Mae CGGC yn falch o weithio â llu o gyflenwyr dibynadwy, sy’n rhannu ein diben i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth. 

Mae ein cyflenwyr dibynadwy yn darparu arweiniad a gwybodaeth arbenigol yn ogystal â chynigion arbennig i’n haelodau. Rydym wedi dewis yr arbenigwyr hyn yn y diwydiant yn ofalus ac wedi llwyddo i sicrhau cynigion sy’n bodloni anghenion ein haelodau. O wasanaethau yswiriant i atebion technoleg a chyfathrebu, mae ein cyflenwyr dibynadwy yn arbenigwyr yn eu maes ac yn barod i’ch helpu gydag anghenion eich mudiad.

Utility Aid

Mae Utility Aid yn bodoli i helpu mudiadau nid-er-elw i ddod o hyd i ynni.

Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n profiad. Rydym yn rhagweld a datrys problemau. Uwchlaw popeth, mae pawb yn Utility Aid wedi’u huno gan eu hawydd i wneud mwy o ddaioni i’n rhanddeiliaid, ac mae hynny yn ein gwneud ni’n wahanol o ran sut ydym ni fel busnes.

Rydym wedi bod yn helpu elusennau a mudiadau nid-er-elw i leihau eu costau ynni ers dros 20 mlynedd. Ymhlith pethau eraill, mae hyn wedi cynnwys adhawlio gordaliadau, rheoli gwaith gweinyddol a chynghori ar bob mater sy’n ymwneud ag ynni. Mae ein cwsmeriaid yn cynnwys cymdeithasau tai a grwpiau cymunedol, ysgolion, eglwysi a gwasanaethau cymorth rheng flaen.

Rydym yn trin pob achos yn unigryw, gan ddefnyddio ein blynyddoedd o brofiad o weithio ar draws awdurdodau a mudiadau di-ri o bob math a maint.

Sut gallwn ni eich helpu?

Bwciwch eich sesiwn ymgynghori am ddim!

Fel aelod o CGGC, gallwch elwa ar sesiwn ymgynghori am ddim gydag Utility Aid, waeth a oes angen cymorth arnoch i ddeall eich biliau, gwirio a ydych yn talu’r TAW cywir neu os oes angen cyngor arnoch ar ddechrau ar eich taith tuag at Sero Net.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm Partneriaeth.

ffôn: 0808 178 2021

e-bost: SSteele@utility-aid.co.uk

Neu fel arall, anfonwch ymholiad atom yn *www.utility-aid.co.uk/contactform/WCVA

Darwin Gray

Logo glas tywyll Darwin Gray

Mae Darwin Gray yn gwmni gwobrwyol o arbenigwyr cyfreithiol sy’n cynnig cyngor cyfreithiol wedi’i deilwra i unigolion a busnesau. Yn gwmni gwirioneddol Cymru gyfan, mae Darwin Gray yn falch o wasanaethu busnesau a mudiadau ledled Cymru, o’n cartrefi yng Nghaerdydd a Bangor.

Rydym yn falch o wasanaethu ein cleientiaid a chefnogi ein cymuned ac yn sicrhau bod uniondeb a thegwch wrth wraidd popeth a wnawn.

Cymorth cyfreithiol i elusennau a mudiadau’r sector gwirfoddol

Rydym yn cynrychioli llawer o fudiadau’r sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus, yn ogystal ag elusennau, ar hyd a lled Cymru. Yn aml, byddwn yn cynghori’r cleientiaid hyn yn Saesneg, Cymraeg neu’n ddwyieithog ac yn cynnal sesiynau hyfforddi rheolaidd i’r sectorau hyn yn benodol. Ymhlith yr enghreifftiau o sesiynau rydym wedi’u cyflwyno mae Cydraddoldeb a Hawliau yn y gwaith, Hanfodion Adnoddau Dynol a Rheoli Llinell a hyfforddiant ar Aflonyddu Rhywiol.

Hyfforddiant llywodraethu ac adnoddau dynol a gwiriadau iechyd

Yn ogystal â chynghori ar faterion sy’n ymwneud â chyfraith cyflogaeth, rydym hefyd yn cynghori elusennau a mudiadau’r sector gwirfoddol ar eu materion llywodraethu. Mae hyn yn cynnwys paratoi neu fwrw llygad dros gyfansoddiadau, erthyglau a chodau ymddygiad ar gyfer ymddiriedolwyr neu aelodau bwrdd, yn ogystal â chynghori mewn anghydfodau bwrdd.

