A man in a blazer holding a tablet delivers a lecture to seated people

Cyflwyno adroddiad ar y Gyllideb ddrafft

Cyhoeddwyd : 03/02/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.

Cyflwynodd CGGC ymateb ysgrifenedig i’r ymgynghoriad a mynd i sesiwn graffu i roi tystiolaeth lafar. Yn dilyn hyn, rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod yn cytuno â nifer o argymhellion y Pwyllgor ac yn eu cefnogi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ymgorffori’r Nodau Llesiant mewn cyllidebau yn y dyfodol
  • Datblygu Cynllun Gwella Cyllidebau
  • Deall effaith y gyllideb o ran carbon yn well
  • Gwneud mwy i gynllunio sefyllfaoedd i ymateb i heriau ac ansicrwydd economaidd – fel y rheini mae’r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd o ganlyniad i gylchoedd cyllidebu tymor byr
  • Dadansoddi gwariant ataliol o fewn y Gyllideb
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddod o hyd i ffyrdd gwell o gasglu tystiolaeth a chyfleu sut mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i nodi blaenoriaethau a gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r gyllideb.
  • Datblygu strategaethau newydd i wella cyfleoedd addysg, sgiliau a chyflogaeth y bobl mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma. Mae ein hymateb i’r ymgynghoriad i’w weld yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 11/03/26
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Datganiad ar y Cyd: Cynnal effaith gymunedol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/11/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad: gall gwasanaethau iechyd a gofal y sector arbed arian cyhoeddus

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 17/07/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Cyfamod Cymdeithas Sifil newydd y DU

Darllen mwy