Wrth i’r cloc gyfri i lawr ar gyllid Ewropeaidd, mae grwpiau yn cael eu hannog i wneud cais am gylchau terfynol y Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol a’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol.
Ydych chi eisiau gwarchod canolfan cymunedol lleol neu dafarn yn eich ardal? Neu oes gennych chi syniad am fusnes cymdeithasol neu eisiau mynd â’ch busnes i’r lefel nesaf? Dyma eich cyfle olaf i wneud cais am gyllid Ewropeaidd i wireddu’r pethau hyn.
Mae gan CGGC dwy gronfa wahanol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Mae’r Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol (CADF) yn cynorthwyo busnesau cymdeithasol sy’n ceisio dod ag ased cymunedol o dan berchnogaeth cymuned, a’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol (SBGF) yn cynorthwyo busnesau cymdeithasol yn ariannol er mwyn eu galluogi i ddysgu a chreu cyfleoedd swydd.
BETH ALL Y CYLLID EI WNEUD I CHI
Ydych chi’n gobeithio dod ag ased o dan berchnogaeth cymuned ac wedi sylweddoli bod cyfleoedd cynhyrchu incwm posibl o ganlyniad i hyn? Gallai CADF fod yn berffaith i chi, oherwydd mae’n cynnig cyllid i brynu neu ailwampio ased a fydd yn cynhyrchu canlyniadau cymdeithasol yn ogystal â rhai ariannol.
Gall SBGF helpu i wthio busnesau cymdeithasol ymlaen gyda chyllid i fuddsoddi mewn gweithgareddau cynhyrchu incwm, creu swyddi a’u gosod ar y llwybr i fod yn hunangynhaliol.
Ond brysiwch, dyma’r cyfle olaf i fanteisio ar y cronfeydd hyn.
SIARADWCH Â NI CYN GWNEUD CAIS
Gofynnir i unrhyw fudiad â diddordeb gysylltu â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn CGGC i siarad drwy ei syniadau a gweld a allai fod yn gymwys i gael cyllid.
Gall mudiadau wneud cais am hyd at £150,000 o gyllid drwy CADF ac SBGF, mewn cymysgedd o gyllid grant a chyllid ad-daladwy.
Mae amser yn brin i wneud cais.
Cysylltwch â Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru i drafod eich syniadau buddsoddi.
E-bost: sic@wcva.cymru
Ffôn: 0300 111 0124
RHAGOR O WYBODAETH AM CADF
Cyd-fentro, cyd-elwa
Mae’r Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol (CADF) yn cynorthwyo busnesau cymdeithasol sydd am ddod ag ased o dan berchnogaeth gymunedol – drwy un o’r ffyrdd canlynol;
- prynu’r ased
- prynu ac ailwampio’r ased
- ailwampio ased sydd eisoes yn bodoli ond nad yw’n cael ei ddefnyddio’n llawn
- cyfarparu ased
Gall y math o ased amrywio o glybiau cymdeithasol/chwaraeon, neuaddau cymunedol, canolfannau cymunedol, tafarndai cymunedol ac ati.
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos sut bydd y gweithgareddau a gyllidir yn creu newid positif o ran effaith gymdeithasol yn ogystal â newid positif o ran cynhyrchu incwm.
Cyllidir y Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru a chaiff ei weinyddu gan Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru.
RHAGOR O WYBODAETH AM SBGF
Rhoi arian ar waith mewn cymunedau
Bydd Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol (SBGF) yn rhoi cymorth ariannol i fusnesau cymdeithasol yng Nghymru i’w galluogi i dyfu a chreu cyfleoedd swydd. Fe’i cyllidir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru a chaiff ei gweinyddu gan Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru.