Rheolwr Cynhwysiant Digidol ac Arloesedd yn Innovate Trust, Ashley Bale a menyw yn edrych ar rywbeth ar sgrin gyfrifiadur ac yn gwenu

Cyhoeddi enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2025

Cyhoeddwyd : 10/12/25 | Categorïau: Newyddion |

Rheolwr Cynhwysiant ac Arloesedd Digidol Innovate Trust, Ashley Bale, yw enillydd y bwrsari arweinyddiaeth eleni.

Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn helpu arweinwyr yn y sector gwirfoddol i ddatblygu eu sgiliau arwain. Bob blwyddyn, mae’r bwrsari yn rhoi grant o £2,500 i rywun mewn rôl arwain o fewn mudiad gwirfoddol yng Nghymru.

ENILLYDD 2025

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Ashley Bale o Innovate Trust yw’r arweinydd dewisol am eleni. Llongyfarchiadau mawr, Ashley!

Dywedodd Ashley wrthym ni: ‘Mae bod yn arweinydd entrepreneuraidd yn golygu cael y weledigaeth i weld posibiliadau pan fo rhwystrau, ynghyd â’r penderfyniad i droi’r posibiliadau hynny’n realiti i’r bobl sydd eu hangen nhw fwyaf ar draws cymdeithas.

‘Yn ystod fy un ar bymtheg mlynedd yn Innovate Trust, rwyf wedi dysgu nad yw arweinyddiaeth entrepreneuraidd yn y trydydd sector yn ymwneud â chost; mae’n ymwneud â chreu effaith gynaliadwy o ansawdd sy’n trawsnewid bywydau’.

Gydag hyn mewn golwg, mae Ashley yn bwriadu defnyddio’r bwrsari i gyllido ymweliad astudio i’r Iseldiroedd, gwlad sy’n dod i’r amlwg fel arweinydd mewn gweithredu polisïau a thechnoleg tai clyfar hygyrch. Maen nhw wedi paratoi’r ffordd ar gyfer dulliau gweithredu technoleg cartrefi clyfar sy’n blaenoriaethu annibyniaeth i bobl anabl, gan barhau i fod yn gost-effeithiol a chyda’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion.

ENILLWYR BLAENOROL

Rheolir y bwrsari gan ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru ac ers 2017, mae wedi cyllido:

  • Ymweliad astudio i Copenhagen i gael gwersi ar drafnidiaeth gynaliadwy
  • Cyfnewidfa dysgu am arddio cymunedol ym Montreal
  • Adeiladu rhwydweithiau a rhannu gwybodaeth yn y sector celfyddydau
  • Nifer o gyrsiau datblygu arweinyddiaeth fel y cwrs Arweinwyr Arloesol gyda Social Enterprise Academy Cymru
  • Taith drawsnewidiol i Hollywood i’r elusen ffilm gynhwysol, TAPE: Cerdd a Ffilm Cymunedol
  • Taith astudio i Ganada i Cyngor Ffoaduriaid Cymru i ddysgu’n uniongyrchol am wasanaethau cyflogi ffoaduriaid
  • Taith addysgol i Singapore, i gwrdd ag asiantaethau cenedlaethol a siarad â gweithwyr proffesiynol i ganfod sut maen nhw’n defnyddio technoleg i weithio gyda phobl ifanc

YNGLŶN AG ASHLEY

Ar ôl un ar bymtheg mlynedd yn Innovate Trust, Ashley yw’r Rheolwr Cynhwysiant ac Arloesedd Digidol bellach. Dechreuodd ar ei daith yn 2008 fel Gweithiwr Cymorth, yn gweithio’n uniongyrchol ag oedolion ag anableddau.

Ar ôl gweld bwlch yn ei fudiad am ddarparu dysgu hygyrch digidol, gwirfoddolodd i ddatblygu System Rheoli Dysgu (LMS) sy’n parhau hyd heddiw yn hyfforddi gweithlu o fwy na 900 o gydweithwyr.

Gan adeiladu ar y sylfaen hon, parhaodd Ashley i ddatblygu ei sgiliau a datblygu cartref clyfar byw â chymorth cyntaf y DU i oedolion ag anableddau gan ddefnyddio technoleg prif ffrwd.

Eglurodd Ashley: ‘Bydd yr ymweliad yn rhoi Innovate Trust a sector gwirfoddol ehangach Cymru mewn sefyllfa i arwain arloesedd mewn tai clyfar. Trwy gofnodi a rhannu’r canfyddiadau drwy adroddiadau, gweithdai a chydweithrediadau academaidd, rwy’n gobeithio dylanwadu ar bolisïau tai, blaenoriaethau cyllido a safonau dylunio ledled Cymru’.

RHAGOR O WYBODAETH

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ewch i’n tudalen, Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 16/01/26
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

gofod3 – archebwch eich gofod arddangos a digwyddiad

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/12/25
Categorïau: Newyddion

Dathlu effaith partneriaethau Cymru ac Affrica

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/12/25
Categorïau: Newyddion

Gwneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd

Darllen mwy