Marco, enillydd cyntaf Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield

Cyhoeddi gwobr cyflawniad eithriadol yn y sector gwirfoddol

Cyhoeddwyd : 30/09/26 | Categorïau: Newyddion |

Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi enillydd cyntaf y wobr newydd am ‘gyflawniad eithriadol’, sy’n cydnabod unigolyn sydd wedi cael effaith eithriadol a pharhaol ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield yn rhan o Wobrau Elusennau Cymru. Mae’r anrhydedd arbennig hon, sy’n wobr newydd ar gyfer 2026, yn dathlu’r rhai y mae eu cyfraniad yn mynd y tu hwnt i un prosiect neu foment. Mae’n cydnabod unigolion y mae eu hymroddiad, eu hangerdd a’u harweinyddiaeth wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon a pharhaol i gymunedau ledled Cymru.

LLONGYFARCHIADAU I’N HENILLYDD

Marco Gil Cervantes, ProMo Cymru

Mae Marco yn dderbynnydd cyntaf teilwng o Wobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield am ei arweinyddiaeth ragorol dros 30 mlynedd yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ei arweinyddiaeth arloesol o ProMo Cymru, sydd wedi arwain y blaen o ran y defnydd o ddigidol gyda phobl ifanc a chymunedau a mudiadau ledled y wlad.

CYNYDDU EFFAITH PROMO CYMRU

O dan ei arweinyddiaeth, mae ProMo Cymru wedi tyfu o weithrediad un person i fod yn fenter gymdeithasol uchel ei pharch yn genedlaethol a ledled Ewrop. Erbyn hyn, mae’n cyflogi dros 50 aelod o staff. Mae ei ymarfer ym maes gwaith ieuenctid wedi cael ei ddisgrifio gan y Cyngor Gweithlu Addysg fel ‘ciplun o sut y dylai gwaith ieuenctid edrych yn yr 21ain ganrif’. Mae llawer o gyfranogwyr wedi mynd ymlaen i wirfoddoli ac yna i ymgymryd â gwaith cyflogedig, gyda rhai ohonynt yn ymuno â ProMo ei hun.

Yn ddiweddar, mae Marco wedi camu o’r neilltu fel Prif Weithredwr i fod yn Gyfarwyddwr Datblygu, gan greu lle ar gyfer cenhedlaeth newydd o arweinwyr. Mae’n parhau i gefnogi cannoedd o fudiadau trwy raglenni hyfforddi, ymgynghori a digidol ProMo Cymru i ddatblygu dulliau mwy cyfranogol o ddylunio gwasanaethau. Mae’r gwaith hwn hefyd wedi llunio’r ffordd y mae’r GIG, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn dylunio ac yn darparu gwasanaethau gyda chymunedau.

ARWEINYDDIAETH RAGOROL AR DRAWS Y SECTOR GWIRFODDOL

Mae Marco wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth gwirfoddol mewn rolau arwain cenedlaethol, gan gynnwys fel Aelod Gweithredol a Thrysorydd CWVYS, Cadeirydd Partneriaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd Cymru a Chadeirydd Grŵp Digidol Bwrdd Gweithredu Ieuenctid Llywodraeth Cymru.

Datblygodd Meic, llinell gymorth genedlaethol Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc, sydd wedi bod yn gweithredu 16 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ers dros 13 mlynedd.

Roedd Marco yn allweddol hefyd wrth achub Sefydliad Glynebwy, yr un hynaf yng Nghymru, gan sicrhau dros £1.2 miliwn o gyllid adfer a’i thrawsnewid yn ganolfan gymunedol sy’n croesawu mwy na 6,000 o ymwelwyr bob mis erbyn hyn.

CYDNABOD DENG MLYNEDD AR HUGAIN O WASANAETH

Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae dylanwad Marco yn rhedeg trwy’r mudiadau y mae wedi’u hadeiladu a’r cymunedau y mae ei waith yn parhau i’w gwasanaethu.

Bydd Marco yn derbyn ei wobr yn swyddogol yn seremoni Gwobrau Elusennau Cymru ym mis Hydref. Llongyfarchiadau Marco!

YNGLŶN Â’R WOBR

Roedd Graham Benfield, a fu farw yn 2025, yn llais hynod ddylanwadol i bobl a chymunedau yng Nghymru. Fe gafodd effaith ddofn ar y sector gwirfoddol yn genedlaethol a thu hwnt.

Fel Prif Weithredwr CGGC rhwng 1989 a 2014, treuliodd 25 mlynedd yn trawsnewid y dirwedd ar gyfer mudiadau gwirfoddol, yn hyrwyddo cydweithredu, yn cryfhau strwythurau cymorth, ac yn helpu’r sector i dyfu o ran hyder ac effaith.

Trwy sefydlu’r wobr hon, rydym yn gobeithio creu gwaddol parhaol yn enw Graham, gan daflu goleuni ar y rhai sydd, fel ef, wedi ymroi i wella bywydau a chryfhau’r sector gwirfoddol ar gyfer yr hirdymor.

Mae enillydd Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield yn cael ei ddewis gan banel o feirniaid annibynnol ac mae’r categori hwn yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Bower.

GWOBRAU ELUSENNAU CYMRU

Bydd enillwyr gwobrau yn yr wyth categori arall yn cael eu cyhoeddi ar y noson. Darganfyddwch pwy sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Ni fyddai’r gwobrau yn bosibl heb gefnogaeth ein prif noddwr, Y Brifysgol Agored yng Nghymru a phob un o noddwyr caredig y categorïau.

Darllenwch fwy am Wobrau Elusennau Cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 16/10/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Datgelu Enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2026! 

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 01/10/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn ôl ar gyfer 2026!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 15/09/26
Categorïau: Mwyaf poblogaidd, Newyddion

Cyhoeddi teilyngwyr 2026 Gwobrau Elusennau Cymru

Darllen mwy