Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth San Giles yn cyflwyno Jane Hutt MS i rai o'u gwirfoddolwyr yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr 2025

Cyflwyno dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 02/07/25 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Rydym ni, ynghyd ag amrywiaeth o randdeiliaid gwirfoddoli, yn gyffrous i lansio ein Dull Newydd o Wirfoddoli yng Nghymru.

Rydym wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid gwirfoddoli fel rhan o’r Grŵp Arwain Traws-sector ar Wirfoddoli (Grŵp Arwain) i gyd-greu’r hyn rydym yn ei alw nawr yn ‘Ddull Newydd’ o wirfoddoli yng Nghymru, ac mae hwn yn cael ei lansio heddiw yn gofod3.

PAM DULL NEWYDD?

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AS, Ddatganiad allweddol yn yr Wythnos Ymddiriedolwyr.

‘Rydw i eisiau adeiladu dull gweithredol a phenderfynol o gyflwyno’r cyflyrau a’r cymorth y mae gwirfoddolwyr eu hangen ac yn eu haeddu, fel y gallant dyfu a ffynnu yn y gwaith hanfodol y maen nhw’n ei wneud i bawb yng Nghymru, ei phobl, ei lleoedd a’i chymunedau.’

I wneud hyn, mae angen i ni gydnabod natur newidiol bywydau pobl a’r ffyrdd y mae gwirfoddoli yn rhyngweithio â’u profiadau bob dydd. Mae’n hanfodol ein bod yn datblygu’r ffordd rydym yn denu, recriwtio ac yn cadw gwirfoddolwyr ar draws y sbectrwm gwirfoddoli, o’r rhwydweithiau cymorth anffurfiol y gwelsom yn ystod y cyfnodau clo i wirfoddoli a gefnogir gan gyflogwyr.

BAROD I LANSIO

Ar ôl misoedd o ymgynghori â’r sector yn ystod datblygiad cychwynnol Fframwaith Gweledigaeth a Chyflawni’r Dull Newydd, ac wedyn ymgynghori’n ehangach ar y drafftiau, mae’r Dull Newydd bellach wedi’i gyhoeddi ac ar gael i’w ddefnyddio.

Gallwch ddod o hyd iddo yma.

Lansiwyd y Dull Newydd yn nigwyddiad blaenllaw CGGC, gofod3, gan Jane Hutt AS, gyda chefnogaeth nifer o randdeiliaid sy’n cefnogi’r Weledigaeth a’r dull sy’n cael ei ddefnyddio. Ymhlith y rhain roedd:

  • Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Y Farwnes Tanni Grey-Thompson
  • Dr Lindsay Cordery-Bruce, Prif Gyfarwyddwr CGGC
  • Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Nick Speed, Pennaeth Gwledydd a Rhanbarthau BT, Polisi a Materion Cyhoeddus

BETH NESAF?

Bydd y Grŵp Arwain yn canolbwyntio ar greu cynllun gweithredu i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu’r Dull Newydd ledled Cymru, gan gynnwys datblygu canllawiau ac adnoddau. Cadwch lygad allan am y rhain yn y dyfodol agos.

Yn y cyfamser, os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r Weledigaeth a’n helpu ni i’w chyflawni, cysylltwch â ni fel y gallwn drafod sut i’ch cynorthwyo. Cysylltwch â ni yn gwirfoddoli@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Gwirfoddoli: Curiad calon iechyd a gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Tyfu trwy wirfoddoli

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Gwirfoddolwyr ifanc yn arwain y ffordd yn Rheilffordd Talyllyn

Darllen mwy