Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod y cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru (WEDSA) 2025 ar agor nawr.
Mae’r gwobrau yn cydnabod a dathlu cyfraniadau anhygoel unigolion a chymunedau ethnig amrywiol mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol ledled Cymru.
BETH YW WEDSA?
Mae WEDSA yn taflu goleuni ar athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a mudiadau sy’n gwneud effaith bositif drwy chwaraeon. Boed hynny drwy chwalu rhwystrau, gyrru cynhwysiant neu ysbrydoli pobl eraill, mae’r ysgogwyr newid hyn yn haeddu cael eu gweld, eu clywed a’u canmol.
ENWEBWCH RYWUN ANHYGOEL
Ydych chi’n gwybod am unigolyn neu grŵp sy’n chwalu’r rhwystrau, yn gwneud gwahaniaeth neu’n ysbrydoli pobl eraill drwy chwaraeon? Rydyn ni eisiau clywed eu stori, felly gallwch eu henwebu yma. Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw 31 Gorffennaf 2025.
Dyma gategorïau eleni:
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn
- Mabolgampwraig y Flwyddyn
- Mabolgampwr y Flwyddyn
- Clwb y Flwyddyn
- Prosiect Chwaraeon Cymunedol y Flwyddyn
- Person Ifanc y Flwyddyn
- Gwobr Chwaraeon Cynhwysol
- Hyfforddwr y Flwyddyn
- Seren Ddisglair y Flwyddyn
- Gwobr Cyflawniad Oes
- Gwobr Blaengarwr mewn Chwaraeon
Gellir cael rhagor o fanylion ar bob un o’r categorïau a’r meini prawf, ynghyd â rhagor o fanylion ar y broses enwebu, yma.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch wedsa@wcva.cymru
DOD YN NODDWR
Rydym hefyd yn galw ar fudiadau, busnesau a chefnogwyr i ymuno â ni fel noddwyr. Fel elusen, rydym yn dibynnu ar bartneriaethau i wneud WEDSA yn llwyddiant ac i barhau i hyrwyddo cynrychiolaeth ar draws y sector.
Mae noddi WEDSA yn golygu bod eich brand yn cyd-fynd â gwerthoedd fel tegwch, amrywiaeth a chymuned. Mae’n gyfle i ddangos eich bod yn cefnogi lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn ein helpu ni i greu profiad ysbrydoledig a grymusol i bawb o dan sylw.
Dyma’r pecynnau noddi sydd ar gael:
- Prif Noddwr
- Noddwr Categori
- Noddwr Cefnogwr Cyffredinol
Waeth a ydych chi eisiau noddi categori gwobrwyo penodol neu gefnogi’r digwyddiad yn fwy cyffredinol, byddem yn dwli cael eich cefnogaeth.
Lawrlwythwch eich pecyn noddi yma.
I noddi neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn wedsa@wcva.cymru