Rydym hefyd yn cynnig ‘gwiriad iechyd’ o ddogfennau llywodraethu ac adnoddau dynol (gan gynnwys contractau a pholisïau cyflogaeth) i helpu mudiadau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol a llywodraethol a’u helpu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau gwaith iach â’u staff.

Hyfforddiant ar gyfer ymddiriedolwyr, pwyllgorau ac aelodau bwrdd

Mae arweinyddiaeth gref a chymwys a llywodraethiant cadarn yn hanfodol i fudiadau’r sector gwirfoddol a mudiadau elusennol. Mae angen i’ch arweinwyr ddeall eu rhwymedigaethau llywodraethu a gwybod sut i roi mewnwelediad strategol a chraffu ar y mudiad mewn modd strategol. Gallwn gynnig hyfforddiant llywodraethu corfforaethol i’ch ymddiriedolwyr neu fwrdd cyfarwyddwyr, eich pwyllgor risg ac archwilio, neu eich tîm uwch-reolwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn fwy na pharod i gyflawni eu rolau pwysig.

I gael gwybod mwy, ewch i wefan Darwin Gray.

recruit3

Cafodd recruit3 ei ddatblygu yng Nghymru ar y cyd â CGGC a The Big Issue Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i bobl dalentog ac uchelgeisiol i weithio yn y trydydd sector yng Nghymru a helpu pobl i ddod o hyd i swyddi sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Drwy gyfuniad o’n gwefan, cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau print byddwn yn dod o hyd i’r ymgeiswyr gorau ar gyfer eich swydd wag yn gyflym ac yn effeithlon. Rydyn ni’n cynnig pecynnau wedi’u teilwra i gyd-fynd â’ch cyllideb a gallwn hyrwyddo’r swydd wag yn y Gymraeg ac yn Saesneg i sicrhau eich bod yn dod o hyd i’r ymgeisydd iawn.

Mae recruit3 yn cael ei redeg ar gyfer y trydydd sector gan y trydydd sector i hyrwyddo eich swydd wag mewn ffordd gost-effeithiol ac wedi’i theilwra er mwyn sicrhau eich bod yn dod o hyd i’r unigolyn iawn ar gyfer eich mudiad.

Mae’n bleser gennym gynnig disgownt o 5% i aelodau CGGC oddi ar y pecyn recriwtio rydych chi’n ei ddewis gyda ni.

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion recriwtio.

Cofiwch sôn eich bod yn aelod o CGGC pan fyddwch chi’n cysylltu i gael manteisio ar eich disgownt.

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Wrth i fudiadau gwirfoddol ac elusennau roi mwy o bwyslais ar ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gweithgareddau, gall aelodau CGGC fanteisio ar brisiau gostyngol ar wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd gan lawer o aelodau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

I ddod o hyd i aelod all wneud hyn, ewch i wefan y Gymdeithas – https://www.cyfieithwyr.cymru/cy/dod-o-hyd-i-gyfieithydd – cliciwch ar ‘Cyfieithydd’ neu ‘Cyfieithydd ar y pryd’ ac yna ewch i ‘Cynnig Cyfieithu WCVA’. Bydd rhestr o aelodau sydd wedi nodi y gallent gynnig gwasanaeth am bris gostyngol yn ymddangos. Bydd angen i chi gysylltu â hwy yn uniongyrchol. Bydd y gostyngiadau a gynigir yn amrywio. Mater i bob cyfieithydd fydd penderfynu faint o ostyngiad i’w gynnig.

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol. Hi yw’r unig gymdeithas broffesiynol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg/Saesneg, p’un a ydynt yn gyfieithwyr testun ynteu’n gyfieithwyr ar y pryd. Mae gan y Gymdeithas dair lefel o aelodaeth: Cyflawn a Sylfaenol ym maes cyfieithu testun, ac aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd (CAP); yn ogystal â threfn ar gyfer cydnabod cwmnïau cyfieithu. Rhaid i bob aelod ymrwymo i God Ymddygiad Proffesiynol y Gymdeithas.

Defnyddiwch swyddfa@cyfieithwyr.cymru i gysylltu â’r Gymdeithas.