Mae Hope Rescue wedi elwa ar ychydig o gapasiti ychwanegol ac aelodau staff newydd gwych diolch i Gynllun Kickstart.
Gall mudiadau gwirfoddol yng Nghymru elwa ar leoliadau gwaith chwe mis wedi’u talu’n gyfan gwbl gan Kickstart. Gyda phum lleoliad rhwng y siop elusen, y lletyau cŵn a’r dderbynfa, mae Hope Rescue wedi cael profiad ‘eithriadol o bositif’ gyda’u pobl Kickstart ifanc.
CYMORTH HANFODOL I’R SIOP ELUSEN
Mae Nicole wedi bod yn gweithio yn y siop elusen yn rhoi cymorth mawr ei angen i oruchwyliwr y siop ac arweiniad ardderchog i wirfoddolwyr y siop.
‘Gwnaeth y rhai ar leoliad yn y siop fwrw iddi cyn gynted ag y gwnaethant gyrraedd,’ meddai Meg, Rheolwr Datblygu Mentrau Hope Rescue.
‘Yn ystod eu lleoliad, cynhaliwyd ymgyrch recriwtio gwirfoddolwyr a chawsom lawer o ddechreuwyr newydd. Er mai ein rheolwyr oedd yn rhoi’r holl hyfforddiant swyddogol iddynt, roedd ein merched Kickstart yn wych o ran rhoi cymorth yn y swydd ac ateb eu cwestiynau ac ailadrodd ein polisïau a’n gweithdrefnau.’
‘Gwnaethon ni hefyd ddechrau ein siop eBay newydd a chafodd y ddwy ar leoliad eu hyfforddi ar sut i restru eitemau a chwblhau’r trafodion, ochr yn ochr â’n siop ar-lein, er mwyn gallu ychwanegu profiad o e-fasnach i’w CVs.’
‘Heb ddibynadwyedd a pharodrwydd ein dwy ferch ar leoliad, ni fydden ni wedi gallu lansio ein siop eBay – felly maen nhw wedi cael effaith enfawr.’
GWEITHIO YN Y LLETYAU CŴN A’R DDERBYNFA
‘Mae ein pobl ar leoliad yn y lletyau cŵn eu hunain hefyd wedi bwrw iddi – ond mewn swydd gwbl wahanol!’, eglurodd Meg.
Gall cadw’r ardaloedd byw yn hylan ac yn daclus i gŵn Hope fod yn waith budr a drewllyd, ond mae’r cyflogeion Kickstart wedi mynd ati’n gwbl ddiffwdan a heb gwyno unwaith. Mae’r rhai ar leoliad hefyd wedi ymdrin ag amrywiaeth o broblemau ymddygiad ac anghenion ar ôl cwblhau cwrs ymddygiad cŵn mewnol Hope, sy’n achrediad arall y byddan nhw’n eu hychwanegu at eu CVs.
‘Mae ein hunigolyn ar leoliad wedi’i geni i fod ar y dderbynfa,’ meddai Meg. ‘Ychydig iawn o hyder oedd ganddi ar y dechrau, ond nawr, mae wrth y ddesg flaen yn ateb galwadau ac yn helpu cwsmeriaid. Mae hyn wedi bod yn fendith i ni o ran rhyddhau amser ein timau gweinyddol, gan dynnu’r pwysau oddi ar staff sydd fel arfer â’u trwyn ar y maen.’
A ALLECH CHI ELWA AR KICKSTART?
Mae Hope Rescue wedi cael profiad mor wych gyda’u cyflogeion Kickstart, fel eu bod nhw’n gwneud cais nawr am ddau leoliad ychwanegol drwy’r cynllun.
Mae mudiadau gwirfoddol fel Hope yn cynyddu eu capasiti, gan gefnogi datblygiad rhywun ifanc ar yr un pryd. A allech chi elwa ar leoliadau gwaith wedi’u talu’n llawn, heb fawr iawn o waith gweinyddol a chyllideb hael ar gyfer datblygiad personol?
Darganfyddwch sut gallwn ni eich helpu i fynd ar y Cynllun Kickstart.