Bob blwyddyn, mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn rhoi £2,500 i arweinydd yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Canfyddwch pwy fydd yn cipio’r dyfarniad eleni.
Delwedd nodwedd: Salah (chwith canol) gyda chydweithwyr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2023 yng Nghaerdydd.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn helpu arweinwyr yn y sector gwirfoddol i ddatblygu eu sgiliau arwain. Bob blwyddyn mae’r bwrsari yn rhoi grant o £2,500 i rywun mewn swydd arwain o fewn mudiad gwirfoddol yng Nghymru.
Rheolir y bwrsari gan ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru ac ers 2017, mae wedi cyllido:
- Ymweliad astudio â Copenhagen am wersi ar drafnidiaeth gynaliadwy
- Prosiect cyfnewid dysgu am arddio cymunedol ym Montreal
- Meithrin rhwydwaith a rhannu gwybodaeth yn sector y celfyddydau
- Nifer o gyrsiau datblygu arweinyddiaeth, fel y cwrs Arweinwyr Mentrus gydag Academi Mentrau Cymdeithasol Cymru
- Taith arloesol i Hollywood ar gyfer elusen ffilm gynhwysol, TAPE Community Music and Film
Darllenwch fwy am sut mae pobl wedi defnyddio ein bwrsari arweinyddiaeth.
LLONGYFARCHIADAU I’N HENILLWYR AM 2023!
Mae Bwrsari Walter Dickie 2023 wedi’i gyflwyno i Salah Rasool o Gyngor Ffoaduriaid Cymru. Llongyfarchiadau mawr Salah!
Bydd Salah yn defnyddio’r bwrsari i dalu am daith astudio i Ganada, a gynhelir yn fyd-eang fel model arfer da am ei gwaith gyda ffoaduriaid. Yma, bydd yn dysgu’n uniongyrchol am wasanaethau cyflogaeth ffoaduriaid ac am waith sy’n dylanwadu ar bolisïau llywodraethol.
Bydd Salah yn cymhwyso’r hyn y bydd yn ei ddysgu o’i brofiadau yng Nghanada i’w rôl arweinyddiaeth yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru, ond bydd hefyd yn rhannu ei ganfyddiadau gyda phartneriaid yn y sector ffoaduriaid a chyda’r sector gwirfoddol ehangach.
YNGLŶN Â SALAH
Mae Salah yn rhan o dîm uwch-reolwyr Cyngor Ffoaduriaid Cymru ac yn cadeirio Cynghrair Ffoaduriaid Cymru a’r Gymdeithas Cwrdaidd Cymru Gyfan.
Yn ffoadur ei hun, mae Salah yn gwybod bod gan ffoaduriaid gymaint i’w cynnig, ond yn amlach na heb, nid yw’r systemau cymorth cyflogaeth yn y DU yn cynnig y math o gymorth sydd ei angen ar ffoaduriaid. Mae Salah yn bwriadu defnyddio’r bwrsari fel cyfle i ddatblygu dysgu a gwybodaeth am ddulliau arloesol o fynd ati i gyflogi ffoaduriaid.
Bydd Salah yn ymweld â chynlluniau cyflogi ffoaduriaid llwyddiannus yng Nghanada i glywed am arferion da, i siarad â’r rheini sy’n rhedeg y gwasanaethau, ond hefyd i siarad â’r ffoaduriaid sydd wedi derbyn cymorth. Mae Salah yn argyhoeddedig ei bod hi’n allweddol bod lleisiau’r rheini â phrofiad o fod yn ffoaduriaid yn ganolog i unrhyw ddulliau gweithredu a gaiff eu datblygu.
Dywedodd Salah:
‘Rwyf wrth fy modd i dderbyn y dyfarniad hwn ac rwy’n gyffrous dros ben i gael y cyfle gwych hwn i wella fy ngwybodaeth a’m mhrofiad ar lefel fyd-eang a, gobeithio, rhannu hyn wedyn yng Nghymru. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd o fudd i gyfleoedd cyflogi ffoaduriaid yng Nghymru yn y dyfodol.’
RHAGOR O WYBODAETH AM Y BWRSARI
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ewch i’n tudalen ar Fwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie.