Rhes o bobl yn eistedd mewn seddi at gyfarfod pwysig

Cyhoeddi cadeirydd newydd y Cod Llywodraethu i Elusennau

Cyhoeddwyd : 31/01/22 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae Radojka Miljevic wedi’i chyhoeddi fel cadeirydd annibynnol newydd grŵp llywio’r Cod Llywodraethu i Elusennau.

Mae’r grŵp yn gydweithrediad traws-sector gwirfoddol, a’i ddiben yw adolygu, datblygu, hyrwyddo a chynnal y Cod Llywodraethu i Elusennau. Bydd Radojka yn cymryd lle Rosie Chapman yn y swydd wirfoddol hon ym mis Chwefror, sydd wedi bod yn gadeirydd y grŵp ers y chwe blynedd ddiwethaf.

Daw’r penodiad ar ôl proses recriwtio lem a thryloyw, a wnaed yn bosibl drwy gyllid gan Barrow Cadbury Trust a The Clothworkers’ Company. Penodwyd yr asiantaeth recriwtio weithredol Green Park er mwyn sicrhau proses ddethol gadarn, gynhwysol a hygyrch. Roedd y cam olaf yn cynnwys cyflwyniadau i banel o randdeiliaid a chyfweliad a oedd yn cynnwys grŵp y Cod ac aelodau annibynnol.

Daw Radojka â chyfoeth o brofiad i’r rôl. Mae wedi gwasanaethu ar wahanol fathau o fyrddau ac mae ganddi flynyddoedd maith o brofiad o lywodraethu, rheoli ac ymchwilio ar draws sectorau amrywiol. Mae’n bartner yng nghwmni ymgynghori Campbell Tickell ar hyn o bryd, yn arwain eu gwaith llywodraethu a strategaeth.

Wrth roi sylwadau, dywedodd Radojka Miljevic: ‘Rwyf wrth fy modd i gael y cyfle i gynorthwyo’r sector gwirfoddol drwy’r Cod Llywodraethu i Elusennau. Mae gennym ni lawer o waith pwysig i’w wneud i gael mwy o bobl i ymgysylltu â’r Cod a’i gefnogi, yn enwedig ymhlith elusennau bach. Rhaid i ni hefyd sicrhau perthnasedd parhaus y Cod drwy ei adolygu’n rheolaidd, datblygu’r egwyddor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach ac amlygu rôl elusennau mewn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Rwy’n ffodus fy mod yn gallu adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni gan gydweithwyr y grŵp llywio a’r cadeirydd sydd ar fin gadael.

‘Mae elusennau yn mynd i’r afael â rhai o heriau mawr ein hoes. Maen nhw hefyd yn ein cysylltu ni â’r posibiliadau i fywyd fod yn well a’r rhan y gall pob un ohonon ni ei chwarae yn hynny o beth. Caf fy ysgogi gan elusennau sy’n bod mor effeithiol ag y gallant fod, y rheini sy’n cael yr effaith fwyaf posibl ac sy’n denu amrediad amrywiol a medrus iawn o ymddiriedolwyr, aelodau pwyllgor, gwirfoddolwyr eraill a staff. Mae mabwysiadu’r Cod yn ffordd glir i elusennau ddangos eu hymrwymiad i gael eu llywodraethu’n dda ac i fyw yn ôl yr egwyddorion moesol a’r diwylliannau cynhwysol a ddisgwylir ganddynt.’

Mae Rosie Chapman, cadeirydd y grŵp llywio sydd ar fin gadael, wedi bod yn y swydd am chwe blynedd. Yn ystod yr amser hwn, mae wedi gweithio gyda grŵp y Cod ac eraill i oruchwylio dwy fersiwn newydd o’r Cod, yn 2017 a 2020. Roedd hyn yn cynnwys ail-lunio egwyddorion y cod yn sylweddol a chynnwys yr egwyddor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant am y tro cyntaf.

Nododd Rosie Chapman: ‘Rwyf wrth fy modd fod y grŵp llywio, ar ôl proses recriwtio agored a thryloyw, wedi gwneud y penodiad hwn. Bydd Radojka yn dod â syniadau ffres a newydd i’r rôl ac rwy’n gwybod, wrth i’m cyfnod i ddod i ben, y bydd ei brwdfrydedd am lywodraethu da yn hybu’r Cod ac yn mynd ag ef i’r lefel nesaf.’

