Cyfleoedd i ddylanwadu: dweud eich dweud ar bolisïau Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd : 23/09/21 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae CGGC wrthi’n gweithio ar ymateb i ddau o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru sy’n edrych ar feysydd hollbwysig y mae’r sector gwirfoddol yn ymwneud â nhw. Mae angen i ni glywed gan gymaint â phosibl o leisiau’r sector fel y gallant gael eu cynnwys yn ein hymateb a’u clywed gan Lywodraeth Cymru, gan ddylanwadu o bosibl ar ei phenderfyniadau wrth symud ymlaen.

Cynllun Gweithredu LHDTC+

Mae’r un gyntaf yn edrych ar Gynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru. Nod y Cynllun yw ‘mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau strwythurol a brofir ar hyn o bryd gan gymunedau LHDTC+, herio achosion o wahaniaethu a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu yn agored ac yn rhydd fel nhw eu hunain’.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn nifer o gwestiynau ynghylch gwirfoddoli a mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr. Rydyn ni’n ceisio cael barnau’r sector i’w hystyried yn ein hymateb drwy’r arolwg hwn. Dylai gymryd 15-20 munud i’w gwblhau a bydd yn cau ar 1 Hydref 2021.

Mesur cynnydd ein cenedl

Mae’r ail yn edrych ar ddatblygu dangosyddion a cherrig milltir er mwyn mesur cynnydd Cymru fel cenedl. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ‘y gall gosod cerrig milltir cenedlaethol yn erbyn y dangosyddion hyn helpu i ysgogi cydweithredu, yn ogystal â’n helpu i ddeall cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant’. Mae CGGC yn awyddus i ddeall pa wybodaeth sydd gan y sector gwirfoddol am waith Llywodraeth Cymru ar ddatblygu Dangosyddion a Cherrig Milltir Cenedlaethol a sut mae’r sector yn cymryd rhan yn y gwaith hwn.

I wneud hyn, rydyn ni wedi datblygu arolwg byr  i geisio ein helpu ni i greu darlun o gysylltiad y sector. Dylai gymryd oddeutu 10 munud i’w gwblhau. Bydd yr arolwg hwn yn cau ar 15 Hydref.

Yn ôl pob tebyg, bydd hwn yn agwedd bwysig ar bolisïau Llywodraeth Cymru wrth symud ymlaen, felly mae’n gwbl hanfodol ein bod yn clywed gan gymaint â phosibl o leisiau’r sector cyn llunio ein hymateb i’r ymgynghoriad

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch yr ymgynghoriadau hyn, cysylltwch â David Cook, Swyddog Polisi CGGC, ar dcook@wcva.cymru

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Cynllun gweithlu yn chwilio am fewnwelediad i rôl gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl

Darllen mwy