Llywydd CGGC, Michael Sheen ar lwyfan Gwobrau Elusennau Cymru 2024

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2024!

Cyhoeddwyd : 26/11/24 | Categorïau: Newyddion |

Cawsom fwy nag erioed o enwebiadau ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru, dewch i weld pwy sydd wedi ennill y flwyddyn hon.

Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan CGGC, yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad ffantastig y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.

Yn y seremoni wobrwyo ar 25 Tachwedd 2024 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gwnaethom ddathlu’r holl deilyngwyr gwych a chyhoeddi enillwyr eleni. Llywyddwyd y seremoni gan y newyddiadurwr a chyflwynwyd BBC, Jennifer Jones, a gwnaeth yr actor Michael Sheen, Llywydd CGGC, hefyd fynychu’r noson ac annerch y teilynwyr.

Daliwch ati i ddarllen i ddarganfod pwy yw enillwyr ac eilyddion Gwobrau Elusennau Cymru 2024.

ENILLWYR AC EILYDDION 2024

Gwirfoddolwr y flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed a hŷn) – noddwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Enillydd: Carmen Soraya Kelly

Gwirfoddolwr y flwyddyn - Carmen Soraya Kelly

Mae Carmen Soraya Kelly (a elwir yn Soraya gan ei ffrindiau) wedi ymroi ei hun i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd difreintiedig, gan ddarparu adnoddau hanfodol a rhaglenni trawsnewidiol fel Unite4Youth, sy’n cynnig cyfnodau mentora a lleoliadau gwaith â thâl sy’n aml yn arwain at gyflogaeth barhaol.

Mae ei heiriolaeth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’w helusen; mae’n llunio rhaglenni, yn hybu cyfiawnder cymdeithasol ac yn sicrhau mynediad at adnoddau gofal iechyd, sy’n ei gwneud hi’n rym pwerus dros newid positif yn ei chymuned.

Trwy ei hymroddiad, mae Soraya nid yn unig yn diwallu anghenion uniongyrchol amrywiaeth o bobl, ond mae hefyd yn rhoi sylw i anghydraddoldebau systemig drwy weithio gyda gwleidyddion, cynghorau a mudiadau iechyd.

Eilyddion:

  • Hazel Lim
  • Matthew Steele

Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu’n iau) – noddwyd gan *Hugh James

Enillydd: Molly Fenton

Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn - Molly Fenton

Mae Molly Fenton, sylfaenydd ‘Love Your Period’ yn wirfoddolwr ac yn eiriolwr brwd dros iechyd mislif a grymuso ieuenctid yng Nghymru. Mae Molly yn gweithio’n ddiflin i chwalu stigmâu, dosbarthu cynhyrchion mislif ac i wneud lleisiau ieuenctid yn uwch mewn trafodaethau polisi.

Serch ei heriau iechyd ei hun, mae cydweithrediadau ac ymgysylltiadau cyhoeddus effeithiol Molly yn ysbrydoli pobl ifanc i fynd ati’n weithredol i lunio dyfodol gwell, i’w hunain a phobl eraill.

Mae ei mewnwelediadau gonest, ac yn aml digrif, yn ei gwneud hi’n esiampl ysbrydoledig y gall pobl ifanc uniaethu â hi. Mae Molly yn arweinydd gwirfoddol ifanc hynod sydd wedi dangos, yn effeithiol iawn, bwysigrwydd sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn sgyrsiau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Eilyddion:

  • Tyler Agyapong
  • Reece Moss Owen

Codwr arian y flwyddyn – noddwyd ar y cyd gan *Zurich Municipal a *Thomas Carroll

Enillydd: Diabetes UK Cymru, ymgyrch ‘Ailysgrifennu Stori Peter’

Codwr arian y flwyddyn - Diabetes UK Cymru

Mae gwaith codi arian a chefnogi Beth gyda *Diabetes UK Cymru, er cof am ei mab Peter, wedi codi dros £100,000 ac wedi gyrru newidiadau systemig mewn diagnosio Diabetes Math 1 ledled Cymru.

Gwnaeth ei hymgyrch, ‘Ailysgrifennu Stori Peter’ roi adnoddau hanfodol i bob practis meddyg teulu, gan achub bywydau a sefydlu llwybrau cynaliadwy i ganfod y clefyd yn gyflym.

Trwy ymgyrchu dyfal Beth, mae wedi gadael etifeddiaeth gynaliadwy ac yn parhau i newid polisïau ac arferion i achub bywydau yng Nghymru.

Eilyddion:

  • Tîm Grantiau Mudiad Meithrin
  • Milford Youth Matters
  • Gofal Canser Tenovus: Tîm Digwyddiadau Herio

Hyrwyddwr amrywiaeth – noddwyd ar y cyd gan *AP Cymru ac *Asesiadau Awtistiaeth De Cymru

Enillydd: Mudiad Meithrin

Hyrwyddwr amrywiaeth - Mudiad Meithrin

Mae Mudiad Meithrin wedi hyrwyddo cydraddoldeb a gwrth-hiliaeth mewn gwasanaethau plentyndod cynnar cyfrwng Cymraeg drwy fentrau amrywiol, er enghraifft, darparu hyfforddiant proffesiynol, adnoddau diwylliannol amrywiol a rhaglenni mentora ar gyfer awduron Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.

Mae eu hymdrechion yn cynnwys strategaeth gynhwysfawr i ymwreiddio cynhwysiant, creu pecynnau cymorth gwrth-hiliaeth a chynyddu amrywiaeth y gweithlu, gan eu gwneud nhw’n arweinwyr mewn hybu tegwch ac ymdeimlad o berthyn yng Nghymru.

