts; y Gymdeithas Llywodraeth Leol; Thrive; Theatre NI; Celfyddydau Gwirfoddol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y rheini sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ewch i forthearts.org.uk/campaigns/hearts-for-the-arts/