Mae gennym ni swyddi gwag yn ein tîm grantiau uchel eu perfformiad am Swyddog Cymorth Grantiau a dau Swyddog Cymorth Grantiau dan Hyfforddiant.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Yn CGGC, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth.
Fel cyflogwr, gall Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) gynnig nifer o fuddion fel gweithio hybrid a hyblyg, pensiwn ar 9% o’ch cyflog a mynediad at raglen cynorthwyo cyflogeion.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.
SWYDDOG CYMORTH GRANTIAU
Oriau: 35 awr yr wythnos, yn hyblyg
Lleoliad: Mae gan CGGC bolisi gweithio hybrid a hyblyg ar waith, sy’n golygu y gall ein pobl weithio cyfran o’u hamser yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref. Rydym yn fudiad Cymru gyfan gyda chanolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd, ac mae gennym staff sy’n gweithio’n hybrid ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys nifer sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru. Bydd angen dod i’n swyddfeydd o bryd i’w gilydd ar gyfer digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol.
Cyflog: £27,101 yn cynyddu i £32,323 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus.
Ynglŷn â’r rôl: Mae hwn yn gyfle ardderchog i rywun sy’n chwilio am rôl sy’n helpu i gefnogi gweithgareddau cymunedol ledled Cymru. Mae hefyd yn gyfle i unrhyw un sy’n defnyddio’i synnwyr cyffredin ac yn mynd ati mewn modd cefnogol i wneud defnydd da o’i sgiliau yn helpu CGGC i gyflawni ei ddiben, sef galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
Dyddiad cau: 29 Medi 2025
Darllenwch y disgrifiadau swydd llawn ar Recruit3
SWYDDOGION CYMORTH GRANTIAU DAN HYFFORDDIANT
Oriau: 35 awr yr wythnos, yn hyblyg
Lleoliad: Mae gan CGGC bolisi gweithio hybrid a hyblyg ar waith, sy’n golygu y gall ein pobl weithio cyfran o’u hamser yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref. Rydym yn fudiad Cymru gyfan gyda chanolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Chaerdydd, ac mae gennym staff sy’n gweithio’n hybrid ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys nifer sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru. Bydd angen dod i’n swyddfeydd o bryd i’w gilydd ar gyfer digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol.
Cyflog: £22,932 y flwyddyn gyda’r cyfle i godi i £27,101 y flwyddyn ar ôl cyfnod hyfforddi llwyddiannus. Bydd hwn wedyn yn codi i £32,323 y flwyddyn – gan symud drwy’r amrediad cyflog yn unol â chwblhau’r cyfnod prawf a’n proses adolygu perfformiad yn llwyddiannus.
Ynglŷn â’r rôl: Mae gennym ddwy swydd wag fel Swyddogion Cymorth Grantiau dan Hyfforddiant. Mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer un ac yn ddymunol ar gyfer y llall.
Bydd eich gwaith chi yn ein helpu i redeg rhaglen grantiau eithriadol, gan rymuso mudiadau gwirfoddol i gael effaith barhaol, go iawn yn eu cymunedau. Byddwch yn cefnogi CGGC i fod y prif gyllidwr aml-fformat yng Nghymru, gan ddefnyddio arloesedd i gefnogi’r sector gwirfoddol a manteisio i’r eithaf ar ein cydberthnasau cyllido i ehangu ein heffaith a’n darpariaeth.
Dyddiad cau: 1 Hydref 2025
Darllenwch y disgrifiadau swydd llawn ar Recruit3
SUT I WNEUD CAIS
I wneud cais, lawrlwythwch y pecyn ymgeisio isod:
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.