Mae gennym ddeg arolwg ynni wedi’u cyllido ar gael fel rhan o’n cynllun Effeithlonrwydd Ynni, peidiwch â cholli’ch cyfle!
GRANTIAU AROLYGON
Mae’r cyllid hwn yn caniatáu i chi wneud cais am grant o £1,000 tuag at gost cynnal arolwg ynni yn eich eiddo.
Bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu fel a ganlyn:
- Daearyddiaeth – er mwyn sicrhau gwasgariad teg dros Gymru
- Canlyniad – yr arbedion posibl y gellid eu gwneud ar sail maint y biliau ynni
- Effaith – y pwysigrwydd ariannol i’r mudiad o leihau costau ynni
- Maes gwaith – er mwyn sicrhau gwasgariad ar draws rhannau gwahanol o’r sector gwirfoddol yng Nghymru
- Ymrwymiad i weithredu – a yw’r mudiad yn gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r broblem?
YNGLŶN Â’R CYNLLUN EFFEITHLONRWYDD YNNI
Mewn arolwg diweddar gan CGGC, y pryder mwyaf oedd yn wynebu sector gwirfoddol Cymru yn y flwyddyn i ddod oedd y costau ynni uwch.
I fynd i’r afael â hyn, mae mudiadau gwirfoddol o bob cwr o Gymru yn wynebu cwestiynau fel ‘beth allwn ni ei wneud?’, ‘pwy allwn ni ddibynnu arno i wneud gwaith da?’, ‘sut allwn ni wybod a yw’n gynnig da?, a ‘sut gallwn ni dalu amdano?’
Mae tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC) CGGC yn gweithio gyda Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, *Moondance Foundation, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru ac amrediad o arbenigwyr y diwydiant i gynnig Cynllun Effeithlonrwydd Ynni i’ch helpu chi i ateb y cwestiynau hyn. Mae’r cynllun yn dod â chyngor, cyllid ac arbenigedd ynghyd mewn un lle.
Rhagor o wybodaeth am y cynllun.
Noder: Nid oes gennym gyllid ar gyfer grantiau gosod mwyach, dim ond ceisiadau am grantiau arolygon sy’n parhau i fod ar agor.
I BWY MAE’R CYNLLUN
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn, rhaid i’ch mudiad fod:
- Wedi’i gyfansoddi’n addas gyda strwythur llywodraethu cydnabyddedig
- Yn berchen ar ei eiddo rhydd-ddaliadol ei hun neu â lesddaliad hir (o leiaf 25 mlynedd)
- Â bil ynni blynyddol o £10,000 y flwyddyn o leiaf
- O fewn Cymru
SUT I WNEUD CAIS
Er mwyn gwneud cais am y grantiau arolwg fel rhan o Gynllun Effeithlonrwydd Ynni, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ymgeisio Amlbwrpas (MAP) CGGC, gallwch fewngofnodi drwy nodi eich enw defnyddiwr a chyfrinair ar y dudalen gartref.
Gall mudiadau gofrestru trwy fynd i’r wefan: map.wcva.cymru.
RHAGOR O WYBODAETH
Am ragor o fanylion ar y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni, ewch i’n tudalen, Cynllun Effeithlonrwydd Ynni.
Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â’n tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru am sgwrs ar 0300 111 0124 neu e-bostiwch sic@wcva.cymru.
*Saesneg yn unig