Zahira Gousy yn graddio o raglen datblygu gyrfa ILM, gydag aelodau o'r tîm sir Teg.

Cyfleoedd datblygu gyrfa yn agor

Cyhoeddwyd : 13/11/20 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau |

Dylai menywod sy’n gweithio, o bob cwr o Orllewin Cymru a’r Cymoedd, gymryd y cyfle i roi hwb i’w gyrfaoedd – dyna’r neges gan Chwarae Teg, a chyn-ddysgwyr, wrth lansio’r cylch nesaf o hyfforddiant sydd wedi’i gyllido’n gyfan gwbl. 

Mae Chwarae Teg, yr elusen cydraddoldeb rhywiol, sy’n gweithio tuag at wella sefyllfa menywod o fewn economi Cymru, wrthi’n hyrwyddo’i Rhaglen Datblygu Gyrfa.

Hyd yma mae miloedd o fenywod wedi cymryd rhan, gyda chyfranogwyr yn adrodd am ddyrchafiadau, cyfrifoldebau newydd a symud ymlaen i rolau newydd sy’n gofyn am sgiliau a chymwyseddau uwch. Maen nhw hefyd wedi derbyn codiad cyflog cyfunol o dros £3miliwn.

Mae’r cwrs yn fenter unigryw ac ysbrydoledig sy’n cynorthwyo menywod sy’n gweithio i ddatblygu gwybodaeth, hyder a sgiliau ar gyfer rolau arwain tîm neu reoli. Fe’u cefnogir gydol y cwrs gan dîm ymroddedig Chwarae Teg sy’n darparu hyfforddiant a mentora arbenigol, a golyga’r hyfforddiant ei hun fod modd i gyfranogwyr dderbyn cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheoli Lefel 2 wedi’i achredu.

ZAHIRA

Pan wnaeth cydweithiwr iddi argymell y rhaglen i Zahira Gousy, ​Arbenigwr Gwelliant Parhaus, ConvaTec fe ymgeisiodd am le ac mae’n dweud i’r penderfyniad gael effaith gadarnhaol ar ei gyrfa:

‘Yn ogystal â darparu cyfle i mi adlewyrchu arnaf fy hun a fy ngwaith, fe helpodd y rhaglen fi i ddeall fy steil arwain naturiol a’r agweddau o fy natur a fyddai’n fy ngwneud yn arweinydd da.

‘Fe alluogodd fi i ail-lunio fy meddylfryd ynglŷn â fy sgiliau a fy llwyddiannau mewn goleuni cadarnhaol a datblygu meddylfryd twf sydd wedi aros gyda mi. A hyn i gyd tra fy mod wedi fy amgylchynu gan fenywod oedd yn fy nathlu wrth i ni ddysgu gyda’n gilydd.’ 

CARYS

Fe grëodd adborth gan gyfranogwyr blaenorol argraff ar Carys Godding, Peiriannydd ATC, Dŵr Cymru. Fe gofrestrodd ar gyfer y cwrs a dydy hi heb edrych yn ôl wedi hynny:

‘Rhoddodd y rhaglen gyfle i mi gymryd amser allan er fy mwyn fy hun, gwerthuso fy sgiliau a deall fy nghryfderau – sydd, yn ei dro, wedi gwella fy ngalluoedd cyfathrebu ac arwain. Rwyf bellach dipyn yn fwy hyderus yn fy rôl ac mae gennyf sgiliau gwerthfawr i’m symud ymlaen i’r lefel nesaf o reolaeth. Byddwn yn argymell y rhaglen yn gryf i fenywod eraill.’

Yn sgil Covid-19 cynhelir y cwrs ar hyn o bryd trwy ddefnyddio amgylchedd fyw rithiol, sydd wedi’i gynllunio i fod yn rhyngweithiol ac i ennyn diddordeb.

Wedi’i chyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, mae’r rhaglen ar gael i fenywod sydd:

  • Ar hyn o bryd wedi’u cyflogi, hyd yn oed os yw hynny’n rhan amser neu am ychydig oriau, ac sy’n gweithio yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd;
  • Yn gweithio yn y sector preifat neu wirfoddol (nid yw gweithwyr y sector cyhoeddus yn gymwys);
  • Ar hyn o bryd yn gweithio mewn rôl nad yw wedi’i chyllido gan unrhyw raglen Ewropeaidd arall.

Am fwy o fanylion ac i ymgeisio ar gyfer y rhaglen nesaf, a fydd yn dechrau ym mis Ionawr 2021, dylai menywod fynd i: chwaraeteg.com/an2-womens-programme-application. Yna, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drafod addasrwydd a’r camau nesaf.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/08/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl am 2024!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/06/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau |

Edrychwch ar hyfforddiant diogelu gydag CGGC

Darllen mwy