Croesawodd aelodau grŵp llywio’r Cod Llywodraethu i Elusennau benodiad Radojka.

Dywedodd Jenny Berry, Arweinydd Argyfwng a Llywodraethu ACEVO: ‘Mae’r Cod yn offeryn mor bwysig i arweinwyr elusennau o ran rhoi ffocws iddynt a’u cynorthwyo i lywodraethu’n effeithiol, ac mae wedi datblygu’n fawr o dan arweinyddiaeth Rosie. Gyda Radojka, ein cadeirydd newydd yn ei lle, rwy’n edrych ymlaen at ymgysylltiad cryf a mwy o elusennau yn mabwysiadu’r Cod.’

Nododd Rosalind Oakley, Prif Weithredwr Cymdeithas y Cadeiryddion: ‘Rydyn ni’n falch o groesawu Radojka fel Cadeirydd annibynnol newydd y Cod Llywodraethu i Elusennau. Bydd ei harweiniad hi yn ein helpu ni i gynyddu effaith y Cod o ran annog llywodraethu da.’

Dywedodd Louise Thomson, Pennaeth Polisi (NFP) yn y Sefydliad Llywodraethu Siartredig (CGI): ‘Rydyn ni’n croesawu penodiad Radojka ac yn cydnabod y cyfraniad aruthrol sydd wedi’i gwneud gan y cadeirydd sydd ar fin gadael, Rosie Chapman. Bydd sgiliau a phrofiad Radojka yn dyngedfennol wrth i ni gynnal adolygiad llawn o aelodaeth y grŵp a’r Cod. Wrth i lywodraethu elusennau barhau i ddatblygu, bydd rôl Radojka yn rhan annatod o’r gwaith o fonitro’r Cod, gan sicrhau ei fod yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r sector.’

Nododd Dan Francis, Ymgynghorydd Llywodraethu Arweiniol NCVO: ‘Rydyn ni’n llawn cyffro i weithio gyda Radojka. Bydd ei brwdfrydedd am y rôl, dyfnder yr arbenigedd llywodraethu a’i gwerthfawrogiad o’r heriau sy’n wynebu pob elusen, yn sicrhau y bydd y Cod Llywodraethu i Elusennau yn parhau i ddatblygu, gan barhau i fod yn berthnasol ac yn ymarferol. Hoffem hefyd ddiolch i Rosie am ei holl ymdrech yn ystod y chwe blynedd diwethaf, sydd wedi arwain at God mwy cadarn ac uchel ei barch.’

Dywedodd Mair Rigby, Rheolwr Llywodraethu a Diogelu CGGC: ‘Mae CGGC wrth ei fodd i groesawu penodiad Radojka fel cadeirydd newydd grŵp llywio’r Cod Llywodraethu i Elusennau. Fel aelod o’r grŵp, rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Radojka i hybu’r defnydd o’r Cod ymhlith elusennau yng Nghymru.’

YNGLŶN Â’R COD LLYWODRAETHU I ELUSENNAU

Mae llywodraethu da mewn elusennau yn hanfodol i’w llwyddiant. Mae elusen yn y sefyllfa orau i gyflawni ei huchelgeisiau a’i nodau os oes ganddi llywodraethiant effeithiol a’r strwythurau arwain cywir. Nod Y Cod Llywodraethu i Elusennau yw helpu elusennau a’u hymddiriedolwyr i ddatblygu safonau llywodraethu uchel. Mae’r Cod yn offeryn ymarferol i helpu ymddiriedolwyr i gyflawni hyn.

Bwriedir i’r Cod gael ei ddefnyddio gan elusennau sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru a Lloegr. Nid yw’n ofyniad cyfreithiol na rheoleiddiol. Mae’n cyfeirio at, ond yn sylfaenol wahanol i ganllawiau’r Comisiwn Elusennau. Yn hytrach, mae’r Cod yn gosod yr egwyddorion a’r arferion a argymhellir ar gyfer llywodraethu da ac yn mynd ati’n fwriadol i fod yn uchelgeisiol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 25/04/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwirfoddolwyr mewn gwasanaethau iechyd meddwl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/04/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Gwerth economaidd eich mudiad mewn wasanaethau iechyd a gofal

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 24/04/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Nifer y mudiadau sy’n cau yn y sector gwirfoddol ar gynnydd

Darllen mwy