Mae’n rhaid i fudiadau sy’n cyflwyno prosiectau a gyllidir gan Ewrop gadw cofnodion prosiect digonol a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ac archwilwyr yn ôl y gofyn. Gan fod y rhaglenni Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn dod i ben yng Nghymru, rydyn ni wedi casglu’r holl ddyddiadau a gwybodaeth allweddol sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch cyfnodau cadw dogfennau ar draws y tair rhaglen gyllido ers 2000.
Mae’r ddwy raglen flaenorol wedi’u cau a’r dyddiadau dinistrio dogfennau wedi’u cynnwys yn y tablau isod.
RHAGLENNI CRONFEYDD STRWYTHUROL EWROPEAIDD A MENTRAU CYMUNEDOL 2000-2006
Rhaglenni a Mentrau Cymunedol a gefnogwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) | Cofnod Cadw Dogfennau |
URBAN II | 25 Chwefror 2014 |
INTERREG IIIA | 7 Ebrill 2016 |
Amcan 2 & Amcan 2 Trosiannol | 10 Rhagfyr 2016 |
Amcan 1 | 30 Ebrill 2017 |
Rhaglenni a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) | Cofnod Cadw Dogfennau |
Amcan 1 | 2 Mehefin 2017 |
Amcan 3 | 9 Hydref 2017 |
Rhaglen a gefnogir gan yr Offerynnau Ariannol ar gyfer Cyfarwyddo Pysgodfeydd (FIFG) | Cofnod Cadw Dogfennau |
Amcan 1 | 1 Gorffennaf 2017 |
Rhaglenni a Mentrau Cymunedol a gefnogwyd gan Cronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) | Cofnod Cadw Dogfennau |
LEADER+ | 18 Tachwedd 2014 |
Amcan 1 | 30 Medi 2017 |
RHAGLENNI CRONFEYDD STRWYTHUROL EWROPEAIDD 2007-2013
Rhaglen | Cofnod Cadw Dogfennau |
Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) Dwyrain Cymru Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol | 21 Awst 2022 |
Cystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol ESF Dwyrain Cymru | 2 Ebrill 2023 |
Cydgyfeirio ESF Gorllewin Cymru a’r Cymoedd | 3 Mehefin 2023 |
Cydgyfeirio ERDF Gorllewin Cymru a’r Cymoedd | 24 Medi 2024 |
RHAGLENNI CRONFEYDD STRWYTHUROL 2014-2020
Yn wahanol i raglenni blaenorol, nid yw’r cyfnodau cadw yn gysylltiedig â’r broses cau rhaglen mwyach, sy’n golygu y bydd cyfnodau cadw’n lleihau i rhwng 5 a 10 mlynedd ar gyfartaledd o’r dyddiad y mae’r prosiect hwnnw’n datgan gwariant i WEFO neu, os yw’n berthnasol, i Gorff Cyfryngol (fel CGGC, i’r mudiadau hynny sy’n derbyn cyllid o’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol neu’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol). Golyga hyn bod angen cadw dogfennau tan o leiaf 2027, ond fel y mae canllawiau WEFO yn nodi, mae’n rhaid i fuddiolwyr gadw pob dogfen oni chynghorir yn wahanol gan WEFO.
Os ydych chi’n cyflenwi prosiect gan Gronfa Strwythurol yr UE ar hyn o bryd, cyfeiriwch at ganllaw arferion gorau WEFO am ragor o fanylion ar baratoi ar gyfer cau prosiect.
Mae 3-SET hefyd wedi cynhyrchu modiwl cau prosiect ar-lein sydd ar gael am ddim ar yr Hwb Gwybodaeth.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y cyfnodau cadw dogfennau neu am gau prosiect, cysylltwch â 3-SET ar 3set@wcva.cymru.