Cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc yn bosibl gyda Grantiau a arweinir gan Ieuenctid

Cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc yn bosibl gyda Grantiau a arweinir gan Ieuenctid

Cyhoeddwyd : 22/02/21 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae STEER yn rhannu effeithiau cadarnhaol y Grantiau a arweinir gan Ieuenctid ar eu prosiectau gwirfoddoli ieuenctid.

Mae’r Ganolfan Adnoddau a Llesiant 37 erw yn Fferm Tondu House, ar gyrion Cwm Llynfi, yn darparu lleoliad diddorol ond heddychlon ar gyfer pobl o bob oed. Mae STEER yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd ar hyn o bryd sy’n cefnogi rhai o aelodau mwyaf agored i niwed eu cymuned a thu hwnt.

Mae’r gwirfoddolwyr ifanc yn y ganolfan yn cael cynnig amrediad eang o gyfleoedd sy’n gysylltiedig â nodau a dyheadau gyrfaol. Caiff pob unigolyn ifanc Gynllun Datblygu Personol, i gynorthwyo ag unrhyw anghenion a rhwystrau i ddysgu, ac mae hwn yn cefnogi datblygiad cadarnhaol.

Gyda help Grantiau a arweinir gan Ieuenctid trwy BAVO ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, cafodd 20 o bobl ifanc gymorth i ddechrau ar eu taith gwirfoddoli. Roedd rhai o’r myfyrwyr hyn yn agos at gael eu gwahardd o’r ysgol, ond mae’r cyfle hwn i ymhél â’r ganolfan awyr agored wedi rhoi’r cymhelliant iddynt fod yn falch o’u cyflawniadau eu hunain ac wedi rhoi rhywbeth iddyn nhw edrych ymlaen ato.

Maen nhw wedi cynnal ymddygiad cadarnhaol yn yr ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn mynychu’r rhaglen wirfoddoli yn STEER. Gwnaeth tri unigolyn ifanc, a oedd ar fin cael eu gwahardd o’r ysgol, lwyddo i gael presenoldeb llawn bob wythnos ar y rhaglen wirfoddoli.

Cafodd y prosiect gwirfoddoli ieuenctid effaith gadarnhaol dros ben ar iechyd meddwl pobl ifanc hefyd. Cafodd 12 o bobl ifanc eu hatgyfeirio i STEER o wasanaethau cymorth iechyd meddwl ac maen nhw wedi cael canlyniadau cadarnhaol iawn ers hynny.

Mae gwirfoddoli wedi lleddfu eu straen a’u gorbryder cynyddol, ac mae gwirfoddoli yn yr awyr agored wedi darparu lleoliad delfrydol i gefnogi eu llesiant.

‘WEDI’U RHYDDHAU O STRAEN BYWYD BOB DYDD …’

Gwnaeth dau unigolyn ifanc fynd gam ymhellach ar eu taith wirfoddoli mewn nifer o gynadleddau i ddarparu llais pobl ifanc yn eu cymunedau eu hunain, lle y gwnaethant rannu eu profiadau eu hunain o iechyd meddwl gwael ag effaith cadarnhaol gwirfoddoli yn y ganolfan.

Gwnaeth y ddau unigolyn ifanc hyn hefyd fynychu cynhadledd gyda’r Bwrdd Iechyd lleol ac maen nhw bellach yn gynrychiolwyr pobl ifanc ar y bwrdd.

‘Mae’r Grant a arweinir gan Ieuenctid wedi rhoi parth dysgu pellach i ni sydd wedi ein galluogi i gynorthwyo’r rheini ag anghenion cymhleth,’ meddai Tracy Mills, Prif Weithredwr STEER.

‘Yn ôl ein gwirfoddolwyr, mae mynychu ein sesiynau gwirfoddolwyr wedi’u rhyddhau o straen bywyd bob dydd ac wedi gwella eu llesiant eu hunain’, ychwanegodd.

GRANTIAU A ARWEINIR GAN IEUENCTID

Wedi’u dosbarthu gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) ar hyd a lled Cymru, mae’r Grantiau a arweinir gan Ieuenctid yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau gwirfoddoli bach a gweithgareddau a arweinir ac a gyflawnir gan bobl ifanc. Yn 2020/21, cyllidwyd y prosiectau i fynd i’r afael â chwe maes blaenoriaethol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a allai wneud y cyfraniad mwyaf i ffyniant a llesiant hirdymor.

I ddysgu mwy am wirfoddoli i bobl ifanc yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ‘Gwneud gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yn anhygoel yng Nghymru!‘ lle byddwn yn archwilio arfer gorau a sut y gallwn sicrhau profiadau cadarnhaol i wirfoddolwyr ifanc.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy