Mae’n bleser gennym ddatgelu mai Cindy Chen, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu ProMo Cymru yw enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie eleni.
Dyfernir Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn flynyddol i rywun mewn rôl arweinyddiaeth o fewn mudiad gwirfoddol yng Nghymru. Mae’r dyfarniad blynyddol yn cyflwyno £2,500 i gynorthwyo unigolyn yng Nghymru i ddod yn arweinydd gwell.
EIN HENILLYDD AM 2024
Mae enillydd bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2024 wedi’i gyhoeddi, llongyfarchiadau gwresog i Cindy Chen o ProMo Cymru am gael ei dewis fel ein harweinydd am eleni. Llongyfarchiadau Cindy!
Mae Cindy, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu ProMo Cymru yn bwriadu defnyddio’r bwrsari i dalu am daith astudio i Singapore i gwrdd ag asiantaethau cenedlaethol a siarad â gweithwyr proffesiynol er mwyn canfod sut maen nhw’n defnyddio technoleg i weithio gyda phobl ifanc.
Trwy ymweld â Singapore, mae Cindy yn gobeithio ateb rhai cwestiynau pwysig, fel ‘sut mae Singapore yn wahanol? Beth mae Singapore yn ei wneud y gallai gwledydd fel Cymru ddysgu ohono? A oes unrhyw debygrwydd rhwng ein teithiau a’n profiadau?’.
ENILLWYR BLAENOROL
Caiff ein bwrsari ei reoli gan ein tîm, Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru ac ers 2017 mae wedi cyllido:
- Ymweliad astudio i Copenhagen i gael gwersi ar drafnidiaeth gynaliadwy
- Cyfnewidfa ddysgu am arddio cymunedol ym Montreal
- Adeiladu rhwydwaith a rhannu gwybodaeth yn y sector celfyddydau
- Nifer o gyrsiau datblygu arweinyddiaeth fel y cwrs Arweinwyr Mentrus gan Social Enterprise Academy Cymru
- Taith drawsnewidiol i Hollywood ar gyfer elusen ffilm gynhwysol, TAPE Cerdd a Ffilm Gymunedol
- Taith astudio i Ganada i ddysgu o lygad y ffynnon am wasanaethau cyflogi ffoaduriaid ar gyfer Cyngor Ffoaduriaid Cymru
MWY AM CINDY
Mae Cindy yn uwch arweinydd ac yn rheolwr prosiect profiadol yn ProMo Cymru, mudiad sy’n ceisio cyfathrebu, dylunio ac adeiladu gyda phobl ifanc a chymunedau i gyflawni newid. Mae Cindy yn arwain tîm o 12 aelod staff, sy’n datblygu ac yn darparu prosiectau a gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ieuenctid.
Yn ystod ei hamser yn Singapore, mae Cindy yn bwriadu trefnu cyfarfodydd â’r Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol, People’s Association Youth Movement, Clwb Ieuenctid SINDA a MAJU Singapore. Mae Cindy eisiau dysgu am eu mentrau ac edrych ar y rhesymau pam mai Singapore sydd ar flaen y gad o blith 183 o wledydd o ran datblygu ac ymgysylltu ag ieuenctid ym Mynegeion Datblygu Ieuenctid y Gymanwlad.
RHAGOR O WYBODAETH
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ewch i’n tudalen, Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie.