Cyhoeddi derbynyddion cyllid cylch cyntaf cronfa lifogydd Michael Sheen

Cyhoeddwyd : 16/03/20 | Categorïau: Cyllid |

Mae’r cyllid torfol yn cael ei ddosbarthu i fudiadau sy’n cynorthwyo’r cymunedau a effeithiwyd y fwyaf gan y llifogydd diweddar.

Heddiw, rydym yn cyhoeddi derbynyddion cyllid cylch cyntaf Y Gronfa Helpu Cymru ar ôl Storm Dennis – arian a godwyd gan Michael Sheen i helpu mudiadau gwirfoddol yng Nghymru sy’n ceisio helpu’r rheini a effeithiwyd gan y llifogydd diweddar.

Cafodd y GoFundMe ei ddechrau er mwyn ategu ymdrechion codi arian eraill i gynorthwyo unigolion a busnesau’n uniongyrchol drwy gefnogi’r elusennau, y mentrau cymdeithasol a’r grwpiau cymunedol sy’n helpu pobl yn yr ardaloedd a effeithiwyd.

‘Rwy’n gweld pobl ar y rheng flaen yn gwneud popeth y gallant i gynorthwyo’r teuluoedd hynny sydd wedi gweld eu bywydau’n troi’n llanast llwyr yn y diwrnodau diwethaf,’ meddai Michael Sheen, Llywydd anrhydeddus CGGC.

‘Er mwyn parhau â’r gwaith hanfodol hwn, mae’r grwpiau a’r mudiadau sy’n helpu pobl Cymru angen eich cymorth ar frys.’

Gwnaeth y gronfa godi £50,000 drwy gyfraniadau’r cyhoedd mewn llai na phedwar diwrnod, ac mae dros £80,000 yn y gronfa ar hyn o bryd.

Bydd y cylch cyntaf yn dosbarthu £31,813.80 o’r cyllid i grwpiau a mudiadau sy’n cymryd camau i helpu’r unigolion mewn mwyaf o angen.

Mae’r arian wedi’i ddyrannu yn ôl y brys a’r gallu i helpu pobl i chwilio’u traed eto ar ôl dinistr y llifogydd.

Canolfan Gymunedol Trefforest

Mae Canolfan Gymunedol Trefforest wedi bod ar agor fel canolfan rhyddhad llifogydd ers 16 Chwefror, ac mae’n helpu oddeutu 54 o gartrefi a effeithiwyd gan y llifogydd yn yr ardal.

‘Bydd y grant hwn yn ein cynorthwyo ni i gynnig cymorth ar lawr gwlad i’r bobl rydym eisoes wedi bod mewn cysylltiad â nhw,’ meddai Aimee, gweithiwr yn y ganolfan gymunedol.

‘Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i ddarparu eitemau fel nwyddau gwynion, o oergelloedd bach sy’n costio oddeutu £100, peiriannau golchi £160, sychwyr dillad £120 i’r rheini sydd angen microdon ac ati am £45.

‘Ein nod yw siarad â’r rheini a effeithiwyd yn uniongyrchol a gweld beth sydd ei angen.’

Too Good to Waste

Elusen ail-ddefnyddio yn Rhondda Cynon Taf yw Toogoodtowaste.

Maen nhw’n casglu dodrefn, eitemau trydanol ac eitemau tŷ a roddir iddynt gan aelodau o’r cyhoedd, ac ar ôl sicrhau ansawdd yr eitemau, eu trin a thrwsio a’u glanhau, maen nhw’n eu pasio’n ôl i drigolion.

Ers i Storm Dennis daro, maen nhw wedi helpu dros 60 o deuluoedd a gafodd eu bywydau wedi’u dinistrio gan y llifogydd gyda phecynnau o ddodrefn, eitemau trydanol ac eitemau i’r tŷ am ddim.

Mae hyn wedi golygu y gall pobl ddechrau ailadeiladu eu bywydau ar ôl colli’r rhan fwyaf o’u heiddo, pan nad oedd gan lawer ohonynt yswiriant neu’r yswiriant cywir. Bydd y cyllid hwn yn eu galluogi i barhau â’r gwasanaeth hanfodol hwn.

Canolfan Gymunedol Trallwn

Cafodd Trallwn ei heffeithio’n ofnadwy gan y llifogydd ac roedd yn un o’r ardaloedd a gafodd lawer o sylw yn y cyfryngau cenedlaethol. Mae Canolfan Gymunedol Trallwn wedi bod wrth wraidd yr ymdrech rhyddhau llifogydd.

Maen nhw’n angor gymunedol yn yr ardal, ac wedi meithrin cydberthnasau cryf â thrigolion, felly maen nhw mewn sefyllfa dda i wybod pwy fyddai’n elwa ar yr arian hwn.

‘Bydd y rhan fwyaf o’r cyllid y bydd y ganolfan yn ei gael yn cael ei wario ar gynorthwyo’r rheini heb yswiriant,’ meddai Kate Fullstone.

‘Nid oedd llawer o’r trigolion yn gallu fforddio yswiriant oherwydd llifogydd blaenorol, yn enwedig ar Stryd Sion a Heol Berw. Mae eraill wedi canfod nad yw eu hyswiriant yn cynnwys difrod llifogydd.

‘Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd amrywiol, fel rhentu dadleithyddion, prynu nwyddau gwynion ac eitemau cyffredinol i’r tŷ. Gwnaeth llawer o’n trigolion golli eitemau fel esgidiau a chotiau hefyd.’

‘Diolch i’r gronfa lifogydd, rydyn ni mewn sefyllfa nawr i wneud gwahaniaeth go iawn.’

Os ydych chi’n fudiad gwirfoddol sy’n cefnogi’r rheini a effeithiwyd gan y stormydd diweddar, gallech fod yn gymwys i gael cyllid gan gronfa Helpu Cymru ar ôl Storm Dennis. Ewch i’r wefan i gael gwybodaeth am sut i wneud cais.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/09/24 | Categorïau: Cyllid |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy