Bydd yr Wythnos Elusennau Cymru gyntaf yn cael ei chynnal rhwng 15-19 Tachwedd 2021. Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu’r elusennau, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a’r gwirfoddolwyr sy’n cyfoethogi bywydau pob un ohonom ni yma yng Nghymru.
Gwirfoddoli, rhoi, trio’r her #CotPwyYwrSiacedHon … mae’r rhain yn ddim ond rhai o’r ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan yn yr #WythnosElusennauCymru newydd.
Bydd Wythnos Elusennau Cymru yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni rhwng 15-19 Tachwedd 2021.
Nod yr wythnos yw dathlu a thaflu golau ar waith gwych grwpiau nid-er-elw o bob lliw a llun yng Nghymru.
Wedi’i drefnu gan CGGC, cefnogir Wythnos Elusennau Cymru gan ITV Cymru Wales.
SUT I GYMRYD RHAN
Yn ystod Wythnos Elusennau Cymru, rydyn ni’n gofyn i bobl ddangos eu cariad a’u cefnogaeth i elusennau ar hyd a lled Cymru yn y ffyrdd canlynol:
- Sôn amdanyn nhw ar gyfryngau cymdeithasol
Oes gennych chi hoff elusen sy’n agos at eich calon? Soniwch amdanyn nhw ar blatfform cyfryngau cymdeithasol o’ch dewis. Dywedwch wrthym ni pam eich bod yn eu hoffi a chofiwch ddefnyddio #WythnosElusennauCymru.
Mae gennym ni wahanol thema bob dydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn ni’n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar sut mae elusennau, grwpiau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth bob dydd ledled Cymru.
- Rhoi
Wythnos Elusennau Cymru yw’r adeg berffaith i gyflwyno rhodd i’ch hoff elusen. Cofiwch, nid oes raid iddo fod yn rhodd ariannol – gallai fod yn fag o ddillad neu eitemau eraill i’ch siop elusen leol, neu gallech hyd yn oed roi ychydig o’ch amser drwy wirfoddoli (gweler isod).
Gallwch chi hefyd gymryd rhan yn ein her ‘Cot pwy yw’r siaced hon?’!
- Cofrestru i fod yn wirfoddolwr
Oes gennych chi rywfaint o amser rhydd ac yn teimlo y gallech chi ei ddefnyddio i wneud ychydig o ddaioni? Beth am gofrestru i fod yn wirfoddolwr? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr, mae volunteering-wales.net yn lle da i ddechrau.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am ein themâu ‘sôn amdanynt’ am yr wythnos, a sut i gymryd rhan yn yr her ‘Cot pwy yw’r siaced hon?’ yn ein pecyn ymgyrchu.
SUT GALL ELUSENNAU A GRWPIAU GWIRFODDOL GYMRYD RHAN?
Os ydych chi’n elusen, yn fudiad gwirfoddol neu’n grŵp cymunedol:
- Anfonwch luniau atom ni o’r gwaith gwych rydych chi’n ei wneud i’w harddangos ar oriel gwefan Wythnos Elusennau Cymru (gwnewch yn siŵr bod gennych chi ganiatâd pawb sydd yn y lluniau)
- Rhannwch fideo byr am eich gwaith ar gyfryngau cymdeithasol a chofiwch ddefnyddio #WythnosElusennauCymru. (Gallwch weld canllawiau ‘sut i’ syml ar wefan Wythnos Elusennau Cymru)
- Helpwch ni i amlygu gwaith ein sector drwy rannu pecyn ymgyrchu Wythnos Elusennau Cymru gyda’ch cefnogwyr, ffrindiau, perthnasau, cydweithwyr, cymdogion, pobl rydych chi’n ei gyfarfod ar y stryd, y postman ac ati …
RHAGOR O WYBODAETH
Ewch i wythnoselusennaucymru.cymru i gael gwybod mwy a lawrlwytho’r pecyn ymgyrchu.