Gwnaeth prosiectau fel y rhaglen ‘Dwylo’n Dweud’ gyflwyno’r iaith arwyddion i blant ifanc, a gwnaeth adnoddau fel ‘Cymru Ni’ amlygu cyfraniadau pobl dduon yng Nghymru.

Eilyddion:

  • Cyngor Ffoaduriaid Cymru
  • Cwmni Buddiannau Cymunedol Be.Xcellence

Defnydd o’r Gymraeg – noddwyd gan Mentrau Iaith

Enillydd: Y Bartneriaeth Awyr Agored

Defnydd o’r Gymraeg - Y Bartneriaeth Awyr Agored

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn elusen ddwyieithog sy’n grymuso cymunedau Cymraeg eu hiaith i ymhél â gweithgareddau awyr agored drwy fentrau fel Bant â Ni a chlybiau yn y gymuned, sydd wedi tyfu o 15 i fwy na 150 ers 2005.

Gyda Chynllun Iaith Gymraeg sydd wedi’i ardystio gan Gomisiynydd y Gymraeg, mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn blaenoriaethu’r Gymraeg ym mhob cyfathrebiad, yn datblygu adnoddau Cymraeg hanfodol ac wedi cynyddu nifer yr hyfforddwyr sy’n siarad Cymraeg yn y sector o 4% i 25%, gan drawsnewid barn pobl yn llwyr ar weithgareddau awyr agored ym mywyd diwylliannol Cymru.

Eilyddion:

  • SPAN Arts
  • Gwasanaeth Ysgolion Cymru NSPCC

Mudiad bach mwyaf dylanwadol – noddwyd gan *Sefydliad Lloyds Bank ar gyfer Cymru a Lloegr

Enillydd: Triniaeth Deg i Fenywod Cymru

Mudiad bach mwyaf dylanwadol - Triniaeth Deg i Fenywod Cymru

Mae Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) wedi gwneud camau breision i ddadlau dros ofal iechyd gwell i fenywod, gan chwarae rôl allweddol mewn datblygu’r Cynllun Iechyd Menywod i ddod ar gyfer Cymru a grymuso unigolion â phrofiad bywyd i rannu eu storïau a dylanwadu ar bolisi ac ymarfer.

Mae eu hymrwymiad diysgog i sicrhau gofal iechyd teg i fenywod wedi meithrin cymuned gefnogol ac arwain at welliannau gwirioneddol mewn polisïau, gwasanaethau a phrofiadau gofal iechyd unigol ledled Cymru.

Eilyddion:

  • Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin
  • Mentro i Freuddwydio

Iechyd a lles – noddwyd gan *Leaderful Action

Enillydd: St Giles Cymru – Prosiect ‘Aspiring Champions’

Iechyd a lles - St Giles Cymru – Prosiect ‘Aspiring Champions’

Mae Prosiect ‘Aspiring Champions’ St Giles Cymru yn cefnogi mamau ifanc (14 i 24 oed) sy’n agored i niwed a’u teuluoedd yn y Rhyl. Maen nhw’n brwydro yn erbyn risgiau cam-fanteisio – gan gynnwys bod yn gysylltiedig â gangiau a throseddau – drwy rymuso, mentora a datblygu sgiliau.

Trwy ddefnyddio model profiad bywyd, a arweinir gan Stacey, gweithiwr cymorth anhygoel sydd wedi goresgyn eu heriau ei hun, mae’r fenter hon wedi trawsnewid bywydau 32 o deuluoedd, gan eu helpu i dorri’r gylchred o dlodi, caethiwed a chamdriniaeth.

Yn y pen draw, mae’r rhaglen yn meithrin gwydnwch cymunedol ac yn creu rhwydwaith cefnogol lle mae’r cyfranogwyr yn dysgu i lywio trwy’r heriau gyda’i gilydd.

Eilyddion:

  • Megan’s Starr Foundation
  • Sporting Memories Wales

Mudiad y flwyddyn – noddwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Enillydd: FareShare Cymru

Mudiad y flwyddyn - Fareshare Cymru

Mae FareShare Cymru yn troi problem amgylcheddol yn ddatrysiad cymdeithasol drwy ailddosbarthu bwyd sydd dros ben i fwy na 260 o grwpiau cymunedol, darparu mwy na 2.1 miliwn o brydau bwyd ar gyfer 28,295 o bobl bob wythnos ac arbed oddeutu £2.6 miliwn i’r sector gwirfoddol.

Trwy raglenni arloesol, partneriaethau cryf ac ymrwymiad i gynhwysiant a chynaliadwyedd, maen nhw’n grymuso cymunedau ac yn gwella lles pobl ar hyd a lled Cymru.

Mae eu hymroddiad, hyblygrwydd a’u datrysiadau arloesol wedi cael effaith ddofn ar gymunedau ledled Cymru, gan wella iechyd, lleihau gwastraff a grymuso mudiadau lleol i gryfhau eu gwasanaethau.

Eilyddion:

  • Cwmni Buddiannau Cymunedol Prosiect Newid y Gêm
  • Tempo Time Credits
  • Area 43
  • Aren Cymru

DIOLCH

Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i bawb a gymerodd ran yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni. Mae’r gwaith y mae gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol yn ei wneud yn anhygoel ac mae dathlu’r gwaith hwn yn fraint o’r mwyaf.

Llongyfarchiadau i’n holl enwebeion, teilyngwyr ac enillwyr.

Rydym yn edrych ymlaen at seremoni’r flwyddyn nesaf yn barod!

*Gwefannau Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Integreiddio cynaliadwyedd yn eich cynllun busnes chi!

Darllen mwy